Newyddion

14/11/2022

Datblygu ein Gweithlu ein Hunain – hyfforddeion cyntaf i sicrhau rolau amser llawn

Two young WWH staff members in PPE looking to camera
18 mis ar ôl creu rhaglen Datblygu ein gweithlu ein hunain, Elliot Danby ac Isaac Parr yw’r hyfforddeion cyntaf i sicrhau rolau amser llawn gyda Thai Wales & West.

Ar ôl ymuno ym mis Mai 2021, mae Elliot ac Isaac wedi bod yn cyflawni rolau amser llawn yn y tîm Data, gan ddysgu mwy am y swydd, y sefydliad, a’r sector tai.

Mae hyfforddeion yn mynychu diwrnodau hyfforddiant ychwanegol pwrpasol fel rhan o’r rhaglen.  Mae ffocws pob diwrnod hyfforddiant yn wahanol, ond mae gan bob un ohonynt yr un nod, sef gwella eu gwybodaeth, eu sgiliau, a’u profiad.  Mae’r diwrnodau hyfforddiant hyn wedi amrywio o hyfforddiant traddodiadol yn y dosbarth sy’n ystyried materion megis deallusrwydd emosiynol, i ymweliadau safle ar draws Cymru.

Penllanw hyn i gyd yw bod y ddau ohonynt wedi sicrhau swyddi amser llawn gyda Thai Wales & West.

Dywedodd Isaac, Dadansoddwr Data “Y peth gorau am raglen Datblygu ein gweithlu ein hunain, yw’r cyfle y mae’n ei gynnig.”

“Ar ôl gadael y brifysgol, gall fod yn anodd sicrhau swydd a chamu ar yr ysgol yrfaoedd.  Mae’n anodd gwybod pa fath o yrfa yr hoffech ei dilyn hefyd, felly roedd cael profiad o’r byd gwaith go iawn, gan weithio 40 awr yr wythnos am flwyddyn a hanner, wedi fy helpu i gadarnhau’r yrfa hon yn fy meddwl.”

“Mae hwn yn rhywbeth y mae gennyf ddiddordeb ynddo, ac rydw i’n dymuno parhau i’w wneud – rydw i mor hapus fy mod i wedi llwyddo i sicrhau swydd amser llawn gyda Thai Wales & West, felly gallaf wneud hynny nawr gyda sefydliad yr wyf wedi mwynhau gweithio iddo!”

Elliot "Heb os, roedd cael profiad eang o'r sefyliad wedi fy helpu pan ymgeisiais am fy swydd amser llawn bresennol."

Llwyddodd Elliot, Swyddog Systemau Gwybodaeth, i sicrhau rôl mewn tîm gwahanol i’r un y treuliodd ei raglen graddedig ynddo.  Dywedodd “Fel rhan o’r rhaglen, rydym yn mynychu diwrnodau hyfforddiant Datblygu ein Gweithlu Ein Hunain.  Nid yn unig y mae hyn yn cynnig cyfle i ni gael cyswllt gyda hyfforddeion eraill, ond mae’n caniatáu i ni dreulio amser gydag adrannau eraill na fyddem yn cael cysylltiad uniongyrchol â nhw.  Yn ogystal, mae’r diwrnodau hyfforddiant wedi cynnig y cyfle i ni ymweld â’n swyddfeydd yng Ngogledd a Gorllewin Cymru, ac rydym wedi cael y cyfle i ymweld â safleoedd datblygu Tai Wales & West hefyd.”

“Heb os, roedd cael profiad eang o’r sefydliad wedi fy helpu pan ymgeisiais am fy swydd amser llawn bresennol.”

Isaac "Y peth gorau am raglen Datblygu ein Gwiethlu ein Hunain, yw'r cyfle y mae'n ei gynnig"

Roedd Carly Hodson, Rheolwr Datblygu Gyrfaoedd, yn gyfrifol am sefydlu’r rhaglen a datblygu hyfforddiant pwrpasol ar gyfer yr hyfforddeion.

“Mae rhaglen Datblygu ein Gweithlu Ein Hunain yn galluogi ein hyfforddeion i lansio eu gyrfa heb yr angen am unrhyw brofiad gwaith blaenorol.  Rydym yn cynnig swydd go iawn, cyflog cystadleuol, gan gynnig profiad a gwaith ymarferol ar yr un pryd.  Rydym yn darparu rhaglen strwythuredig sy’n cael ei chynorthwyo yn dda, ac sy’n cynnig y cyfleoedd i’n hyfforddeion brofi gwahanol adrannau wrth iddynt gael teimlad go iawn o rolau amrywiol.  Mae’n gyfle iddynt ddarganfod y math o waith sydd fwyaf gwerth chweil iddynt.”

“Mae Elliot ac Isaac wedi tyfu a datblygu yn aruthrol ers iddynt ymuno â ni gyntaf, ac erbyn hyn, maent wedi cael eu hymwreiddio yn y sefydliad, ac maent yn ffitio i mewn yn dda iawn.  Gallwch weld eu hyder yn tyfu bob dydd.  Felly mae wedi bod yn dda iawn eu bod wedi gallu sicrhau swyddi amser llawn gyda ni.”

Gallwch gael gwybod mwy am gynllun Datblygu ein Gweithlu ein Hunain yma.

Dan Ryan

Cyswllt: Dan.Ryan@wwha.co.uk