Newyddion

17/04/2019

Dathlu ein preswylwyr am Wneud Gwahaniaeth i’w cymunedau

Mae pencampwraig ifanc ym maes gyrru beiciau modur a frwydrodd yn erbyn diagnosis canser a fyddai’n newid ei bywyd, a phensiynwr sydd wedi bod yn gwella cymuned yng Ngogledd Cymru am 20 mlynedd, wedi cael eu anrhydeddu am eu Cyflawniadau Rhagorol mewn seremoni gwobrau tai i bobl ar draws Cymru gyfan.

Enillodd Tanisha Thomas o Aberteifi, sy’n bencampwraig ym maes motocrós, a John Williams o Barracksfield, Wrecsam, y Wobr am Gyflawniad Eithriadol yng Ngwobrau Gwneud Gwahaniaeth 2019 Tai Wales & West.

Mae’r gwobrau wedi bod yn rhedeg ers 11 o flynyddoedd ac maent yn agored i’r 22,000 o breswylwyr sy’n byw yn eiddo WWH ar draws Cymru, gan ddathlu cymdogion da, arwyr lleol, prosiectau amgylcheddol a chymunedol a’r rhai sydd wedi gwneud newidiadau ysbrydoledig a ysgogiadol i’w bywydau.

Cyflwynwyd y wobr i Tanisha, 24 oed, am y ffordd ysbrydoledig y mae hi wedi brwydro’n galed i ddysgu cerdded unwaith eto, gan ennill y Bencampwriaeth Motocrós Genedlaethol unwaith eto, dair blynedd ar ôl i feddygon ddarganfod tiwmor canseraidd ar ei hasgwrn cefn.  Enillodd John y wobr am neilltuo 21 o flynyddoedd o’i fywyd i wneud gwahaniaeth i fywydau teuluoedd at ystad Barracksfield yn Wrecsam.

Roedd yr enillwyr eraill y cyflwynwyd gwobrau iddynt yn y seremoni a gynhaliwyd yng Ngwesty Vale, Hensol, ger Caerdydd, fel a ganlyn:

Enillydd y Wobr Arwyr Cymunedol oedd Ian Stoker, defnyddiwr cadair olwyn o Aberteifi, am arwain ymgyrch un dyn i lanhau ysbwriel a baw cŵn o strydoedd a mannau prydferth ei dref.  Mae’n treulio hyd at naw awr y dydd yn casglu gwerth wyth cilogram o faw cŵn yr wythnos ar gyfartaledd, ynghyd â bagiau diddiwedd o ysbwriel.

Enillodd Roger Nicholas, tad-cu a chyn löwr o Faesteg ger Pen-y-bont ar Ogwr, Wobr Cychwyn Ffres am ei benderfyniad i roi’r gorau i fod yn gaeth i alcohol, rhywbeth a oedd wedi effeithio ar ei fywyd a’i deulu am dros 40 o flynyddoedd.

Yr Hyrwyddwr Lles oedd Neil Buffton, preswylydd ifanc yng nghynllun gofal ychwanegol Llys Glan Yr Afon yn y Drenewydd, Powys, gan ei fod wedi goresgyn rhwystrau personol a gwella bywydau ei gymdogion trwy sefydlu cangen o elusen Sied y Dynion a’u hannog i gymryd rhan mewn gweithgareddau.

Rhoddwyd teitl yr hyrwyddwr codi arian i gyn nyrs o Wrecsam, Iris Evans.  Bu’n gwirfoddoli ac yn codi arian ar gyfer Gwasanaeth Gwirfoddol Ysbyty Maelor Wrecsam am 21 o flynyddoedd ac ar ôl iddi ymddeol, dechreuodd wau er mwyn codi arian ar gyfer elusennau canser, gwasanaeth cymorth SANDS i rieni sydd wedi colli plentyn a phreswylwyr yng nghartref gofal Parc Pendine.

Enillodd Kathryn Burnand Wobr Mynd yn Wyrdd am drawsnewid darn o dir a oedd wedi tyfu’n wyllt ger ei chartref ym Mhrestatyn, yn ardd gymunedol, ac enillodd Wendy Blewett y Wobr Cymydog Da am wneud gwahaniaeth i’w chymdogion yng Nghwrt Oldwell, Caerdydd.

