Newyddion

28/06/2023

Bydd dwy elusen sy’n herio hiliaeth ac sy’n gweithio gyda chymunedau ethnig lleiafrifol ar draws Cymru yn rhannu rhodd o £60,000 gan Grŵp Tai Wales & West.

Bwrdd Grŵp Tai Wales & West yn rhoi £60,000 i gynorthwyo elusennau sy’n gweithio gyda chymunedau ethnig lleiafrifol

Bydd dwy elusen sy’n herio hiliaeth ac sy’n gweithio gyda chymunedau ethnig lleiafrifol ar draws Cymru yn rhannu rhodd o £60,000 gan Grŵp Tai Wales & West.

Bydd EYST (Tîm Cymorth Ieuenctid a Lleiafrifoedd Ethnig) Cymru a BMHS (Cymorth Iechyd Meddwl Lleiafrifoedd Ethnig ac Asiaidd Prydeinig) yn cael £10,000 y flwyddyn yr un am dair blynedd.

Bydd y cyllid yn helpu EYST i barhau ei waith o gynorthwyo plant, pobl ifanc a theuluoedd, grwpiau cymunedol, ffoaduriaid, ceiswyr lloches a mudwyr o leiafrifoedd ethnig, gan barhau i herio hiliaeth yn ehangach mewn cymdeithas.  Bydd yn helpu i godi ymwybyddiaeth a meithrin dealltwriaeth o’r cymunedau amrywiol sy’n byw yng Nghymru a gwella cydlyniant cymunedol. 

I BMHS, sefydliad nid-er-elw sydd wedi ymrwymo i ysbrydoli cymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol yng Nghymru i fod yn iach yn feddyliol a chynorthwyo cymunedau ar y cyrion, bydd y rhodd yn helpu i ariannu gweithdai cymunedol i hyrwyddo cydnerthedd a lles meddyliol o fewn cymunedau BAME. 

Dywedodd Alex Ashton, Cadeirydd Grŵp Wales & West:  “Bob blwyddyn, byddwn yn dewis elusennau sy’n mynd i’r afael â materion sy’n effeithio ar ein cymunedau a’n preswylwyr.

“Eleni, roeddem yn awyddus i hyrwyddo gwaith dwy elusen sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn i les pobl ifanc, oedolion a chymunedau lleiafrifol ac sydd ar y cyrion. 

“Mae’r pandemig a’r argyfwng costau byw wedi cael effaith anghymesur ar grwpiau ethnig lleiafrifol, felly roeddem yn dymuno cynnig ein cymorth i sefydliadau sy’n gweithio yn y maes hwn.
Alex Ashton, Cadeirydd Grŵp Wales & West

“Mae’r ddwy elusen a ddewisom wedi ymrwymo i gydraddoldeb ac amrywiaeth, cyfiawnder cymdeithasol a hawliau dynol, a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl arall. 

“Mae EYST yn un o’r sefydliadau blaenllaw sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc, teuluoedd a grwpiau cymunedol ethnig lleiafrifol yng Nghymru.  Bob blwyddyn, mae ei wasanaethau yn helpu dros 5,000 o unigolion ac mae’n cyflawni rôl weithredol wrth gynorthwyo ffoaduriaid, ceiswyr lloches a mudwyr hefyd. 

“Mae BMHS yn credu y dylai fod modd i bawb fanteisio ar gymorth iechyd meddwl, waeth beth fo eu cefndir neu eu hethnigrwydd.  Mae’n deall y sialensiau y mae unigolion o gymunedau BAME yn eu hwynebu, ac mae’n ceisio mynd i’r afael â’u hanghenion trwy weithio mewn partneriaeth â byrddau iechyd ac awdurdodau lleol er mwyn sicrhau bod gwasanaethau yn gynhwysol ac yn sensitif ar lefel ddiwylliannol. 

“Mawr obeithiwn y bydd ein cyfraniad yn galluogi’r elusennau hyn i gael mwy fyth o effaith ar fywydau’r rhai y mae angen y cymorth hwnnw arnynt fwyaf.” 

Dywedodd Alfred Oyekoya, Cyfarwyddwr BMHS:  “Estynnwn ein gwerthfawrogiad diffuant i Grŵp Tai Wales & West am eu haelioni ac am eu hymrwymiad i wneud gwahaniaeth yn ein cymuned.

“Bydd y rhodd yn ein galluogi  i ehangu ein mentrau allgymorth a threfnu gweithdai cymunedol sy’n hyrwyddo iechyd meddwl a chydnerthedd o fewn y gymuned BAME.  Ein nod yw creu amgylchedd cefnogol sy’n annog unigolion i geisio help, sy’n lleihau stigma, ac sy’n gwella llythrennedd iechyd meddwl.”
Alfred Oyekoya, Cyfarwyddwr BMHS

“Mae ymroddiad Grŵp Tai Wales & West i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau yn cyd-fynd yn berffaith â’n gwerthoedd ni yn BMHS.  Gyda’u cymorth nhw, rydym mewn sefyllfa well i ddarparu adnoddau iechyd meddwl hanfodol sy’n grymuso unigolion ac sy’n hyrwyddo lles holistig.” 

Ychwanegodd Helal Uddin, Cyd-Gyfarwyddwr Tîm Cymorth Ieuenctid a Lleiafrifoedd Ethnig (EYST Cymru):  “Estynnwn ein diolch diffuant i’r Bwrdd, y tîm arwain uwch a’r holl gydweithwyr yn WWHG am eu cymorth ac am gydnabod pwysigrwydd gwaith EYST Cymru.”

“Bydd y rhodd hon yn gwneud gwahaniaeth arwyddocaol i EYST Cymru, yn enwedig yn ystod y cyfnod heriol hwn lle y mae costau byw a chost cyfleustodau yn codi.  Fel elusen, rydym yn dibynnu ar roddion hael er mwyn parhau ein gwaith.  Croesawir amseriad y rhodd yn fawr, yn enwedig o ystyried y sefyllfa bresennol.”
Helal Uddin, Cyd-Gyfarwyddwr Tîm Cymorth Ieuenctid a Lleiafrifoedd Ethnig (EYST Cymru)

 

 

 

Alison Stokes

alison.stokes@wwha.co.uk 07484 911100 Alison yw ein Swyddog CC a Marchnata ar gyfer De a Gorllewin Cymru.