Newyddion

26/06/2022

Staff WWHG yn ymrwymo i godi miloedd o bunnoedd ar gyfer dwy elusen iechyd yng Nghymru

Mae staff Grŵp Tai Wales & West wedi mabwysiadu dwy elusen sy’n darparu cymorth ambiwlans brys a thrallwyso gwaed ar draws Cymru fel eu helusen.

Dros y ddwy flynedd nesaf (2022-2024), mae 820 aelod o staff ar draws Grŵp WWH, sy’n cynnwys Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria a Mentrau Castell, yn gobeithio codi degau ar filoedd o bunnoedd er mwyn helpu Ambiwlans Awyr Cymru a Beiciau Gwaed Cymru. Yn gynharach eleni, cyflwynodd staff WWHG gyfanswm o £46,000 i elusen Mind Cymru, sef yr elusen flaenorol a ddewiswyd ganddynt.

Lansiwyd y gweithgarwch codi arian diweddaraf gyda raffl a gweithgareddau eraill a gynlluniwyd gan y staff, gan gynnwys rhedeg marathonau, cymryd rhan mewn heriau chwaraeon noddedig a sesiynau coginio cystadleuol. Mae rhai staff yn rhoi ceiniogau o’u cyflog i’r elusennau hefyd, sy’n codi miloedd o bunnoedd bob blwyddyn.

Dywedodd Prif Weithredwr Grŵp Tai Wales & West, Anne Hinchey: “Dros y blynyddoedd diwethaf, mae ein staff rhyfeddol a hael wedi codi symiau uwch nag erioed o’r blaen ar gyfer ein helusennau dethol, felly mawr obeithiaf y gallwn wneud gwahaniaeth mawr i Ambiwlans Awyr Cymru a Beiciau Gwaed Cymru dros y ddwy flynedd nesaf.

“Mae’r ddwy elusen yn cyflawni gwaith rhyfeddol ar draws Cymru, ac nid ydynt yn cael unrhyw gyllid gan y Llywodraeth na’r Loteri Genedlaethol – maent yn dibynnu’n llwyr ar roddion gan y cyhoedd. Rydym yn dymuno eu helpu i barhau i gyflawni eu gwaith sy’n achub bywydau.
Prif Weithredwr Grŵp Tai Wales & West, Anne Hinchey

“Dywedodd un o’n haelodau o staff a enwebodd Ambiwlans Awyr Cymru nad oes ganddynt unrhyw amheuaeth y bu cyflymder y gwasanaeth yn hollbwysig wrth achub bywyd un o’n preswylwyr pan gawsant eu taro’n sâl. Rydym wrth ein bodd ein bod yn gallu cefnogi gwaith hanfodol yr elusen.”

Dywedodd Katie Macro, Rheolwr Ymgyrchoedd ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru: “Rydym wrth ein bodd ein bod wedi cael ein dewis fel un o elusennau y flwyddyn Grŵp Tai Wales & West dros y ddwy flynedd nesaf. Mae cymorth gan fusnesau fel WWHG yn hanfodol wrth ein helpu i fod yno i bobl Cymru pan fyddant ein hangen fwyaf.

“Mae’n swnio fel bod gan Grŵp Tai Wales & West ychydig gynlluniau cyffrous er mwyn codi arian, a hoffem ddymuno’n dda iddynt. Gwerthfawrogir eu cefnogaeth ar gyfer ein helusen achub bywydau yn fawr.”
Katie Macro, Rheolwr Ymgyrchoedd ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru

Ychwanegodd Nigel Ward, Cadeirydd Beiciau Gwaed Cymru: “Rydym wrth ein bodd y bydd staff Grŵp Tai Wales & West yn codi arian ar gyfer ein helusen. Ni fyddem yn gallu darparu ein gwasanaeth cludo am ddim i GIG heb gymorth y bobl sy’n ein helpu i godi arian a’n tîm o wirfoddolwyr.

“Rydym yn edrych ymlaen at ddwy flynedd o weithgarwch codi arian gwych.”
Nigel Ward, Cadeirydd Beiciau Gwaed Cymru

Ym mis Mawrth 2022, cyflwynodd staff WWHG siec o £46,000 i’w helusen ddethol flaenorol, sef Mind Cymru, swm uwch nag a godwyd ganddynt erioed o’r blaen. Mae’r elusennau eraill a gefnogwyd gan WWHG dros y blynyddoedd diwethaf yn cynnwys Ymchwil Canser Cymru, Cymdeithas Strôc, Help for Heroes, Cymdeithas Alzheimer, NSPCC a Tenovus.

Am yr elusennau:


Mae gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru
ar gael 24/7 ac mae angen iddo godi £8 miliwn bob blwyddyn er mwyn helpu i gynnal gwasanaeth yr hofrenyddion. Mae’r gwasanaeth yn cynnig gofal critigol uwch ac yn aml, fe’i ddisgrifir fel ‘Adran Frys sy’n Hedfan’. Mae’r ymgynghorwyr a’r ymarferwyr gofal critigol yn hynod fedrus ac maent yn cario ychydig o’r offer meddygol mwyaf arloesol yn y byd. Gallant gynnig trallwysiadau gwaed, rhoi anesthesia a chyflawni llawdriniaethau brys yn y fan a’r lle, cyn hedfan y claf i gael gofal arbenigol. https://www.walesairambulance.com/


Mae Beiciau Gwaed Cymru yn elusen hollol wirfoddol yng Nghymru, sy’n cynnig gwasanaeth cludo am ddim i GIG, gan gludo samplau gwaed, plasma, llaeth dynol a roddwyd, dogfennau ac eitemau eraill ar draws Cymru er mwyn helpu’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru. https://www.bloodbikes.wales/

Alison Stokes

alison.stokes@wwha.co.uk 07484 911100 Alison yw ein Swyddog CC a Marchnata ar gyfer De a Gorllewin Cymru.