Newyddion

30/10/2023

Cadw’n ddiogel yn ystod Noson Tân Gwyllt


Byddem yn argymell eich bod yn mynychu digwyddiad wedi’i drefnu os allwch wneud hynny.
 Os ydych yn bwriadu cynnal parti tân gwyllt ar Noson Tân Gwyllt elenidyma ychydig gyngor i’ch cadw yn
ddiogel
    

Ailgylchu yn hytrach na llosgi  

Cyn cynnau tân, holwch eich hun a oes ffordd fwy diogel o gael gwared ar eich gwastraff?  Mae gan y rhan fwyaf o awdurdodau lleol wasanaethau er mwyn casglu gwastraff gardd, sy’n fwy diogel na llosgi deunyddiau.  Mae’n drosedd llosgi gwastraff domestig os yw’n peri niwsans neu berygl iechyd.  Mae nifer o awdurdodau lleol yn cynnig gwasanaeth casglu eitemau mawr hefyd am ffi fechan, sy’n addas ar gyfer hen ddodrefn.  Os yw eich dodrefn mewn cyflwr rhesymol, mae nifer o sefydliadau elusennol yn fodlon casglu’r eitemau hyn.  Trowch at wefan eich cyngor lleol i weld manylion casgliadau gwastraff gardd ac eitemau mawr yn eich ardal. 


Pethau i fod yn ymwybodol ohonynt 
 

  • Cadwch eich tân i ffwrdd o goed, ffensys ac adeiladau.
  • Ni ddylech fyth ddefnyddio olew neu betrol i gynnau tân – gallech wneud niwed i’ch hun ac i’r amgylchedd.
  • Ni ddylech fyth adael tân heb neb yn cadw golwg arno neu adael iddo fudlosgi – dylech ei ddiffodd.
  • Dim ond deunydd sych y dylech ei losgi.
  • Ni ddylech fyth losgi sbwriel y cartref, teiars rwber, neu unrhyw beth sy’n cynnwys plastig, ewyn neu baent.
  • Dylech osgoi cynnau tân pan na fydd y tywydd yn addas – bydd mwg yn aros yn yr aer ar ddiwrnodau llaith a llonydd.  Os bydd hi’n rhy wyntog, gall mwg chwythu i erddi ac i mewn trwy ffenestri cyfagos.
  • Dylech osgoi llosgi pan fo lefelau llygredd yr aer yn uchel neu’n uchel iawn yn eich ardal.

Alison Stokes

alison.stokes@wwha.co.uk 07484 911100 Alison yw ein Swyddog CC a Marchnata ar gyfer De a Gorllewin Cymru.