Newyddion

10/04/2019

Prentis gwaith coed, Matthew, yn dysgu ei grefft yn ein datblygiad tai yn Abergwaun, a fydd yn costio £4 miliwn

Mae Matthew Lawrence, myfyriwr lleol, yn cael y cyfle i hyfforddi i fod yn brentis saer coed trwy weithio ar ddatblygiad tai fforddiadwy newydd Tai Wales & West yn Sir Benfro, a fydd yn costio £4 miliwn.

Ym mis Ionawr 2019, cychwynnodd Matthew ar ei brentisiaeth gyda chontractwyr Morgan Construction Wales ac mae wedi bod yn cael llawer o brofiad yn gweithio gyda chrefftwyr proffesiynol yn safle Parc y Cefn.

Mae Matthew, 20 oed o Ddoc Penfro, wedi bod yn gweithio ar stydwaith waliau, cynhalbyst to, fframiau drysau a distiau llawr yn y cartrefi newydd.  Mae’n mynychu Coleg Sir Benfro un diwrnod yr wythnos hefyd, lle y mae yn ei drydedd flwyddyn ar gwrs gwaith coed.

“Rydw i wedi bod mor ffodus i gael y brentisiaeth hon gyda Morgan Construction a chael y cyfle i weithio ar ddatblygiad Tai Wales & West. Rydw i’n dysgu popeth am grefft gwaith coed wrth i mi weithio ar y safle.  Mawr obeithiaf y bydd y profiad yn fy helpu i gael swydd fel saer coed cymwys yn y dyfodol.”
Prentis Gwaith Coed Matthew

Dywedodd Anne Hinchey, Prif Weithredwr Grŵp Tai Wales & West:  “Mae hon yn enghraifft wych o’r ffordd yr ydym yn gweithio gyda’n partneriaid er mwyn buddsoddi yn y gymuned leol trwy ddefnyddio busnesau a gweithluoedd lleol a chreu cyfleoedd swyddi.

“Trwy greu prentisiaethau ar ein safleoedd datblygu, mae WWH a’n partneriaid yn buddsoddi yn y sgiliau yn ein cymunedau ar gyfer y dyfodol.”
Anne Hinchey, Prif Weithredwr Grŵp Tai Wales & West

Bydd y cynllun ym Mharc Y Cefn yn cael ei gwblhau yn ystod y gwanwyn eleni, a bydd yn darparu 30 o dai, byngalos a fflatiau y codir rhent fforddiadwy amdanynt ar gyfer teuluoedd lleol sy’n byw ac yn gweithio yn ardal Abergwaun.

 

 

Alison Stokes

alison.stokes@wwha.co.uk 07484 911100 Alison yw ein Swyddog CC a Marchnata ar gyfer De a Gorllewin Cymru.