Newyddion

18/07/2023

Tai Wales & West yn cynorthwyo prosiect chwarae ar gyfer plant ffoaduriaid

Bellach, mae gan blant sy’n ceisio Lloches le diogel i chwarae – diolch i gymorth Tai Wales & West (WWH).

Darparom dros £7,800 ar ffurf nawdd i Gyngor Ffoaduriaid Cymru (WRC) i gynorthwyo gweithgareddau yn eu prosiect chwarae, gan ganiatáu iddynt barhau trwy gydol y gwyliau ysgol.

Bydd y cyllid yn helpu WRC i gynnig lle diogel i blant sy’n ceisio Lloches i chwarae yn ystod eu tair sesiwn chwarae wythnosol a gynhelir dan drefniant galw heibio yng Nghanolfan Eglwys y Drindod yn Y Sblot, Caerdydd, gan gynnig mynediad i blant i deganau a llyfrau straeon dwyieithog.

Cyfarfu hyd at 20 teulu o wledydd a oedd yn cynnwys Eritrea, Nigeria, Sudan, Syria, Irac, Affganistan, Albania ac Wcráin, gyda’u plant ifanc yn y sesiynau.  Wrth i’r plant chwarae a gwneud ffrindiau mewn lle diogel, gall eu rhieni gael cymorth gan y staff a’r gwirfoddolwyr.  Ariannir y prosiect chwarae gan Blant mewn Angen y BBC, ac mae wedi bod yn rhedeg am 13 o flynyddoedd.

Mae’r prosiect wedi cynorthwyo dros 338 o blant dros y flwyddyn ddiwethaf, gan ddosbarthu 660 o deganau a 182 o becynnau llyfrau/llyfrau i blant a fu’n mynychu.  Bydd y cymorth ariannol gan WWH yn cynorthwyo WRC i fynd â’r plant allan o gwmpas Caerdydd hefyd, er mwyn iddynt allu dod i nabod y ddinas a theimlo’n rhan ohoni.

Esboniodd Meryl Hoffer, arweinydd y Prosiect Chwarae, “Mae ein sesiynau chwarae yn lle cynnes, croesawgar a diogel i blant Ffoaduriaid a phlant sy’n ceisio Lloches.  Pan fyddant yn cyrraedd yn y lle cyntaf, bydd nifer o blant yn teimlo wedi’u llethu a’n nod ni yw eu hannog i chwarae, mwynhau ein lle yn rhydd, cael hwyl a gwneud ffrindiau.”

“Bydd y rhodd yn ein galluogi i gynnig mwy o gyfleoedd hwyliog a phrofiadau i’n plant, a’u helpu i feithrin cydnerthedd a hyder yn ystod cyfnod anodd iddyn nhw a’u teuluoedd”
Meryl Hoffer, arweinydd y Prosiect Chwarae

“Heb y cyllid hwn, efallai y bydd yn rhaid i ni leihau ein sesiynau a rhoi’r gorau i gynnig gwasanaethau cymorth a gweithgareddau hanfodol yn ystod y gwyliau ysgol.”

Dywedodd un fam o Sudan, sy’n mynychu gyda’i dau o blant ifanc:  “Rydym yn dwli dod yma.  Mae pawb yma mor garedig a pharod eu cymwynas.  Pan ddaethom yma y tro cyntaf, nid oedd fy mhlant yn gwybod beth oedd teganau, ond maent wedi dysgu sut i chwarae ac maent yn fwy hyderus yng nghwmni plant eraill.”

Alison Stokes

alison.stokes@wwha.co.uk 07484 911100 Alison yw ein Swyddog CC a Marchnata ar gyfer De a Gorllewin Cymru.