Newyddion

01/07/2021

Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria, yn lansio ymgyrch recriwtio prentisiaid

Mae Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria, un o gyflogwyr mwyaf blaenllaw Cymru yn lansio ymgyrch recriwtio a fydd bron yn dyblu nifer y prentisiaid a gyflogir ganddo.

Mae Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria yn fenter gymdeithasol ac yn rhan o Grŵp Tai Wales & West (WWHG) ac mae’n cynnal a chadw 12,000 a mwy o gartrefi Tai Wales & West ar draws Cymru.  Mae ymhlith dau y cant yn unig o gyflogwyr y DU sydd wedi sicrhau achrediad Platinwm Buddsoddwyr mewn Pobl am y ffordd y mae’n cynorthwyo ei gyflogeion.  Fis diwethaf, llwyddodd Cambria i gyrraedd rownd derfynol Gwobrau Prentisiaeth Cymru Llywodraeth Cymru, yn y categori Cyflogwr Canolig.

Mae gan y cwmni leoliadau yng Nghaerdydd, Castellnewydd Emlyn ac Ewlo, ac mae’n cyflogi 16 o brentisiaid ar hyn o bryd fel rhan o’i weithlu o 165 o staff cynnal a chadw trydanol, nwy a gwresogi ac aml-sgiliau, y maent yn gweithio i gynnal a chadw cartrefi WWH.

Mae’n dymuno recriwtio 14 prentis pellach fel rhan o’i fuddsoddiad parhaus mewn hyfforddi ei weithlu ar gyfer y dyfodol.

Mae’r rolau prentisiaeth canlynol ar gael:

  • Aml-sgiliau
  • Gwresogi a phlymio
  • Trydanol

 

Mae Ryan Jones yn Weithiwr Masnach i Cambria, a sicrhaodd gymwysterau ym maes plymio a chynnal a chadw tai trwy gyfrwng rhaglen prentisiaethau Cambria.

Dywedodd:  “Ymunais fel prentis aml-sgiliau ac ar ôl dwy flynedd, symudais ymlaen i brentisiaeth plymio.  Bellach, rydw i’n blymwr cymwys ac yn gweithio fel Gweithiwr Masnach i Cambria, gan osod ystafelloedd ymolchi yng nghartrefi WWH, ac rydw i’n mwynhau’r yrfa yr ydw i wedi’i dewis.”

“Rydw i’n mwynhau’r elfen o ddysgu mewn ffordd ymarferol yn y swydd.  Rydw i wedi sicrhau cryn dipyn o wybodaeth trwy weithio gyda chymaint o wahanol weithwyr masnach proffesiynol.” 
Alex Carter â Cambria fel prentis trydanol pan oedd yn 25 oed

Dywedodd Peter Jackson, Cyfarwyddwr Rheoli Cambria:  “Mae cael cynnig prentisiaeth gan Wasanaethau Cynnal a Chadw Cambria yn ymrwymiad mawr.  Mae’n golygu ein bod yn mynd i fuddsoddi ynoch am y dyfodol a’ch bod chi yn mynd i fuddsoddi yn eich hyfforddiant er mwyn sicrhau y bydd gennych chi yrfa am y dyfodol.  Mae’n gyfle gwych hefyd i gyfuno pedwar diwrnod yr wythnos yn cael hyfforddiant yn y gwaith gydag un diwrnod yr wythnos yn y coleg.

Diwrnodau agored rhith

Cynhelir cyfres o ddiwrnodau agored dros Zoom er mwyn cynnig y cyfle i ddarpar ymgeiswyr gael gwybod mwy am y rolau prentisiaeth o fewn Cambria.  Bydd Peter Jackson, Cyfarwyddwr Rheoli; Geraint Parry, Prif Reolwr Gweithrediadau;  ac aelodau o Dîm Talent a Diwylliant Grŵp Tai Wales & West, sy’n cynorthwyo ein prentisiaid yn ystod eu cyflogaeth, ar gael i ateb unrhyw gwestiynau a fydd gan bobl.

Cynhelir y sesiynau ar nos Fawrth 6 Gorffennaf rhwng 4.30pm a 5.30pm a rhwng 6pm a 7pm.

Am ragor o wybodaeth ac i archebu lle ar sesiwn, trowch at www.cambria-ltd.co.uk/en/current-vacancies/

 

Alison Stokes

alison.stokes@wwha.co.uk 07484 911100 Alison yw ein Swyddog CC a Marchnata ar gyfer De a Gorllewin Cymru.