Newyddion

14/04/2023

Mae Tai Wales & West ar y blaen wrth osod technoleg a fydd yn arbed ynni i breswylwyr sy’n byw mewn fflatiau yng Nghaerdydd

Mae preswylwyr mewn bloc o fflatiau yng Nghaerdydd yn gobeithio haneru eu biliau trydan blynyddol ar ôl i Dai Wales & West osod system ynni solar sy’n cynnwys y dechnoleg ddiweddaraf.

Cwrt Odet yn yr Eglwys Newydd, Caerdydd yw’r cynllun tai cyntaf yng Nghymru i ddefnyddio system ynni solar arloesol sy’n gallu cysylltu pob fflat gyda’u paneli PV solar eu hunain ar y to.  Mae’n golygu y bydd pob aelwyd yn gallu cael budd cyfartal gan yr ynni glanach a mwy fforddiadwy er mwyn helpu i roi sylw i dlodi tanwydd a lleihau allyriadau carbon.

Mae Tai Wales & West wedi cynnal y prosiect mewn partneriaeth ag Allume Energy, sef datblygwyr technoleg SolShare, ar ôl sicrhau cyllid rhannol gan Raglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio Llywodraeth Cymru.  Gosodwyd y system gan gwmni ynni adnewyddadwy Green Park Power o’r Fenni.

Disgwylir i’r system gynhyrchu tua 50,000kWh y flwyddyn, sy’n ddigon i redeg peiriant golchi dillad 24 awr y dydd am ddwy flynedd a hanner.  Rhennir yr ynni hwn yn gyfartal ymhlith y 24 fflat yn yr adeilad.  Gosodwyd batris cymunol hefyd er mwyn storio’r ynni dros ben ar gyfer adegau pan fydd y preswylwyr ei angen fwyaf er mwyn manteisio i’r eithaf ar yr arbedion.

Mae’n golygu y gallai pob aelwyd fanteisio ar oddeutu 2,000kWh o ynni hunangynyrchedig y flwyddyn, a allai arwain at arbedion o oddeutu 50% ar eu biliau ynni.  O ystyried y ffaith mai’r pris cyfartalog am drydan yw 34c/kWh ar hyn o bryd, byddai hynny yn golygu y byddai pob aelwyd yn arbed tua £390 – £530 y flwyddyn ar sail cyfanswm yr ynni a ddefnyddir gan fflat un ystafell wely cyffredin.

“Ar adeg pan fo nifer o bobl yn wynebu dewisiadau anodd o ran gwresogi eu cartrefi neu fwydo eu hunain a’u teuluoedd, mae’n iawn ein bod yn ystyried ffyrdd o sicrhau bod ein cartrefi yn defnyddio ynni mewn ffordd fwy effeithlon ar gyfer ein preswylwyr pan fo modd.”
Joanna Davoile, Cyfarwyddwr Gweithredol (Asedau) ar gyfer Tai Wales & West  

“Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweithio gyda nifer o sefydliadau a Llywodraeth Cymru i dreialu gwahanol ddulliau o ôl-osod technolegau arbed ynni mewn cartrefi hŷn, gan gynnwys mwy o ddeunydd inswleiddio mewnol ac allanol, pympiau gwres o’r ddaear a’r aer, a systemau batris a PV solar.

“Hyd yn hyn, mae’r holl systemau PV a storio ynni mewn batris a osodwyd gennym wedi cael eu gosod mewn cartrefi unigol.  Mae gennym sawl bloc o fflatiau fel Cwrt Odet ac un o’r prif sialensiau tan nawr fu sut y gallem osod paneli PV a systemau batri yn y cartrefi hyn fel y gallai pawb sy’n byw yn y cynllun gael budd yn yr un modd.

“Dylai system SolShare fod yn ddatrysiad llawer tecach i’n preswylwyr oherwydd y dylai’r ynni a gynhyrchir gan yr adeilad gael ei rannu mewn ffordd gyfartal er mwyn eu helpu i gadw eu costau trydan i lawn yn hytrach na chael ei ddychwelyd i’r grid.”

