Newyddion

24/04/2023

Help i wneud cartref am byth

Pan symudodd Cyril Davis*, sy’n bensiynwr, i mewn i’w gartref Tai Wales & West newydd ar ôl bod yn ddigartref – nid oedd ganddo unrhyw ddodrefn nac eitemau sylfaenol er mwyn coginio.

Ond gydag ychydig help gan ei Swyddog Cymorth Tenantiaeth (TSO) lleol, mae bellach yn setlo yn ei gartref newydd.

“Mae’n ddigartref ac nid ei fai ef yw hynny o gwbl, ac roedd mewn sefyllfa enbyd,” dywedodd Donna Samuel, TSO.

“Roedd yn hawlio Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth, ac nid oedd yn siŵr sut yr oedd yn mynd i fforddio prynu’r hyn y mae ei angen arno er mwyn byw.”
Donna Samuel, TSO

Cafodd gymorth gan Donna i wneud cais am grant gan y Gronfa Cymorth Dewisol i brynu ychydig ddodrefn a nwyddau gwynion ar gyfer ei gartref. Fodd bynnag, gwrthodwyd ei gais gan yr awdurdod lleol gan nad oedd yn hawlio Credyd Pensiwn.

Felly, penderfynodd Donna droi at y tîm sy’n rheoli’r Gronfa Atal Digartrefedd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful (CBSMT) am help.

Dywedodd Donna: “Hwn oedd y tro cyntaf yr oeddent wedi cael cais i ddarparu cymorth ariannol i brynu dodrefn ac eitemau hanfodol ar gyfer y gegin, ond trafodais y sefyllfa gyda nhw, a threfnont y byddai busnes lleol yn dod i osod cwcer a rhewgell-rewgist yn fflat Mr Davis. Archebont eitemau hanfodol eraill ar-lein hefyd, i’w dosbarthu i Mr Davis.

“Wrth i bawb deimlo effeithiau’r argyfwng costau byw, ni allaf ddiolch i’r tîm yn CBSMT ddigon am eu hymdrechion.”
Donna Samuel

“Roedd y ffordd yr aeth y tîm yr ail filltir i sicrhau na fyddai hen ŵr agored i niwed nad oedd ganddo unrhyw ddodrefn na nwyddau gwynion, ac nad oedd mewn sefyllfa i’w prynu, yn cael dechrau mor ddiflas yn ei gartref newydd, yn arbennig.”

“Mae’r ffordd yr aethant yr ail filltir i ddangos caredigrwydd a pharch yn rhywbeth i deimlo’n falch ohono.”

• (newidiwyd yr enw)

Alison Stokes

alison.stokes@wwha.co.uk 07484 911100 Alison yw ein Swyddog CC a Marchnata ar gyfer De a Gorllewin Cymru.