Newyddion

04/07/2022

Tai Wales & West wedi’u henwi fel adeiladwr mwyaf cartrefi cymdeithasol i’w rhentu yng Nghymru

Rydym wedi cael ein henwi fel darparwr cartrefi rhent cymdeithasol mwyaf Cymru gan gylchgrawn arweiniol y sector Inside Housing.

Am yr ail flwyddyn yn olynol, mae Arolwg Adeiladwyr Mwyaf Inside Housing wedi ein gosod ymhlith y 5 cymdeithas tai orau sy’n adeiladu’r nifer fwyaf o gartrefi ar rent cymdeithasol yn y DU.

Y llynedd fe wnaethom gwblhau 347 o gartrefi newydd ledled Cymru gan ein rhoi yn y 50 uchaf yn y DU, roedd 311 o’r rheini ar gyfer rhent cymdeithasol tra bod y gweddill yn berchentyaeth cost isel ac yn werthiannau’r farchnad.

“Rwy’n falch ein bod wedi cael ein rhestru fel cymdeithas dai orau Cymru sy’n adeiladu cartrefi ar rent cymdeithasol. Mae hyn yn dangos ein bod yn frwd dros helpu i ddatrys yr argyfwng tai yng Nghymru.”

Joanna Davoile, Cyfarwyddwr Datblygu

Maes y Môr extra care scheme, Aberystwyth

Roedd rhai o’n datblygiadau yn Ffordd yr Haearn, Grangetown, Caerdydd, Subway Road, Y Barri, Maes Y Môr gofal ychwanegol yn Aberystwyth, Garth Owen yn y Drenewydd a’r Grange yn y Rhyl.

Ar hyn o bryd, rydym hefyd yn adeiladu 780 o gartrefi newydd ledled Cymru, gan gynnwys safleoedd yn Sanclêr, Caerfyrddin, Caerffili, Caerdydd, Wrecsam a Sir y Fflint.

Dywedodd Joanna Davoile, ein Cyfarwyddwr Datblygu: “Rwy’n falch ein bod wedi cael ein rhestru fel cymdeithas dai orau Cymru sy’n adeiladu cartrefi ar rent cymdeithasol. Mae hyn yn dangos ein bod yn frwd dros helpu i ddatrys yr argyfwng tai yng Nghymru.

“Mae’n destament i benderfyniad a gwaith caled ein timau datblygu ledled Cymru ein bod wedi gallu darparu cannoedd o gartrefi newydd i’w rhentu i bobl mewn angen, er ei fod yn un o’r blynyddoedd mwyaf heriol i’r diwydiant adeiladu.

“Mae gennym ni gynlluniau datblygu uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol hefyd, wrth i ni barhau i helpu Llywodraeth Cymru i gyrraedd ei tharged o 20,000 o gartrefi fforddiadwy newydd bob blwyddyn.”

Am fwy o wybodaeth ewch i: https://www.insidehousing.co.uk/insight/insight/top-50-biggest-builders-2022-76126

Andrew Price

andrew.price@wwha.co.uk07881 379 098 Andrew yw ein Swyddog CC a Marchnata ar gyfer Gogledd Cymru