Newyddion

05/08/2020

Mae staff Grŵp Tai Wales & West yn paratoi ar gyfer her 3,000 o filltiroedd i godi arian ar gyfer Mind Cymru

Trwy gydol mis Awst mae staff ac aelodau’r Bwrdd yn Nhai Wales & West a’i Grŵp o gwmnïau Cambria Maintenance Services a Castell Ventures yn cael eu herio i glocio 3,000 o filltiroedd o weithgaredd ar y cyd. 

Creodd y gymdeithassydd â swyddfeydd yng NghaerdyddCastellnewydd  Emlyn ac Ewlomenter codi arian y 3 Her Fawr a  gwahoddwyd staff, a oedd yn gweithio o’u cartrefi yn bennafi osod her iddynt eu hunain yn seiliedig ar y rhif 3.  Pleidleisiodd staff i gefnogi Mind Cymru am y ddwy flynedd nesaf a nod y digwyddiad yw i godi arian hanfodol i’r elusen. 

Mae rhai o’r heriau y mae unigolion a grwpiau bach o staff wedi’u haddo neu eu cwblhau hyd yn hyn yn cynnwys:

Dysgu 3 tric ystwythder newydd i’w anifail anwes Border Terrier mewn 3 wythnos

Plannu 3 coeden

Llwytho 333 o fyrnau gwair


Gwau 3 arth mewn 3 wythnos


Pobi 33 o deisennau cwpan


Rhoi cynnig ar 3 rysáit newydd mewn 3 wythnos


Rhedeg, cerdded a beicio 333 milltir yr wythnos am 3 wythnos a 300 milltir mewn un penwythnos.


Rhedeg, cerdded a beicio 300 milltir mewn un penwythnos.


Cerdded 3 gwaith o amgylch Castell Caerffili 3 gwaith yr wythnos am 3 wythnos


Tynnu 30 llun o fywyd yn ystod gwarchod

Hyd yn hyn mae tua 30 aelod o staff wedi cofrestru i gymryd rhan yn yr her 3,000 o filltiroedd a byddant yn cofnodi eu gweithgareddau trwy ap Strava 

Dywedodd Prif Weithredwr y Grŵp, Anne Hinchey: “Yn y sefyllfa bresennol mae elusennau wedi brwydro’n wirioneddol i gynnal eu hymgyrch codi arian ac mae llawer o ddigwyddiadau wedi’u canslo 

Roedd ein staff wedi ymrwymo i godi arian ar gyfer Mind Cymru am y ddwy flynedd nesafRydym wedi gohirio llawer o’n digwyddiadau codi arian gan gynnwys Her Tri Chopa Cymru a llawer o ddigwyddiadau yn y swyddfa fel diwrnodau gwisgo i lawrrafflau a gwerthiant cacennau 

Roeddem yn teimlo ei bod yn bwysig gallu gwneud rhywbeth i gadw ein hymdrechion codi arian ar gyfer Mind Cymru i fynd er gwaethaf y cyfyngiadauMae’r 3 Her Fawr yn dod â staff ynghydgydag un nod i godi £3,000. ” 

Rydw i eisiau dweud da iawn i bawbmaen nhw i gyd yn helpu tuag at ein nod i wneud gwahaniaeth mewn sawl ffordd wahanol.” 

“Rydw i mor falch o’r holl staff yn Nhai Wales & West am barhau â’u hymdrechion codi arian i gefnogi Mind Cymru ar yr adeg heriol hon. Mae’r 3 Her Fawr yn fenter wych i gadw staff mewn cyswllt a chodi arian ar-lein. Dwi wrth fy modd yn edrych ar ddiweddariadau a lluniau 3 her pawb ar Justgiving. Diolch yn fawr iawn a da iawn!

Dywedodd Lucy Lloyd, Uwch Swyddog Codi Arian Cymunedol Mind Cymru; “Rydyn ni’n gymuned o bobl ddiatal yng Nghymru na fydd yn ildio nes bod pawb sy’n dioddef profiad iechyd meddwl yn cael y gefnogaeth a’r parch maen nhw’n ei haeddu. Bydd yr arian a godwch yn gwneud gwahaniaeth mawr.”

 Mae tudalen JustGiving wedi’i sefydlu ar gyfer y 3 Her Fawr  https://www.justgiving.com/fundraising/wwha-wales-west-housing  

Alison Stokes

alison.stokes@wwha.co.uk 07484 911100 Alison yw ein Swyddog CC a Marchnata ar gyfer De a Gorllewin Cymru.