Newyddion

16/01/2019

Cyllid i dalu am welyau cynfas yn cynorthwyo lloches nos newydd Wrecsam

Mae lloches nos newydd wedi agor yn Wrecsam, sy’n cynnwys gwelyau cyffyrddus a diogel ar gyfer y digartref a ddarparwyd gan Dai Wales & West.

Roedd £1230 o’n cronfa Gwneud Gwahaniaeth wedi helpu i brynu 12 gwely cynfas a dillad gwely ar gyfer y lloches, a sefydlwyd gan Housing Justice Cymru gyda chymorth Esgobaeth Llanelwy.

Bydd hyd at ddeg unigolyn yn cael lle mewn saith eglwys wahanol ar draws Wrecsam bob nos am 10 wythnos, o fis Ionawr i ganol mis Mawrth.

“Rydym yn ddiolchgar i Dai Wales & West am gefnogi Lloches Nos Cymuned ac Eglwys Wrecsam.”

Stephen Convill, Housing Justice Cymru

Ar hyn o bryd, mae nifer fawr o bobl yn cysgu ar y stryd yn y dref a bydd y lloches nos yn cynnig lle cynnes a diogel iddynt aros dros nos yn ystod cyfnod oeraf y flwyddyn yn aml.

Dywedodd Anne Hinchey, Prif Weithredwr Tai Wales & West: “Mae gan bawb yr hawl i fyw mewn cartref cynnes a diogel, ac rydym yn hynod o falch o’n rôl wrth fynd i’r afael â digartrefedd trwy ddarparu cartrefi fforddiadwy ac o ansawdd uchel, sy’n defnyddio ynni mewn ffordd effeithlon – ond rydym yn cydnabod na allwn ddatrys y broblem hon ar ein pen ein hunain.

“Mae’n diwylliant ni yn canolbwyntio ar wneud y peth iawn, ac mae’n hanfodol ein bod yn cynorthwyo sefydliadau megis Housing Justice Cymru er mwyn mynd i’r afael â’r weledigaeth a rennir o leihau digartrefedd.

“Mawr obeithiwn y bydd y cyfraniad bach hwn yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau’r rhai sy’n defnyddio’r lloches nos.”

Cynhelir y prosiect mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Wrecsam ac asiantaethau eraill sy’n gweithio gyda’r rhai sy’n ddigartref yn y dref.

Dywedodd Stephen Convill o Housing Justice Cymru: “Rydym yn ddiolchgar iawn i Dai Wales & West am gynorthwyo Lloches Nos Cymuned ac Eglwys Wrecsam.

“Am ddeg wythnos, bydd ein gwesteion yn gallu manteisio ar wely am y nos, sy’n golygu na fydd yn rhaid iddynt ddihuno bob bore yn pendroni ble y byddant yn cysgu y noson honno.

“Mawr obeithiwn y bydd y math hwn o sefydlogrwydd yn golygu y byddant yn cael cyfle i ganolbwyntio ar faterion eraill, gan ymgysylltu ag asiantaethau er mwyn eu helpu i beidio bod yn ddigartref mwyach.”

“Mae’n hanfodol ein bod yn cynorthwyo sefydliadau megis Housing Justice Cymru er mwyn mynd i’r afael â’r weledigaeth a rennir o leihau digartrefedd.”

Anne Hinchey, Prif Weithredwr, Tai Wales & West

Dywedodd Arweinydd Cyngor Wrecsam, Mark Pritchard: “Mae hwn yn ddull gweithredu arloesol er mwyn delio â phroblem anodd ac emosiynol, a dim ond trwy weithio gyda phartneriaid y gallwn gynnig y dulliau gweithredu newydd hyn, gan obeithio cynnig y cymorth y mae ei angen arnynt ar gyfer pobl agored i niwed.”

Andrew Price

andrew.price@wwha.co.uk07881 379 098 Andrew yw ein Swyddog CC a Marchnata ar gyfer Gogledd Cymru