“Rydym yn teimlo’n gyffrous i weld sut y bydd y dechnoleg a ddefnyddir yn system SolShare yn gweithio i’n preswylwyr.  Dros flwyddyn gyfan, mawr obeithiwn y byddant yn gweld eu biliau trydan yn gostwng yn sylweddol.”

“Rydym yn gweithio gydag Allume Energy i ddarganfod a fyddai modd treialu system SolShare yn rhai o’n cynlluniau tebyg mewn rhannau eraill o Gymru ac a fyddai modd ei datblygu a’i haddasu ar gyfer gwahanol fathau o flociau o fflatiau.”

“Hwn yw’r prosiect cyntaf o’i fath yng Nghymru ac mae’n cynrychioli’r union ffordd o feddwl y mae angen i ni ei weld yn y sector tai.”

Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd

“Mae datgarboneiddio cartrefi yn rhan fawr o’n taith tuag at sicrhau Cymru Sero Net erbyn 2050 ac edrychaf ymlaen at ddilyn y prosiect arloesol hwn wrth i’r gwaith fynd rhagddo.

“Ar adeg pan fo costau yn codi, nid yn unig y bydd gwella pa mor effeithlon y mae cartrefi yn defnyddio ynni yn ein helpu i ddelio â’r argyfwng hinsawdd, ond hefyd, bydd yn helpu teuluoedd trwy’r argyfwng costau byw.

“Mae’n gam pwysig arall ar ein taith tuag at Gymru sy’n gryfach, sy’n decach ac sy’n fwy gwyrdd.”

Dywedodd Jack Taylor, Rheolwr Cyffredinol Ewrop, Allume Energy:  “Mae datrysiadau syml a fforddiadwy ar gael, felly mae’n wych gweld llywodraethau a chymdeithasau tai yn coleddu technolegau arloesol sy’n helpu i fynd i’r afael â thlodi tanwydd a newid hinsawdd.”

“Mawr obeithiwn y bydd y prosiect hwn yn gweithredu fel templed ar gyfer llywodraethau a darparwyr tai cymdeithasol yn y DU er mwyn cynnig gwaith uwchraddio arbed ynni cost-effeithiol.”


Mae Peter a Carole Ballantyne yn bensiynwyr ac maent yn gobeithio gweld eu biliau trydan yn gostwng eleni.

Mae’r pâr yn eu 80au ac wedi bod yn byw yn eu fflat un ystafell wely yng Nghwrt Odet, Caerdydd, ers 25 mlynedd.  Maent yn talu tua £90 y mis am eu hynni ar hyn o bryd, a chaiff £50 o hwn ei wario ar drydan.

Dywedodd Mr Ballantyne:  “Rydym yn defnyddio llawer iawn o drydan.  Rydym yn defnyddio ein peiriant golchi bob dydd ac rydym yn defnyddio trydan er mwyn coginio a chael cawod.  Mae fy ngwraig yn gaeth i’r tŷ ac mae’n mwynhau gwylio’r teledu, felly bydd y teledu ymlaen am 10-12 awr bron bob dydd.”

“Pan fydd ein tariff ynni sefydlog yn gorffen yn yr haf, rydym yn disgwyl i’n biliau godi, ond gan bod gennym yr ynni solar newydd, rydym yn gobeithio na fydd yn gymaint o sioc.”
TWW Preswylwyr Peter Ballantyne

“Roedd y contractwyr a fu’n gweithio ar y cynllun yn dda iawn.  Roeddent yn gwrtais ac yn daclus iawn.  Pryd bynnag y byddai angen iddynt droi’r pŵer i ffwrdd er mwyn gwneud unrhyw waith, byddent yn rhoi gwybod i ni ymlaen llaw.

“Pan gawsom broblem gyda’r sgaffaldiau a oedd yn effeithio ar ein dysgl loeren ar Ŵyl y Banc, bu Lee o Dai Wales & West yn dda iawn.  Roedd yn gwybod pa mor bwysig yw’r teledu i’m gwraig felly daeth ag erial i’w rhoi y tu mewn i ni nes y byddai modd datrys y mater.  Ni allwn ei ganmol ddigon.”

Alison Stokes

alison.stokes@wwha.co.uk 07484 911100 Alison yw ein Swyddog CC a Marchnata ar gyfer De a Gorllewin Cymru.