Newyddion

08/08/2022

Mynd ar daith gyda’n hyfforddeion Datblygu ein gweithlu ein hunain

Trainees stand next to street sign of Wales & West Housing properties at Iard Y Parrog


Mae hyfforddeion Datblygu ein gweithlu ein hunain wedi ymweld â sawl eiddo Tai Wales & West ar draws Cymru i weld gyda’u llygaid eu hunain sut yr ydym yn gwneud gwahaniaeth fel sefydliad.

Ers ei sefydlu ym mis Mai 2021, mae ein rhaglen Datblygu ein gweithlu ein hunain wedi ehangu ar gyflymder cyffrous. Yn ddiweddar, recriwtiwyd ein degfed hyfforddai i’r adran Gyllid, a fydd yn ymuno â’r hyfforddeion sydd yno yn barod ac sy’n gweithio yn y timau Datblygu, TGCh, Llywodraethu, Data ac Iechyd a Diogelwch.

Rhoddir hyfforddiant pwrpasol i hyfforddeion wrth iddynt gael profiad yn eu swyddi amser llawn. Mae hyn yn amrywio o ddatblygu sgiliau technegol penodol i feithrin dealltwriaeth hyfforddeion o’r sector tai ac o nifer fawr y gwahanol rolau a’r gwaith a gyflawnir gan y sefydliad.

Mae ymweld ag eiddo presennol Tai Wales & West a’i heiddo yn y dyfodol yn cynnig y cyfle i hyfforddeion weld yr amrywiaeth o ffyrdd yr ydym yn teilwra ein gwasanaethau er mwyn helpu i wneud gwahaniaeth i’n preswylwyr. Cychwynnwyd y daith yng Ngogledd Cymru, gan ymweld ag eiddo yn Ffordd Coed Onn yn Y Fflint cyn ei throi hi am Dreffynnon i weld Glan Y Don a’n cynllun Gofal Ychwanegol newydd, Plas Yr Ywen. Yn ogystal, gwelodd yr hyfforddeion ein safle datblygu ar safle yr hen Eglwys Ddiwygiedig Unedig yn Llaneurgain, lle y claddom gapsiwl amser yn ddiweddar gyda chymorth disgyblion o’r ysgol gynradd leol.

“Mae gweithio yn y sector Tai yn llawer mwy na swydd – mae’n gyfle i wneud gwahaniaeth go iawn i eraill. Mawr obeithiaf y bydd rhaglen Datblygu ein gweithlu ein hunain yn helpu i hyrwyddo i bobl ifanc arall pam ddylai gyrfa ym maes tai fod yn yrfa a ddewisir ganddynt.”

Carly Hodson, Rheolwr Datblygu Gyrfa, Tai Wales & West.

Cynhaliwyd ail set yr ymweliadau yng Nghaerdydd, De Cymru, lle y bu’r hyfforddeion yn ymweld â’n datblygiad ar safle hen Westy Blue Dragon ar Ffordd Casnewydd a’n heiddo a fydd yn barod yn y dyfodol yn Rhodfa Colchester, Penylan. Buont yn archwilio cartrefi a gwblhawyd yn ddiweddar yn Ffordd yr Haearn, Grangetown, hefyd, cyn gorffen y daith yn West Lee, Canton.

Teithiodd yr hyfforddeion i Orllewin Cymru am ran olaf eu taith, gan basio safle hen Ysbyty Aberteifi, lle’r ydym yn adeiladu ein swyddfeydd newydd, ar y ffordd i’n cartrefi yng Ngolwg Y Castell. Y lle nesaf ar y daith oedd Trefdraeth, Sir Benfro, i ymweld â’n cartrefi newydd unigryw yn Iard Y Parrog, ynghyd ag eiddo yng Nghysgod Y Dderwen a Maes Y Mynydd.

Dywedodd Carly Hodson, ein Rheolwr Datblygu Gyrfaoedd:

“Rydw i’n teimlo mor gyffrous o gael y cyfle i reoli ein rhaglen ‘Datblygu ein gweithlu ein hunain’. Rydw i wedi bod yn gweithio i Grŵp Tai Wales & West am 15 mlynedd, a phan fyddaf yn bwrw golwg yn ôl dros fy ngyrfa, rydw i wedi cael cyfle i weld a phrofi y gwahaniaeth yr ydym yn ei wneud fel sefydliad, yr eiliadau hynny sy’n cyffwrdd eich calon ac sy’n aros yn y cof am byth.”

“Mae dangos ein safleoedd i’n graddedigion yn rhan mor bwysig o’n rhaglen gan ei bod yn cyfleu pwysigrwydd y gwaith yr ydym yn ei wneud ar draws Cymru. Yn ddiweddar, wrth gyrraedd ein cynllun Gofal Ychwanegol yn Nhreffynnon, nid oedd ein graddedigion yn gallu credu pa mor uchel oedd safon yr eiddo, a’r ffordd yr ydym yn ystyried yr holl fanylion bychain er mwyn helpu ein preswylwyr i’w alw yn gartref.”

“Mae gweithio yn y sector Tai yn llawer mwy na swydd – mae’n gyfle i wneud gwahaniaeth go iawn i eraill. Mawr obeithiaf y bydd rhaglen Datblygu ein gweithlu ein hunain yn helpu i hyrwyddo i bobl ifanc arall pam ddylai gyrfa ym maes tai fod yn yrfa a ddewisir ganddynt”

Dan Ryan

Cyswllt: Dan.Ryan@wwha.co.uk