Newyddion

04/04/2023

Cynllun pantri’n tyfu gyda’n cymorth ni

Wrth i nifer fwy o bobl nag erioed o’r blaen droi at bantrïoedd lleol sy’n cael eu rhedeg gan Baobab Bach CIC am help gyda bwyd rhad, rydym wedi eu helpu i gyrraedd mwy o bobl sy’n dioddef tlodi bwyd.

Mae’r sefydliad yn rhedeg rhwydwaith o 14 o bantrïoedd wythnosol ar draws Sir Pen-y-bont ar Ogwr a Bro Morgannwg, sy’n cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr. Maent yn cynorthwyo dros 240 o bobl bob wythnos trwy ddosbarthu tua 1.8 tunnell o fwyd, a bwyd a roddir gan archfarchnadoedd lleol, i aelodau, sy’n gallu prynu cwdyn mawr o fwyd am £5, sy’n gallu eu helpu i baratoi sawl pryd trwy gydol yr wythnos.

Er mwyn eu galluogi i gyrraedd mwy o bobl a chynnig ystod ehangach o fwydydd ffres a bwydydd oergell, roedd Baobab Bach yn dymuno prynu oergelloedd arddangos. Llwyddom i gamu i’r adwy trwy brynu dwy oergell ar gyfer pantri sefydledig ym Maesteg ac un newydd yn Y Barri.

Darparom y nawdd fel rhan o’n cronfa Gwneud Gwahaniaeth, lle’r ydym yn gweithio gyda’n cyflenwyr a’n contractwyr i roi rhywbeth yn ôl i’r cymunedau lleol trwy gynorthwyo prosiectau lleol a grwpiau cymunedol a chwaraeon.

“Rydym yn ddiolchgar i Dai Wales & West am y cymorth. Mae ein cyflenwyr yn cynnig mwy a mwy o fwyd ffres, ac roeddem yn dymuno gallu trosglwyddo hwn i’n haelodau.”
Alison Westwood, Cyfarwyddwr Baobab Bach

“Rydym yn annog ein haelodau i goginio eu bwyd eu hunain hefyd trwy gynnig ryseitiau ac arddangosiadau am ddulliau coginio rhad megis defnyddio poptai araf. Mae’r gallu i gynnig bwydydd oer ffres yn allweddol er mwyn gwella sgiliau coginio ein cleientiaid a chynnig diet amrywiol a chytbwys.

 

“Gyda’r oergelloedd newydd, gallwn gynnig ystod ehangach o fwyd i’n haelodau a chyrraedd mwy o bobl.”

Alison Stokes

alison.stokes@wwha.co.uk 07484 911100 Alison yw ein Swyddog CC a Marchnata ar gyfer De a Gorllewin Cymru.