Newyddion

21/06/2023

“Mae’n anodd sicrhau sefydlogrwydd pan fyddwch yn rhentu yn breifat. Mae’n mynd i fod yn dda cael rhywle i’w alw yn gartref.”

Mae gweithiwr porthladd lleol, Iwan Jones a’i bartner Emma, yn un o’r teuluoedd cyntaf i symud i ddatblygiad tai fforddiadwy newydd Tai Wales & West ym mhentref Dinas yn Sir Benfro, sy’n boblogaidd gyda thwristiaid.

Adeiladwyd ar safle hen sgubor ac mae Parc Brynach yn ddatblygiad sy’n cynnwys 11 tŷ, pedwar fflat a dau fyngalo sy’n darparu cartrefi modern am rhent fforddiadwy i bobl leol.  Symudodd y preswylwyr i mewn ym mis Mai.

I Iwan, Emma a’u fab 13 mis oed, symud i Parc Brynach fydd y pumed tro y byddant wedi symud mewn pedair blynedd – ac maent yn gobeithio mai hwn fydd y tro olaf y byddant yn symud am gryn amser.

“Mae gorfod symud drwy’r amser yn peri llawer o straen.  Mae’n anodd sicrhau sefydlogrwydd pan fyddwch yn rhentu yn breifat,” dywedodd Iwan, a oedd yn talu rhent o £650 y mis.

“Rydym wedi gorfod symud o le i le gan bod ein landlordiaid wedi bod yn gwerthu eu heiddo.  Nid yw hi fyth yn hawdd dod i hyd i le newydd i’w rentu gan bod cymaint o gystadleuaeth.  Mae rhentu lle preifat yn yr ardal yn ddrud.

“Nid ydym mewn sefyllfa yn ein bywyd lle y gallwn fforddio prynu ein cartref ein hunain.”

Symudodd y pâr i Dinas o Abergwaun, lle y mae Iwan yn gweithio nherfynfa fferïau Stena ac mae Emma yn gweithio mewn cymdeithas adeiladu.

“Roeddem wedi bod ar restr aros y cyngor am bron i dair blynedd, felly pan gawsom y cyfle i gael cartref ym mhentref Dinas, roeddem mor gyffrous.”
Preswylwyr Iwan Jones

“Mae’n mynd i fod yn dda cael rhywle i’w alw yn gartref, ac sy’n cynnwys gardd go iawn.  Nid ydym fyth wedi cael gardd o’r blaen.”

Roedd Debbie Price, gweithiwr iechyd lleol, yn un arall o’r preswylwyr a symudodd i Parc Brynach.

Symudodd Debbie a’i dwy ferch 11 a 6 oed o’u cartref rhent preifat yn Abergwaun i un o’r tai 2 ystafell wely yn y datblygiad.

Symudodd mam Hazel hefyd ar ôl penderfynu symud i eiddo llai o faint o’u cartref teuluol Tai Wales & West (WWH) yng Ngwelfor, Abergwaun, lle’r oedd wedi bod yn byw am dros 30 mlynedd.

“Rydym yn teimlo mor gyffrous i fod yn symud i bentref Dinas, roedd fy nhad-cu yn ficer yn y plwyf ac mae fy modryb yn byw ym mhentref Dinas.  Bydd cael mam yn byw dau ddrws i ffwrdd o gymorth mawr wrth warchod y plant!,”dywedodd Debbie, sy’n gweithio i GIG yn Ysbyty Llwyn Helyg.

“Mae’r merched yn edrych ymlaen yn fawr i setlo yn ein cartref newydd.  Mae’n agos i’w hysgol yn Nhrefdraeth ac mae nifer fawr o’u ffrindiau yn byw yn yr ardal.

“Mae cost rhent preifat wedi bod yn codi, felly roeddwn yn awyddus i sicrhau cartref mwy fforddiadwy i ni gyd dros y tymor hir.”

Mae Susan Stickler, pensiynwr, hefyd yn gobeithio y bydd symud i Barc Brynach  yn ddechrau ffres iddi.  Bu farw ei gŵr anabl y llynedd, felly rhoddodd ei chartref Tai Wales & West yn Nhrefdraeth, a addaswyd yn arbennig, yn ôl er mwyn symud.

“Addaswyd ein hen gartref ar gyfer fy ngŵr a oedd wedi colli ei goesau.  Roedd yn hyfryd, ond roedd symud yn teimlo fel y penderfyniad iawn fel y gallai rhywun arall mewn angen gael budd o’r tŷ.”

“Roedd yr hen dŷ yn cynnwys cymaint o atgofion, felly mawr obeithiaf y bydd symud i bentref Dinas yn rhoi dechrau ffres i mi a’r cyfle i wneud rhai atgofion newydd.”
Preswylwyr Susan Stickler

Dywedodd Glenda Bowen, Rheolwr Tai ar gyfer Tai Wales & West yng Nghastellnewydd Emlyn: “Fel nifer o bentrefi ar draws Sir Benfro, gwelir prinder cartrefi modern ac o ansawdd da ym mhentref Dinas, y gall pobl leol fforddio eu rhentu a’u gwresogi.

“Rydym yn falch ein bod wedi gallu darparu’r cartrefi hyn o ansawdd da ym mhentref Dinas.  Rydym wedi cydweithio’n agos gyda Chyngor Sir Penfro er mwyn sicrhau bod y cartrefi newydd wedi cael eu neilltuo i deuluoedd ar gofrestr Cartrefi Dewisedig Sir Benfro, y mae ganddynt gysylltiad â phentref Dinas a’r cyffiniau.”
Glenda Bowen, Rheolwr Tai ar gyfer Tai Wales & West

“Mae gan bawb sy’n symud yma gysylltiadau â’r ardal ac mae rhai yn symud yn ôl er mwyn bod yn agosach i’w teuluoedd, eu gwaith ac ysgolion.

“Mawr obeithiwn y bydd y preswylwyr yn hapus yn eu cartrefi newydd am flynyddoedd lawer.”

Fel rhan o’r datblygiad newydd, gweithiodd WWH gyda chontractwyr TRJ a Chyngor Cymuned Dinas a’r Caeau Chwarae Coffa i ddarparu nawdd er mwyn gwella’r lle chwarae yn y pentref trwy osod weiren wib yno.

Darparwyd y nawdd gan WWH fel rhan o’i chronfa Gwneud Gwahaniaeth, sy’n gweithio gyda’i chyflenwyr a’i chontractwyr i roi rhywbeth yn ôl i’r cymunedau lleol trwy noddi prosiectau lleol a grwpiau cymunedol a chwaraeon.

 

Alison Stokes

alison.stokes@wwha.co.uk 07484 911100 Alison yw ein Swyddog CC a Marchnata ar gyfer De a Gorllewin Cymru.