Newyddion

17/10/2018

Cymorth gan Lywodraeth Cymru ar gyfer ein datblygiad tai arloesol ym Mhen-y-bont ar Ogwr

Mae Tai Wales & West wedi sicrhau £839,000 ar ffurf cyllid arloesi gan Lywodraeth Cymru tuag at gost cynllun peilot ym Mhen-y-bont ar Ogwr i adeiladu cartrefi a fydd yn gallu cynhyrchu eu hynni eu hunain.

Bydd y gwaith yn cychwyn ar 14 o gartrefi newydd ar dir i’r gorllewin o Fryn Bragl, Pen-y-bont ar Ogwr ddechrau flwyddyn nesaf, a disgwylir iddo gymryd 12 mis i’w gwblhau.

Y datblygiad hwn yw’r cynllun tai cyntaf yng Nghymru i ddilyn dyluniad arloesol Tŷ Solcer yn Stormy Down ger Pen-y-bont ar Ogwr, a ddyluniwyd ac a adeiladwyd gan Ysgol Pensaernïaeth Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd.

Disgwylir i’r gwaith ar y cynllun sy’n cynnwys fflatiau un ystafell wely a thai sy’n cynnwys dwy a phedair ystafell wely, gychwyn yn nes ymlaen eleni.

Y Tŷ Solcer oedd y tŷ cost isel cyntaf a chadarnhaol o ran ynni yng Nghymru, ac mae’n cynhyrchu mwy o wres a thrydan na’r hyn y mae’n ei ddefnyddio mewn blwyddyn.  Yn yr un modd â’r Tŷ Solcer, bydd cartrefi newydd WWH yn cynnwys y technolegau adnewyddadwy ac arbed ynni diweddaraf.  Disgwylir i’r preswylwyr a fydd yn symud i’r cartrefi newydd weld gostyngiad o 90 y cant yn eu biliau oherwydd y dylai’r cartrefi gynhyrchu mwy o drydan nag y maent yn ei ddefnyddio mewn gwirionedd.

 

Mae rhai o’r prif dechnolegau a ddefnyddir yn y cartrefi yn cynnwys:

  • Toeon wedi’u gwneud o baneli ffotofoltäig (solar) yn hytrach na theils
  • Batris ïon lithiwm sy’n storio trydan a gynhyrchir gan yr haul, y gall deiliaid y tai eu defnyddio yn y nos
  • Pympiau gwres ffynhonnell aer sy’n defnyddio gwres o’r aer i bweru system wresogi a dŵr poeth y tŷ
  • Paneli wal dur (Casglwyr Solar Nawsio (TSC) ar y wal allanol sy’n wynebu’r de, sy’n casglu gwres o’r haul
  • Ffenestri a drysau dwbl sy’n arbed ynni, waliau thermol wedi’u hinswleiddio a goleuadau LED.

“Mae hwn yn brosiect peilot cyffrous i Dai Wales & West a mawr obeithiwn y bydd y cartrefi ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn arwain y ffordd i fwy o gartrefi gael eu hadeiladu yn y fath ffordd.”
Shayne Hembrow, Dirprwy Brif Weithredwr WWH

Dywedodd Shayne Hembrow, Dirprwy Brif Weithredwr WWH:  “Mae dyfeisiau arbed ynni arloesol a thechnolegau adnewyddadwy ar gyfer y cartref yn mynd yn fwy datblygedig ac effeithiol.  Mae’r cyllid ychwanegol gan y Rhaglen Tai Arloesol yn golygu y bydd y cartrefi y byddwn yn eu hadeiladu ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn cynnwys y dechnoleg fwyaf modern sydd ar gael i ni.  I’r bobl a fydd yn byw ynddynt, bydd y tai yn rhad i’w rhedeg, a bydd eu biliau ynni yn rhad iawn, a bron yn agos i ddim, gan ddibynnu ar gyfanswm yr ynni y byddant yn ei ddefnyddio.

“Er y bydd y technolegau y byddwn yn eu gosod yn y tai hyn yn fodern iawn, rydym yn dymuno sicrhau y bydd y ffyrdd o’u rheoli yn syml ac yn hawdd i’r deiliaid eu defnyddio.”

“Gan gynnwys cymysgedd o dai a fflatiau, bydd datblygiad Bryn Bragl yn cynnig y cyfle i ni fonitro sut y gall aelwydydd o wahanol faint ddefnyddio’r technolegau er mwyn arbed arian ar eu biliau ynni a lleihau tlodi tanwydd.”

“Mae hwn yn brosiect peilot cyffrous i Dai Wales & West a mawr obeithiwn y bydd y cartrefi ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn arwain y ffordd i fwy o gartrefi gael eu hadeiladu yn y fath ffordd.”

Mae cynllun Bryn Bragl yn un o blith 10 prosiect yng Nghymru sy’n rhannu £43 miliwn yn ail gam Rhaglen Tai Arloesol Llywodraeth Cymru dros dair blynedd.  Mae’r grant o £839,000 yn golygu y bydd Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi cyfanswm o £2.1 miliwn yn y cynllun, a bydd £1 filiwn arall ar ffurf buddsoddiad gan Dai Wales & West.

Gan gyhoeddi’r prosiectau, dywedodd Gweinidog Tai ac Adfywio Llywodraeth Cymru, Rebecca Evans: “Os yw graddfa a chyflymder gweithgarwch adeiladu tai yn mynd i gynyddu’n sylweddol, mae’n amlwg bod dulliau traddodiadol yn annhebygol o gyflawni ar eu pen eu hunain.  O wneud hyn yn iawn, mae gennym gyfle i adeiladu cartrefi o ansawdd uchel, y maent bron yn gartrefi di-garbon, gan fanteisio ar a rhoi hwb i’r sgiliau a’r arbenigedd o fewn y diwydiant adeiladu a chynhyrchu yng Nghymru.”

Darllen mwy

Alison Stokes

alison.stokes@wwha.co.uk 07484 911100 Alison yw ein Swyddog CC a Marchnata ar gyfer De a Gorllewin Cymru.