Newyddion

11/06/2021

Clwb Criced West End Y Barri wrth eu bodd gyda chymorth Tai Wales & West

Mae Tai Wales & West (WWH), darparwr tai, wedi rhoi £1,500 ar ffurf nawdd i Glwb Criced West End Y Barri, er mwyn ei helpu i ddisodli offer tir a pharatoi ar gyfer tymor 2021.

Defnyddir y nawdd i brynu peiriant torri glaswellt ac ysgraffiniwr newydd i baratoi’r maes ar gyfer y tymor newydd.  Mae’r clwb yn cynnwys aelodau sydd rhwng 5 ac 85 oed ac mae ganddo dimau iau a dynion hŷn sy’n chwarae gemau criced yn y gynghrair a gemau cyfeillgar ar ddydd Sul.

Darparodd Tai Wales & West £1,500 ar ffurf nawdd fel rhan o’i chronfa Gwneud Gwahaniaeth, sy’n gweithio gyda’i chyflenwyr a’i chontractwyr er mwyn rhoi rhywbeth yn ôl i’r cymunedau lleol trwy gynorthwyo grwpiau cymunedol a chwaraeon.

Dywedodd Mark Ellis, Swyddog Cynnwys a Buddsoddiad Cymunedol a llefarydd ar y ran y clwb:  “Mae gan Glwb Criced West End Y Barri y maes mwyaf yng Nghymru ac mae gofyn gwneud cryn waith i gynnal a chadw y tir.”

“Fel nifer o glybiau chwaraeon, cwtogwyd ar ein gweithgareddau codi arian a’n tymor y llynedd o ganlyniad i Covid-19, ond bu’n rhaid i ni dalu’r costau o gynnal a chadw’r tir o hyd.  Roedd ein hen offer wedi gweld dyddiau gwell ac ar ôl gohirio llawer o dymor 2020, roedd hi’n hanfodol ein bod yn gallu manteisio ar gyllid er mwyn prynu offer newydd.

“Rydym yn ddiolchgar iawn i Dai Wales & West am eu cymorth, a bydd yr offer newydd yn gwneud cymaint o wahaniaeth i’n chwaraewyr.  Mae’r gwaith o baratoi’r maes yn cael dylanwad enfawr ar y ffordd y mae’r timau yn chwarae, ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr iawn i gael chwarae unwaith eto.”
Mark Ellis, Swyddog Cynnwys a Buddsoddiad Cymunedol a llefarydd ar y ran y clwb

Dywedodd Herman Valentin, Swyddog Datblygu Cymunedol ar gyfer Tai Wales & West:  “Mae gan Glwb Criced West End Y Barri hanes gwych o ddarparu gweithgareddau chwaraeon i bobl o bob oed ac mae’n cyflawni rôl pwysig wrth gyflwyno plant i weithgareddau chwaraeon.

“Mae gallu bod allan yn yr awyr agored a pharhau i fod yn egnïol wedi bod yn bwysig i les corfforol a meddyliol pobl yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.  Fel sefydliad cymdeithasol-gyfrifol, mae WWH yn falch o gefnogi’r clwb er mwyn iddynt allu parhau i gynnig y cyfle i bobl leol gymryd rhan mewn criced a gwella’u ffitrwydd mewn amgylchedd hwyliog a chyfeillgar.” 
Herman Valentin

Alison Stokes

alison.stokes@wwha.co.uk 07484 911100 Alison yw ein Swyddog CC a Marchnata ar gyfer De a Gorllewin Cymru.