Newyddion

14/12/2021

Mynediad gwell i ganolfan adnoddau a lles gwledig diolch i nawdd gan Dai Wales & West

Gall unigolion agored i niwed yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr gymryd rhan mewn amrediad o weithgareddau mewn Canolfan lles adnoddau gwledig a gaiff ei rhedeg gan STEER, diolch i nawdd gan Dai Wales & West ar ffurf bws mini.

Mae STEER – Yr Academi Fenter yn fenter cymdeithasol wedi’i lleoli yn Nhŷ Tondu ar gyrion Cwm Llynfi, sy’n darparu gweithgareddau amrywiol ar gyfer grwpiau agored i niwed yn eu cymuned. Mae ganddynt gaffi cymunedol, gweithdai, ystafell hyfforddiant a lleoedd yn yr awyr agored lle y maent yn cynnig darpariaeth ymgysylltu a lles ar gyfer pobl o bob oed sy’n agored i niwed ac sy’n dioddef ynysigrwydd cymdeithasol.

Mae’r rhaglen a’r gweithgareddau yn cynnwys ysgol goedwig, byw yn y gwyllt, gofalu am anifeiliaid, campfa werdd yn yr awyr agored a datblygu sgiliau.

Fodd bynnag, roedd defnyddwyr gwasanaeth, gan gynnwys rhai o breswylwyr Tai Wales & West o Ben-y-bont ar Ogwr ac eraill sy’n byw mewn ardaloedd anghysbell, yn ei chael hi’n anodd cyrraedd y ganolfan 43 erw er mwyn cymryd rhan.

Llwyddodd Swyddog Datblygu Cymunedol Tai Wales & West, Laura Allcott, gynnig help trwy sicrhau nawdd trwy gronfa Gwneud Gwahaniaeth a gweithio gyda’i chydweithiwr, Peter Jackson, Cyfarwyddwr Rheoli cwmni Grŵp WWH, Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria a’u cyflenwyr i sicrhau bws mini Ford Transit newydd sbon ar gyfer y sefydliad.

Dywedodd Peter Jackson: “Roeddem wrth ein bodd ein bod yn gallu gwneud gwahaniaeth i’r bobl y mae STEER yn gweithio gyda nhw.”

“Rhoddodd Days Caerdydd, sy’n darparu’r holl gerbydau ar gyfer ein fflyd WWH, ostyngiad ar y cerbyd hwn ac roedd PopIn Vehicle Graphics, sy’n rhoi sticeri ein brand ar ein holl gerbydau, wedi creu cynllun arbennig ar gyfer bws STEER.”

“Mawr obeithiwn y bydd y bobl a fydd yn defnyddio’r bws yn gallu cymryd rhan mewn mwy o weithgareddau a mwynhau nifer o deithiau diogel a chyffyrddus yn y dyfodol.”

“Hoffem ddiolch o waelod calon i Dai Wales & West am ein helpu i gael ein bws mini.”
Dywedodd Tracey Miles, Prif Swyddog Gweithredol STEER – Yr Academi Fenter

“Mae’r bws yn fwy nag y byddem wedi gallu ei ddychmygu neu ei fforddio. Bydd yn gwella’r mynediad i nifer o bobl ac yn eu galluogi i fynychu ein prosiectau amrywiol, gan gynnwys sesiynau ffitrwydd a ariannir yn llawn, diwrnodau ar gyfer gwirfoddolwyr, teithiau cerdded mewn coetiroedd, cadw gwenyn, sesiynau crefftau a chelfyddydau creadigol yn ein canolfan.

Mae ein holl gyfranogwyr mor falch o gael y cyfle i fynychu’r ganolfan yn rheolaidd, a mynychu digwyddiadau cymunedol eraill trwy gyfrwng y trafnidiaeth gyda chymorth. Mae’n golygu y gallwn gyrraedd a chynorthwyo mwy o bobl.”

Mae hwn yn mynd i wneud gwahaniaeth aruthrol i’n sefydliad. Mae rhan fwyaf y bobl yr ydym yn gweithio gyda nhw yn byw gydag iechyd meddyliol gwael ac yn aml, gall trafnidiaeth gyhoeddus fod yn broblem iddynt. Bydd cael cyfleuster teithio cefnogol yn hyfryd er mwyn cynorthwyo a gwella lles ein defnyddwyr gwasanaeth.”

Alison Stokes

alison.stokes@wwha.co.uk 07484 911100 Alison yw ein Swyddog CC a Marchnata ar gyfer De a Gorllewin Cymru.