Newyddion

19/10/2023

Llys Jasmine yn dathlu ei ben-blwydd yn 10 oed


Bu preswylwyr yn dathlu pen-blwydd cynllun gofal ychwanegol yn 10 oed gyda theisen, gwydraid o rywbeth ffisiog a pherfformiad byw gan gôr.

Estynnwyd gwahoddiad i James Lambert Singers i berfformio yn Llys Jasmine yn Yr Wyddgrug i ddathlu degawd ers ei agor.

Perfformiodd y côr o Wrecsam ddwy set a oedd yn cynnwys detholiad o ganeuon modern a thraddodiadol yn Gymraeg ac yn Saesneg, gan gynnwys Sosban Fach, Show me the way to Amarillo a Wind Beneath my Wings.

Llys Jasmine oedd ail gynllun gofal ychwanegol Tai Wales & West pan groesawodd ei breswylwyr cyntaf yn 2013 mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint.

Hwn hefyd oedd y cynllun gofal ychwanegol cyntaf yng Nghymru i gynnwys fflatiau arbennig ar gyfer pobl sydd â dementia.

Bu Kara Foulkes, rheolwr gofal ychwanegol yn Llys Jasmine, yn myfyrio gyda balchder am y 10 mlynedd ddiwethaf, gan ei bod wedi bod yno pan agorodd y cynllun ei ddrysau am y tro cyntaf.

“Cawsom brynhawn hyfryd yn dathlu,” dywedodd. “Bu cymaint o atgofion hyfryd dros y 10 mlynedd ddiwethaf. Rydym wedi creu cymuned wych yma, sy’n cydnabod cyfraniad pawb sydd wedi bod yn gysylltiedig â Llys Jasmine dros y blynyddoedd. Yn bwysicach fyth, rydym wedi creu amgylchedd diogel a gofalgar i’n holl breswylwyr.”

Mae Llys Jasmine yn cynnwys 61 o fflatiau i bobl 65 oed a throsodd ac y mae ganddynt angen gofal a chymorth.

Rhoddir blaenoriaeth i bobl sydd eisoes yn byw yn Sir y Fflint. Mae’r cyfleusterau yn cynnwys bwyty ar y safle, lolfeydd a storfa bygis, a chynhelir gweithgareddau rheolaidd ar y safle. Darparir gofal chymorth yn Llys Jasmine gan Gyngor Sir y Fflint.

Am ragor o wybodaeth, trowch at https://www.wwha.co.uk/cy/property-extra-care/llys-jasmine/

Andrew Price

andrew.price@wwha.co.uk07881 379 098 Andrew yw ein Swyddog CC a Marchnata ar gyfer Gogledd Cymru