Newyddion

28/07/2022

Capsiwl amser yn dynodi datblygiad tai newydd ar safle hen eglwys

Pupils from Ysgol Owen Jones with the time capsule and (L/R) Robert Williams, Quantity Surveyor for Beech Developments; Joanne Jones, Citadel Coordinator, Housing Justice Cymru and Jordan Randles, Site inspector, Wales & West Housing.

 

Bu plant ysgol yn cofnodi pennod newydd yn hanes safle hen eglwys bentref wrth iddynt blannu capsiwl amser i ddisodli un a ddarganfuwyd wrth wneud gwaith ar ddatblygiad tai.

Wrth ddymchwel yr adeilad er mwyn creu lle ar gyfer chwe chartref eco newydd, darganfu contractwyr Wales & West, Beech Developments, gapsiwl amser a oedd yn cynnwys ffotograffau a dogfennau ynghylch yr hen Eglwys Ddiwygiedig Unedig (URC) yn Llaneurgain, Sir y Fflint.

Gwerthwyd yr hen eglwys URC, a agorodd ei drysau ym 1932, i Dai Wales & West yn 2018 fel rhan o Ffydd mewn Tai Fforddiadwy, menter dan arweiniad Cyfiawnder Tai Cymru i ryddhau tir dros ben ar gyfer tai fforddiadwy y mae cryn angen amdanynt.

Bellach, caiff yr hen gapsiwl amser ei storio yn archifau’r eglwys, ac mae plant o ysgol gynradd Ysgol Owen Jones yn Llaneurgain wedi bod yn creu un newydd.

“Mae wedi bod yn gyfle gwych cael cymryd rhan ym mhrosiect y capsiwl amser, a heb os, roedd y capsiwl amser gwreiddiol wedi ysbrydoli’r plant i greu eu capsiwl amser eu hunain, y bydd modd i genedlaethau’r dyfodol ei ddarganfod.”

Gareth Caughter, Pennaeth Ysgol Owen Jones

Dywedodd Gary Cook, Rheolwr Datblygu Rhanbarthol Tai Wales & West: “Diolch i bawb yn Ysgol Owen Jones am eu gwaith caled a’u creadigrwydd wrth baratoi’r capsiwl amser newydd hwn, a fydd yn helpu i gofnodi cyfnod pwysig arall i’r safle hwn yn Llaneurgain.

“Rydym wrth ein bodd y bydd y tir hwn a oedd yn dir eglwysig yn flaenorol, yn cael ei ddefnyddio unwaith eto, gan ddarparu cartrefi fforddiadwy ar gyfer y gymuned.”

Dywedodd Gareth Caughter, Pennaeth Ysgol Owen Jones:  “Mae wedi bod yn gyfle gwych cael cymryd rhan ym mhrosiect y capsiwl amser, a heb os, roedd y capsiwl amser gwreiddiol wedi ysbrydoli’r plant i greu eu capsiwl amser eu hunain, y bydd modd i genedlaethau’r dyfodol ei ddarganfod.

“Yn ystod Tymor y Gwanwyn, gosodwyd problem ar gyfer pob dosbarth gan eu hathrawon dosbarth, a oedd yn golygu bod angen iddynt ddysgu am hanes Llaneurgain a sut y mae wedi esblygu gydag amser, gan gynnwys yr adeiladau, trafnidiaeth, yr ysgol, a phobl bwysig fel Owen Jones ei hun.  Daethant oll yn arbenigwyr ar Bentref Llaneurgain, a oedd yn rhywbeth gwych i’w weld, gan ei bod yn bwysig eu bod yn meddu ar ddealltwriaeth dda o’u hardal leol.

“Mae’r plant wedi penderfynu ychwanegu gwaith o’u prosiectau am Laneurgain, ynghyd â lluniau o’r ysgol a digwyddiadau sy’n dangos sut le yw’r ysgol yn 2022, fel y gall cenedlaethau’r dyfodol weld sut y mae Llaneurgain ac addysg yn gyffredinol wedi esblygu gydag amser.”

“Rydym wrth ein bodd y bydd y tir hwn a oedd yn dir eglwysig yn flaenorol, yn cael ei ddefnyddio unwaith eto, gan ddarparu cartrefi fforddiadwy ar gyfer y gymuned.”

Gary Cook, Rheolwr Datblygu Rhanbarthol Tai Wales & West

Dywedodd Claire Boot, Swyddog Eiddo ar gyfer Synod Cenedlaethol Cymru URC:  “Mae darganfod capsiwl amser dan garreg sylfaen y capel yn dangos bod y gynulleidfa yn teimlo eu bod yn gwneud rhywbeth arwyddocaol ar gyfer eu cyfnod, ac mae datblygu tai fforddiadwy ar y safle yn parhau eu gwaddol.

“Rydym wrth ein bodd bod capsiwl amser y capel wedi ysbrydoli’r ysgol leol i greu eu fersiwn ei hunain.  Mae’n briodol iawn y caiff capsiwl amser yr ysgol ei blannu ar safle y datblygiad tai newydd ar safle yr hen eglwys, lle y bydd yn cynnig cyswllt cyffrous gyda gorffennol y gymuned i genedlaethau’r dyfodol ei ddarganfod a’i fwynhau.”

Dywedodd Siân Bradley, sy’n bennaeth rhaglen Ffydd mewn Tai Fforddiadwy Cyfiawnder Tai Cymru:  “Mae hi wastad yn drist gweld eglwys y mae gan bobl gymaint o feddwl ohoni yn cau, ond rydym wrth ein bodd ein bod wedi gallu cynorthwyo Tai Wales & West a’r Eglwys Ddiwygiedig Unedig i greu gwaddol parhaol ar gyfer y safle hwn.

“Bydd y chwe chartref newydd a adeiladwyd yn cynnig budd i gymuned Llaneurgain, a mawr obeithiwn y bydd eu dyluniad arloesol, nad yw’n defnyddio fawr iawn o ynni, yn ysbrydoli cynnwys capsiwl amser y plant.”

Mae Beech Developments wedi bod yn adeiladu’r cartrefi ar gyfer Tai Wales & West, ac roeddent wedi cynnig taith i’r plant o Ysgol Owen Jones o gwmpas y safle cyn y plannwyd y capsiwl amser newydd.

Dywedodd Robert Williams, Syrfëwr Meintiau ar gyfer Beech Developments:  “Roedd hi’n wych gallu cynnig cyflwyniad i’r plant i’r safle, gan arddangos dyfodol gweithgarwch adeiladu tai yng Nghymru.  Mawr obeithiwn y bydd hyn yn helpu i addysgu’r plant, gan arwain at rai o’r genhedlaeth nesaf yn adeiladu rhagor o gartrefi cynaliadwy er mwyn creu dyfodol gwell i ni gyd.”

Andrew Price

andrew.price@wwha.co.uk07881 379 098 Andrew yw ein Swyddog CC a Marchnata ar gyfer Gogledd Cymru