Newyddion

01/12/2022

Diwrnod ym mywyd… Swyddog Anghydfodau Cymdogaeth


Mae creu a chynnal cymunedau lle y mae preswylwyr yn byw yn ddiogel ac yn mwynhau bywyd o ansawdd da yn hynod o bwysig.  Pan fo pethau yn gallu rhwystro hyn, mae gwaith ein Swyddogion Anghydfodau Cymdogaeth (NDOs) fel Matt Williams yn hanfodol. Gall hyn gynnwys popeth o broblemau fel aflonyddwch a achosir gan sŵn ac anghytuno ynghylch ffiniau eiddo, i faterion sy’n ymwneud â throseddu cyfundrefnol difrifol sy’n ymwneud â chyffuriau.

Mae NDOs yn gweithio fel rhan o’r tîm tai, gan ddarparu adnodd ychwanegol a sgiliau arbenigol er mwyn delio ag achosion cymhleth o ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae Matt yn gweithio yng Ngogledd Cymru ac mae’n un o blith chwe NDO sy’n helpu i sicrhau newid parhaus mewn ymddygiad pan welir ymddygiad gwrthgymdeithasol ac anghydfodau cymdogaeth yn ein cymunedau.

“Prif ddiben ein swydd yw lleihau gwrthdaro, drwgdeimlad ac ymddygiad gwrthgymdeithasol a chreu cymdogaethau diogel,” dywedodd Matt, sy’n gweithio yng Nghonwy a Sir y Fflint yn bennaf. “Rydym yn gweithio ar newid a dylanwadu ar ymddygiad a chwalu rhwystrau, trwy siarad gyda phreswylwyr a’u helpu i ddeall sut y gallai eu hymddygiad fod yn peri i eraill deimlo.”

“Ni ddylai unrhyw un fyth orfod dioddef yn dawel os ydynt yn cael eu heffeithio gan broblemau yn eu cymdogaeth”

“Byddwn wastad yn mabwysiadu dull gweithredu ataliol neu adferol, a bydd camau cyfreithiol fel troi rhywun allan wastad yn ddewis olaf.” Bu Matt yn gweithio yn y gwasanaeth carchardai a phrawf cyn ymuno â WWH yn 2020, gan gynnig profiad gwerthfawr o waith aml-asiantaeth a defnyddio sgiliau rhesymu yn ei rôl newydd. “Rydw i’n cydweithio’n agos gyda’r heddlu ac asiantaethau statudol eraill yn rheolaidd er mwyn helpu i ddatrys problemau mor effeithiol ac effeithlon ag y bo modd.  Nid oes dau ddiwrnod fyth yr un fath. Rydych chi wastad yn delio gyda rhywbeth gwahanol ac mae hyn yn rhan bleserus o’r swydd.”

“Ni ddylai unrhyw un fyth orfod dioddef yn dawel os ydynt yn cael eu heffeithio gan broblemau yn eu cymdogaeth ac mae’n bwysig bod preswylwyr yn sicrhau bod ein staff yn ymwybodol o unrhyw broblemau sy’n gwaethygu”, dywedodd Matt. Ceir adnoddau gwerthfawr hefyd y gall preswylwyr droi atynt megis gwefan ASB Help, elusen gofrestredig sy’n cynnig cyngor a chymorth i ddioddefwyr ymddygiad gwrthgymdeithasol. “Rydym wastad yn cynghori preswylwyr i geisio siarad â’i gilydd yn y lle cyntaf er mwyn datrys unrhyw broblemau,” dywedodd.  “Efallai na fydd un unigolyn yn ymwybodol o’r ffaith eu bod yn peri niwsans, er enghraifft, a gall hyn ynddo’i hun achosi drwgdeimlad.”

“Ond mae gwasanaeth ar gael i chi os ydych chi’n cael problemau gyda chymdogion a gallwch gysylltu â ni trwy eich Swyddog Tai.  Ni allwn weithredu am unrhyw beth heb wybod amdano.” Er bod materion YG yn gallu bod yn gymhleth ac yn heriol i’w datrys, mae rôl Matt yn un gwerth chweil, lle y mae defnyddio sgiliau cyfathrebu gwych yn un o’r offerynnau mwyaf effeithiol. “Y peth pwysicaf yn y swydd yw gallu siarad gyda phobl, gwrando ar eu safbwynt a chymryd camau cymesur.”

“Rydw i’n caru fy swydd. Mae gennym amgylchedd gwaith gwych ac mae holl aelodau’r tîm tai yn cydweithio’n agos i wneud gwahaniaeth i breswylwyr.”

Os ydych chi’n credu eich bod yn dioddef ymddygiad gwrthgymdeithasol, cysylltwch â’ch Swyddog Tai neu trowch at wefan ASB Help sef https://asbhelp.co.uk i gael gwybod am y cymorth sydd ar gael i chi.

Dan Ryan

Cyswllt: Dan.Ryan@wwha.co.uk