Newyddion

14/12/2021

Defnyddio ynni mewn ffordd effeithlon yn arwain at filiau is i breswylwyr WWH

Mae un o breswylwyr Tai Wales & West, Sarah Canning, wedi gweld gostyngiad “enfawr” yn ei biliau trydan ers y gosodwyd technolegau arbed ynni yn ei chartref.

Symudodd Sarah, ei phartner a’u tri o blant rhwng 8 ac 15 oed i’w cartref pâr sy’n cynnwys tair ystafell wely yng Nghwrt Lavender, Bracla, wyth mlynedd yn ôl, ac roeddent yn gwario £20-£30 yr wythnos ar drydan ar gyfartaledd.

Ym mis Gorffennaf, gosodwyd technolegau arbed ynni yn eu cartref a adeiladwyd yn y 1970au fel rhan o Brosiect Ôl-osod er mwyn Optimeiddio (ORP) – cynllun ar y cyd rhwng 26 o ddarparwyr tai cymdeithasol, sy’n cynnwys Tai Wales & West, ac a ariannir gan Lywodraeth Cymru, lle y gosodir mesurau arbed ynni mewn 1,724 o gartrefi yng Nghymru.

Gosodwyd paneli ffotofoltäig (PV) ar do ei chartref, ynghyd â batri i storio’r ynni solar a System Ynni Ddeallus, sy’n casglu’r holl wybodaeth am ynni y cartref, gan gynnwys y galw am wres, y tymheredd cyfartalog, lleithder a chyfleuster storio y batri.  Gall y teulu gadw golwg ar eu defnydd o ynni hefyd trwy ddefnyddio ap ar eu dyfeisiau symudol.

Fel rhan o’r ORP, gosododd Tai Wales & West dechnolegau newydd mewn 20 o gartrefi dethol yn Rhiwabon, Gogledd Cymru, Llandysul a Bryn Salem yng Ngheredigion ac ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Dywedodd Sarah ei bod yn defnyddio llawer yn llai o drydan o ganlyniad a disgwylir i’r teulu arbed tua £300 ers gwneud y gwaith gosod.

“Ers y gosodwyd y paneli solar ym mis Ebrill, dim ond £80 yr ydym wedi ei wario ar drydan at ei gilydd.  Gyda thri o blant yn y tŷ, rydym yn defnyddio cryn dipyn o drydan.  Mae’r goleuadau wastad ymlaen, ac mae ganddynt setiau teledu a gliniaduron er mwyn gwneud eu gwaith cartref.”
Sarah Canning

“Cwblhawyd y gwaith i osod y system yn gymharol gyflym.  Gosodwyd y sgaffaldiau a’r paneli solar ar yr un diwrnod a chwblhawyd gweddill y gwaith cyn pen tri diwrnod.

“Mae gennym fatri wedi ei osod ar y wal y tu allan i’n tŷ a blwch ar wal y lolfa a wal y gegin, sef ymennydd y tŷ, ac maent yn monitro cyfanswm yr ynni yr ydym yn ei ddefnyddio.”

“Bu staff Tai Wales & West a’u contractwyr a gyflawnodd y gwaith yn broffesiynol iawn, ac ni tharfwyd fawr ddim ar ein teulu.  Byddwn yn argymell bod unrhyw un yn cael y gwaith hwn wedi’i wneud.  Mae fy mhrofiad i wedi bod yn un hollol gadarnhaol.”

“Cyn y gosodwyd y paneli solar, ni allem fforddio cael peiriant sychu dillad, ond bellach, rydym ar fin prynu un gan ddefnyddio’r arian yr ydym yn ei arbed.”

Mae’r prosiect Ôl-osod er mwyn Optimeiddio yn un o blith sawl prosiect y mae WWH yn eu harchwilio er mwyn darganfod ffyrdd o ddatgarboneiddio ei chartrefi.  Yn ogystal, mae’r sefydliad yn gweithio gydag Ysgol Bensaernïaeth Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd i gyflawni ei gwaith ei hun ar ddetholiad o’i 12,000 eiddo er mwyn gosod mesurau arbed ynni a monitro eu heffeithiolrwydd.

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae WWH wedi gosod dros 400 o bympiau gwres ffynhonnell aer a systemau dolen ffynhonnell daear a rennir, ac mae wedi diweddaru gwaith inswleiddio llofftydd a waliau ceudod.

Dywedodd Vic Cox, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Eiddo i WWH:  “Mae’r Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio yn fenter dda ac o’r cychwyn, roeddem yn dymuno bod yn rhan ohoni a rhannu profiadau gyda landlordiaid cymdeithasol eraill.

“Nid yw datgarboneiddio yn rhywbeth sydd ar radar nifer fawr o bobl.  Pan fyddwn yn ystyried y newid yn yr hinsawdd, mae rhan o’n gweithgarwch ymgysylltu gyda phreswylwyr yn addysgol – sut allwn ni eu helpu i ostwng eu biliau a sicrhau bod eu cartrefi yn gynnes ac yn fforddiadwy ac yn hawdd i’w gwresogi?”
Vic Cox, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Eiddo i WWH

“Yng Nghwrt Lavender, rydym wedi gosod systemau PV ar y toeon, ynghyd â thechnoleg newydd yr ydym yn ei defnyddio am y tro cyntaf sef storio mewn batris.  Pan fyddwn yn ystyried y rhain gyda’r gweithgarwch monitro perfformiad, gwelir arbedion sylweddol ar gyfer y preswylwyr.

“Yn ogystal â’r ffaith bod datgarboneiddio ar ein hagenda, rydym yn ystyried ein cartrefi a’r bobl sy’n byw yn ein cartrefi.  Mae cost cyfleustodau yn gryn ergyd i’n preswylwyr ac rydym yn dymuno gallu gwneud rhywbeth am hynny.

“Nid tasg hawdd yw datgarboneiddio ein holl gartrefi – mae rhai sialensiau mawr o’n blaenau ac rydym yn troi at Lywodraeth Cymru am arweiniad er mwyn datblygu strategaeth ar gyfer y dyfodol.”

 

 

Alison Stokes

alison.stokes@wwha.co.uk 07484 911100 Alison yw ein Swyddog CC a Marchnata ar gyfer De a Gorllewin Cymru.