Newyddion

19/07/2021

Prosiectau Celfyddydau Cymunedol yng Nghymru yn sicrhau £30,000 gan gymdeithas Tai Wales & West   

Mae sefydliad sy’n helpu grwpiau difreintiedig ac agored i niwed i fynegi eu hunain trwy gyfrwng gwaith celf wedi cael hwb ariannol o £30,000.

Bob blwyddyn, bydd Bwrdd Tai Wales & West yn dewis cefnogi elusennau, gan roi rhodd o £10,000 iddynt am dair blynedd yn olynol.  Dewisont Engage Cymru eleni.

Mae’r rhodd yn golygu y bydd Engage Cymru yn gallu parhau ei waith gydag arlunwyr a grwpiau megis pobl hŷn, gofalwyr ifanc sy’n oedolion, teuluoedd ffoaduriaid a’r rhai sy’n dioddef problemau iechyd corfforol a meddyliol.

Dywedodd Alex Ashton, Cadeirydd Bwrdd Tai Wales & West:  “Rydym yn ceisio cefnogi elusennau sy’n gweithio gyda grwpiau difreintiedig ar draws Cymru, yn enwedig yn ardal y 15 awdurdod lleol lle’r ydym yn darparu dros 12,000 o gartrefi fforddiadwy.

“Mae Engage Cymru yn gwneud gwaith gwych gyda grwpiau difreintiedig ac agored i niwed, er mwyn eu galluogi i fynegi eu hunain trwy gyfrwng gwaith celf.  Mae’r grwpiau hyn yn cynnwys pobl hŷn, gofalwyr ifanc sy’n oedolion, teuluoedd ffoaduriaid, cymunedau sy’n ddifreintiedig mewn ffordd gymdeithasol-economaidd a’r rhai sy’n dioddef problemau iechyd corfforol a meddyliol.
Alex Ashton, Cadeirydd Bwrdd Tai Wales & West

“Mae ein preswylwyr wedi gallu cael budd gan rai o’r prif brosiectau y mae Engage Cymru yn eu rhedeg hefyd, trwy fanteisio ar hyfforddiant, eiriolaeth a rhwydweithiau cymunedol rhith.

“Y llynedd, cynhaliodd yr elusen brosiect Gwobr Celfyddydau llwyddiannus, gan weithio gyda theuluoedd ffoaduriaid o Syria yn Sir Ddinbych, Wrecsam a Chonwy.  Helpodd y prosiect deuluoedd i wella’u defnydd o’r Saesneg.  Bydd yr holl bobl ifanc sy’n cymryd rhan yn cael cymhwyster celf a gydnabyddir ar lefel genedlaethol hefyd, er mwyn eu helpu i wella’u cyfleoedd yn y dyfodol.  Cyfrannodd WWH £3000 tuag at y prosiect trwy ein nawdd Gwneud Gwahaniaeth, ac roedd y ffordd broffesiynol yr oedd Engage Cymru wedi cynnal y prosiect ac ymgysylltu gyda’r teuluoedd wedi gwneud argraff arnom.

“Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae elusennau wedi wynebu mwy o sialensiau wrth godi arian nag erioed o’r blaen, ac mae’r pandemig wedi effeithio ar sector y celfyddydau yn fawr, a mawr obeithiwn y bydd Engage Cymru yn gallu cynorthwyo mwy o bobl mewn angen gyda chymorth y cyllid hwn dros dair blynedd.”

Dywedodd Angela Rogers, Engage Cymru:  “Rydym wrth ein bodd bod Tai Wales & West wedi dewis Engage Cymru fel ei helusen er mwyn cael y swm ariannol hael hwn.  Bydd yr arian yn cynnig cymorth hollbwysig i’n gwaith datblygu celfyddydau cymunedol dros y dair blynedd nesaf.”

Ychwanegodd Jane Sillis, Cyfarwyddwr Engage Cymru:  “Diolch o galon i Dai Wales & West am gefnogi rhaglen Engage Cymru dros y dair blynedd nesaf.  Mae hyn yn gymeradwyaeth go iawn o waith Engage Cymru.  Mae’n cynorthwyo cynulleidfaoedd amrywiol i ymgysylltu â’r celfyddydau gweledol a’r gweithlu sy’n galluogi hyn.  Mae’r rhodd hael hwn yn sicrhau parhad y rhaglen hanfodol hon.”

“Diolch o galon i Dai Wales & West am gefnogi rhaglen Engage Cymru dros y dair blynedd nesaf.  Mae hyn yn gymeradwyaeth go iawn o waith Engage Cymru. “
Cyfarwyddwr Engage Cymru

Mae elusennau eraill y mae Bwrdd WWHG wedi’u cefnogi dros y blynyddoedd diwethaf yn cynnwys Cadwch Gymru’n Daclus, Coffi Manumit, sefydliad sy’n helpu’r rhai sydd wedi goroesi caethwasiaeth fodern a masnachu pobl trwy eu cyflogi a’u hyfforddi i fod yn weithwyr rhostio coffi, Nyrsys Admiral Dementia UK a phrif elusen Cymru ar gyfer digartrefedd, Llamau.

 

 

 

 

 

Alison Stokes

alison.stokes@wwha.co.uk 07484 911100 Alison yw ein Swyddog CC a Marchnata ar gyfer De a Gorllewin Cymru.