Newyddion

01/08/2023

Gwirfoddolwr yn cael gwobr am ei chymorth mewn canolfan gymunedol

Annette Bryden (left) presents Linda Downes with volunteering award

Annette Bryden (chwith) yn cyflwyno gwobr gwirfoddoli i Linda Downes am ei chyfraniad i ddigwyddiadau yng Nghanolfan Adnoddau Cymunedol Hightown / Annette Bryden (left) presents Linda Downes with a volunteering award for her contribution to events at Hightown Community Resource Centre

Mae un o breswylwyr Wrecsam sy’n rhoi ei hamser er mwyn helpu i gynnal digwyddiadau ar gyfer y gymuned wedi cael ei chydnabod am ei chyfraniad.

Casglodd Linda Downes Dystysgrif Rhagoriaeth am ei gwaith gwirfoddol yng Nghanolfan Adnoddau Cymunedol Hightown Tai Wales & West yn Wrecsam.

Cyflwynwyd y wobr gan Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam (AVOW) fel rhan o’i dathliadau ar gyfer yr Wythnos Gwirfoddolwyr.

“Mae’r hyn y mae Linda yn ei wneud ar gyfer y ganolfan wir yn gwneud gwahaniaeth.”

Annette Bryden, Rheolwr Canolfan Adnoddau Cymunedol Hightown

Symudodd Linda o Bournemouth i Wrecsam dair blynedd yn ôl a dechreuodd fynychu digwyddiadau yng Nghanolfan Adnoddau Cymunedol Hightown gan ei bod yn byw gerllaw y ganolfan.

Yn gyntaf, roedd Bingo bob wythnos ac yna clwb crefft, a chyn bo hir, dechreuodd Linda helpu yn ystod digwyddiadau, gan gynorthwyo gyda phopeth o gyfarfod a chyfarch ymwelwyr i helpu i baratoi neu glirio pethau i ffwrdd.

Bellach, mae’n wyneb cyfarwydd i ymwelwyr â’r ganolfan ac mae ei chefnogaeth yn helpu i sicrhau bod digwyddiadau yn cael eu rhedeg yn esmwyth.

Rhoddwyd ei henw ymlaen am y wobr gan reolwr y ganolfan, Annette Bryden, er mwyn cydnabod ei chyfraniad.

Dywedodd Annette: “Mae’r hyn y mae Linda yn ei wneud ar gyfer y ganolfan wir yn gwneud gwahaniaeth. Mae hi’n hyfryd iawn, yn gyfeillgar ac yn groesawgar i bawb sy’n dod i ddigwyddiadau yma, felly mae’n braf gweld ei chyfraniad yn cael ei gydnabod gyda’r wobr hon gan AVOW.”

Dywedodd Linda: “Symudais i Wrecsam yn fuan cyn dyfodiad Covid a phan ddechreuodd pethau agor i fyny ar ôl y pandemig, roedd y ganolfan yn lle croesawgar a diogel i ddod iddo.

“Roeddwn yn mwynhau dod yma a thrwy gyfrwng y digwyddiadau a fynychais, llwyddais i wneud ffrindiau newydd. Pan holodd Annette am wirfoddoli, roeddwn yn hapus i helpu. Rydw i’n helpu yn ystod gwahanol ddigwyddiadau a phan fydd cyfle gennyf, ac mae’n wych cyfarfod pobl newydd. Nid oeddwn yn credu’r peth pan glywais y byddwn yn cael y wobr.”

Mae AVOW yn cefnogi’r gymuned leol a’r sector gwirfoddol yn Wrecsam ac ef yw’r Cyngor Gwirfoddol Sirol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Mae’n gweithio gydag elusennau, grwpiau gwirfoddol a chymunedol, mentrau cymdeithasol, ymddiriedolwyr, gwirfoddolwyr unigol, gofalwyr a defnyddwyr gwasanaeth.

Mae Canolfan Adnoddau Cymunedol Hightown yn ganolfan gymunedol sy’n cael ei rhedeg gan Dai Wales & West yn ardal Hightown yn Wrecsam. Mae’n cynnal grwpiau a digwyddiadau rheolaidd ac mae ganddi ystafelloedd ar gael i’w llogi.

Am ragor o wybodaeth, trowch at https://www.facebook.com/hightowncrc

Andrew Price

andrew.price@wwha.co.uk07881 379 098 Andrew yw ein Swyddog CC a Marchnata ar gyfer Gogledd Cymru