“Rydym wedi bod yn noddi’r digwyddiad ers sawl blynedd a bob blwyddyn, mae’n anrhydedd i mi helpu i ddathlu cyflawniadau cymaint o breswylwyr mor rhyfeddol Tai Wales & West.”
Rhys Gibson o’r prif noddwyr, Gwasanaethau Technegol Arbenigol Gibson

“Roedd cymaint o enillwyr ac unigolion haeddiannol a ddaeth yn agos i’r brig yng ngwobrau eleni.  Roedd yn agoriad llygad ac yn brofiad ysbrydoledig clywed eu straeon am y ffyrdd y maent wedi gwneud gwahaniaeth i’w bywydau ac i’w cymunedau.”
Anne Hinchey, Prif Weithredwr Grŵp Tai Wales & West

Bydd yr arian a godir o’r digwyddiad yn mynd i gynllun grantiau Gwneud Gwahaniaeth Tai Wales & West, sy’n helpu i sbarduno prosiectau cymunedol ac amgylcheddol a chyfleoedd hyfforddiant a chyflogaeth i breswylwyr.

Y rhai a gyrhaeddodd rownd derfynol Gwobrau MAD 2019

Arwyr Cymunedol, noddwyd gan PMD
Enillydd: Ian Stoker, Aberteifi
Wedi cyrraedd y rownd derfynol: Grŵp Unity o Gaerau, Caerdydd; Tommy Guest, Y Fflint; Christine Foulkes a Val Evans, Cwrt St Clements, Caerdydd

Cychwyn Ffres, noddwyd gan Lee Poole & Sons
Enillydd: Roger Nicholas, Pen-y-bont ar Ogwr
Wedi cyrraedd y rownd derfynol: Elaine Mayhew, Y Rhyl; Jackson Gray ac Amey Parker, Aberystwyth

Hyrwyddwr Lles, noddwyd gan Hale Construction
Enillydd: Neil Buffton, Llys Glan Yr Afon, Y Drenewydd
Wedi cyrraedd y rownd derfynol: Kate Hancock, Llys Owen, Aberteifi; Grŵp Garddio Cymunedol ac Adfywio o Drelái, Caerdydd; Joyce Brown, Nant Y Mor, Prestatyn

Mynd yn Wyrdd, noddwyd gan Contour Showers
Enillydd: Kathryn Burnand, Prestatyn
Wedi cyrraedd y rownd derfynol: Ali Cocks, Aberystwyth; Kathleen Simpson a Graham Jones, Cwrt Hanover, Llandudno; Iorwerth Jones o Lys Hafren

Cymydog Da, noddwyd gan Jamson Estates
Enillydd: Wendy Blewett o Gwrt Oldwell, Caerdydd
Wedi cyrraedd y rownd derfynol: Sarah Wilson o’r Fferi Isaf; Reg Baulch o Laneirwg, Caerdydd a Pat Rogers o Gwrt Limebourne, Caerdydd

Hyrwyddwr Codi Arian, noddwyd gan MACP
Enillydd: Iris Evans, Wrecsam
Wedi cyrraedd y rownd derfynol: Vera Piper, Cwrt Western, Caerdydd; Steve Derrett, Cwrt Oakmeadow, Caerdydd; Agnes Prosser, Gerddi Ffynnon, Aberystwyth

Cyflawniad Eithriadol, noddwyd gan CJS Electrical
Enillwyr: Tanisha Thomas, Aberteifi; John Williams, Barracksfield, Wrecsam

Roedd noddwyr Gwobrau MAD 2019 yn cynnwys: Gibson STS, Jamson Estates Ltd, Lee Poole and Sons, Contour Showers, PMD, Hale Construction Ltd, CJS Electrical, MACP, Ian Williams Ltd a Dulux, Thermal Earth, Jehu, J&P Windows Ltd, Anwyl, EWIS, Independence Solutions, Snowdonia, P+P Builders, Days Rental, Preseli Home Improvements Ltd, WCS environmental and building maintenance; Polyflor; 1st Communications; Xpedient Print; Envirovent; Symphony; Brenig; Seddon Construction Ltd; Stelrad; Vaillant; CR Creative; Inhouse Manager; Aico; Thorlux; M&K Pest Control; Physical Adaptation Solutions; Castlemead; Gwesty Vale; Gwesty Village.

 

Alison Stokes

alison.stokes@wwha.co.uk 07484 911100 Alison yw ein Swyddog CC a Marchnata ar gyfer De a Gorllewin Cymru.