Newyddion

29/11/2021

Staff TWW yn gwneud gwahaniaeth trwy wirfoddoli

Mae ein staff yn Nhai Wales & West a’n contractwyr yn gwirfoddoli yn eu cymunedau mewn nifer o wahanol ffyrdd, megis glanhau meysydd chwarae, paentio neuaddau cymunedol a chymryd rhan mewn cyfweliadau ar-lein.

Bob blwyddyn, gall pob aelod o staff yng Ngrŵp Tai Wales & West gymryd diwrnod gwaith am dâl i wirfoddoli ar brosiectau trwy ein Diwrnodau Rhoi Rhywbeth yn Ôl. Gall y prosiectau hyn fod mewn cymunedau lle y maent yn gweithio neu lle y mae ein 22,000 o breswylwyr yn byw ar draws Cymru neu gallant wirfoddoli ar gyfer elusennau sy’n agos i’w calonnau nhw neu’r rhai a gefnogir gan ein Bwrdd megis Cadwch Gymru’n Daclus, Engage Cymru neu MIND Cymru.

Yn Y Barri, bu tri aelod o staff WWH yn rhoi trawsnewidiad gwyrdd i dri gwely blodau yng Nghanolfan Gymunedol Castleland ym mis Tachwedd 2021.

Ni roddwyd sylw i’r ardal a oedd yn arwain at fynedfa y ganolfan ers sawl blynedd, ac roedd wedi tyfu’n wyllt.  Bu ein Swyddog Datblygu Cymunedol, Herman Valentin, yn gweithio gyda’n partneriaid adeiladu, Grŵp Jehu, sy’n adeiladu 72 o fflatiau newydd i ni yn Ffordd Subway, er mwyn cynnig budd i’w cymuned leol. Rhoddodd eu his-gontractwyr, Laurel Landscapes, blanhigion a phridd, cynhyrchodd Liz Lake Associates y lluniadau tirlun a bu staff WWH yn plannu planhigion yn y gwelyau.

Dywedodd Neil Moore, cadeirydd Cymdeithas Gymunedol Castleland:  “Rydym mor ddiolchgar i WWH am eu gwaith caled.  Roedd yr ardal wedi cael ei hesgeuluso ac fel elusen fach, nid oedd gennym yr arian i’w wario ar blanhigion parhaol.
Mawr obeithiwn y bydd y planhigion hyn yn ffynnu ac yn gorchuddio’r ddaear, gan roi golwg braf i’r ganolfan.

“Mae’n edrych gymaint gwell yn barod ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr iawn i weld sut y bydd yn edrych yn y gwanwyn.

“Mawr obeithiwn y bydd hyn yn esgor ar nifer o fentrau cydweithio eraill gyda Thai Wales & West.”

Mae’r prosiectau a gynhaliwyd yn ddiweddar wedi cynnwys:

  • dosbarthu deunydd ar gyfer prosiect garddio yng Nghaerdydd, a apeliodd am help yn ystod y cyfnod clo cenedlaethol cyntaf
  • helpu i lanhau llwybrau a lle chwarae mewn parc yng Nghastellnewydd Emlyn
  • cymryd rhan mewn cyfweliadau ffug ar-lein ar gyfer myfyrwyr mewn ysgol yng Nghaerdydd

Eleni, ymunodd WWH â Chyngor Trydydd Sector Caerdydd (C3SC) hefyd fel prif noddwr eu Gwobrau Gwirfoddolwyr 2021, er mwyn dathlu ymdrechion eithriadol gwirfoddolwyr trwy gydol y flwyddyn.

Yn ogystal, rydym yn annog ein contractwyr sy’n adeiladu ac sy’n cynnal a chadw ein cartrefi i roi eu hamser a’u deunyddiau er mwyn helpu prosiectau. Mae’r rhain wedi cynnwys:

  • gosod pafin a ffensys er mwyn gwella’r diogelwch mewn lloches i fenywod yng ngogledd Cymru
  • addurno canolfan gymunedol newydd yn Grangetown, Caerdydd
  • gwneud gwaith trwsio ar y to a’r system wresogi mewn canolfan gymunedol ym Merthyr Tudful

Dywedodd Anne Hinchey, Prif Weithredwr Grŵp Tai Wales & West: “Mae gwirfoddoli yn cynnig buddion enfawr i’n staff, ein contractwyr a’n cymunedau.

“Trwy gyfrwng ein Diwrnodau Rhoi Rhywbeth yn Ôl, rydym yn annog ein staff sy’n gwirfoddoli i dreulio diwrnod yn gwneud gwahaniaeth go iawn mewn cymuned.

“Trwy fynd allan a gweithio gyda phobl arall, gall gwirfoddolwyr wella’r mannau a’r lleoedd lle y maent yn byw ac yn gweithio. Gall helpu eu hymdeimlad nhw o les hefyd oherwydd y gallant ddysgu sgiliau newydd a chyfarfod a gweithio gyda phobl newydd.”

“Gwirfoddolwyr yw enaid ein cymunedau. Maent yn gweithio’n galed, gan roi eu hamser, eu hegni a’u harbenigedd er mwyn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl o’u cwmpas ac rydym yn hapus i’w cynorthwyo.”

Am ragor o wybodaeth am y ffyrdd yr ydym yn cynorthwyo ein cymuned, gweler ein Hadroddiad Gwneud Gwahaniaeth

Alison Stokes

alison.stokes@wwha.co.uk 07484 911100 Alison yw ein Swyddog CC a Marchnata ar gyfer De a Gorllewin Cymru.