Newyddion

08/09/2026

Mwynhewch ond peidiwch â tharfu ar eich cymdogion

Sŵn yw un o’r cwynion mwyaf cyffredin y byddwn yn clywed amdanynt gan ein cymunedau, ac mae’n gallu peri gofid neu straen. 

Dyma rai pethau y gallwch eu gwneud i gadw’r heddwch a parchu eich cymdogion. 

 

A ydych chi’n hoffi clywed eich cerddoriaeth yn uchel? 

Os oes modd, cadwch eich teledu a’ch seinyddion cerddoriaeth ymhell i ffwrdd o waliau eich cymydog, a dylech eu codi oddi ar y llawr.  Gallech roi cynnig ar ddefnyddio clustffonau hefyd. 

Mae sain yn teithio, felly ystyriwch gau eich ffenestri a’ch drysau. 

 

Trefnu parti  

Mae eich cymdogion yn debygol o fod yn fwy amyneddgar os byddwch yn rhoi rhybudd iddynt ymlaen llaw – efallai y gallech ystyried eu gwahodd hyd yn oed. 

Ystyriwch gymdogion sy’n gweithio shifftiau nos ac sy’n gorfod cysgu ar wahanol amseroedd o’r dydd a’r rhai sy’n oedrannus, y mae eu hiechyd yn wael neu sydd â babanod newydd-anedig. 

Gofynnwch i’ch gwesteion gadw lefel y sŵn i lawr a pharchu eich cymdogion. 

 

Beth ddylech ei wneud os byddwch yn cael problem sŵn?  

A ydych chi wedi siarad gyda’r unigolyn sy’n achosi’r sŵn?  Efallai nad ydynt yn sylweddoli eu bod yn creu niwsans. 

Os nad ydych yn teimlo y gallwch siarad â nhw yn uniongyrchol, gallech bostio nodyn cwrtais trwy eu drws neu bostio llythyr atynt i sicrhau eu bod yn ymwybodol. 

Os bydd y broblem yn parhau, ffoniwch 101.  Gallwch adrodd am ddigwyddiadau i Adran Iechyd yr Amgylchedd eich cyngor lleol hefyd.  Trowch at wefan eich awdurdod lleol am ragor o wybodaeth. 

 

 

A yw’n wrthgymdeithasol? 

Nid yw cael parti swnllyd neu chwarae gerddoriaeth uchel bob hyn a hyn yn cael ei ystyried fel ymddygiad gwrthgymdeithasol. 

Fodd bynnag, caiff niwsans sŵn parhaus, fel cerddoriaeth uchel neu gŵn yn cyfarth yn rheolaidd, eu hystyried yn ymddygiad gwrthgymdeithasol, a byddem yn gweithredu yn ei gylch. 

Yn yr achosion hyn, efallai y byddem yn gofyn i breswylydd gasglu tystiolaeth.  Gallai hyn olygu lawrlwytho ap a recordio’r synau.  Fel hyn, gallwn weld a yw’n creu niwsans bwriadol neu barhaus. 

Gyda thystiolaeth, gallwn gymryd camau pellach, a allai olygu llunio Contract Ymddygiad Derbyniol, a fyddai’n sicrhau bod unigolyn yn atebol, a’u helpu i ddeall canlyniadau eu gweithredoedd, a chynnig cymorth er mwyn eu helpu i wella eu hymddygiad cyn y bydd angen cymryd camau cyfreithiol mwy difrifol. 

Os bydd preswylydd yn torri amodau Contract Ymddygiad Derbyniol, gallem geisio cymryd camau cyfreithiol pellach.