Newyddion

08/03/2019

Diwrnod Gwybodaeth ynghylch Gofal Ychwanegol Plas yr Ywen

Cynhelir digwyddiad gwybodaeth ym mis Ebrill i ddarpar breswylwyr a’u teuluoedd, er mwyn iddynt gael gwybodaeth am Blas yr Ywen, ein cynllun gofal ychwanegol newydd yn Nhreffynnon a fydd yn costio £8.5m.

Estynnir gwahoddiad i aelodau’r cyhoedd i Ddiwrnod Gwybodaeth am Blas yr Ywen ar ddydd Mawrth 9 Ebrill 2019 rhwng 10am a 7pm yn Neuadd Ymarfer Treffynnon.

Darparir cynllun gofal ychwanegol Tai Wales & West mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint, a disgwylir iddo agor yn ystod y Gwanwyn 2020.

Lleolir y cynllun yn Ffordd Halkyn, a bydd yn cynnwys 55 o fflatiau i bobl 50 oed a throsodd, ac yn cynnig mynediad 24 awr y dydd i ofal a chymorth ar y safle.

Derbynnir ceisiadau gan bobl sy’n dymuno byw yn y cynllun am y tro cyntaf yn ystod y Diwrnod Gwybodaeth, a fydd yn gyfle i ofyn cwestiynau am y cyfleusterau ym Mhlas yr Ywen hefyd, ynghyd â chostau byw a’r dewisiadau o ran gofal a chymorth. 

“Bydd y cynllun newydd hwn yn ddatblygiad blaengar ar gyfer Treffynnon a Sir y Fflint, gan ddarparu gwasanaethau gofal yn y cartref o ansawdd uchel.”

Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Wasanaethau Cymdeithasol

Bydd cynrychiolwyr o Dai Wales & West a Chyngor Sir y Fflint yno i gynnig cyngor ac arweiniad, a chynigir lluniaeth hefyd.

Dywedodd Anne Caloe, Rheolwr Symudiadau Tai â Chymorth Tai Wales & West:  “O ystyried y bydd y cynllun yn agor yn ystod y Gwanwyn 2020, rydym yn barod i dderbyn ceisiadau gan y rhai y byddant yn breswylwyr cyntaf Plas yr Ywen.

“Bydd y Diwrnod Gwybodaeth yn gyfle i bobl gael gwybod mwy am Blas yr Ywen mewn amgylchedd anffurfiol, ymlaciol.”

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Wasanaethau Cymdeithasol, Cynghorydd Christine Jones:  “Bydd y cyfleuster hwn yn darparu gwasanaethau gofal yn y cartref o ansawdd uchel.

“Gan ymateb i’r galw am drefniadau gofal a chymorth, bydd y cynllun newydd hwn yn un blaengar iawn i Dreffynnon a Sir y Fflint, ac yn darparu fflatiau annibynnol, gan gynnwys fflatiau a ddyluniwyd yn arbennig ar gyfer pobl sydd â dementia.”

Mae Plas yr Ywen yn cael ei adeiladu ar hyn o bryd gan Anwyl Construction, y partneriaid adeiladu, ar hen safle Ysgol Perth y Terfyn, sydd gerllaw lleoliad y Diwrnod Gwybodaeth.

Gellir mynychu’r digwyddiad yn rhad ac am ddim a bydd yn gweithredu fel sesiwn galw heibio rhwng 10am a 7pm yn Neuadd Ymarfer Treffynnon, Ffordd Halkyn.

I gael gwybod mwy, trowch at ein gwefan am gynllun gofal ychwanegol Plas yr Ywen, anfonwch e-bost at contactus@wwha.co.uk neu ffoniwch 0800 052 2526.

Andrew Price

andrew.price@wwha.co.uk07881 379 098 Andrew yw ein Swyddog CC a Marchnata ar gyfer Gogledd Cymru