Newyddion

18/04/2019

Cannoedd yn ymweld â’r Diwrnod Gwybodaeth ar gyfer Plas yr Ywen

Roedd cannoedd wedi ymweld â diwrnod gwybodaeth wrth i fanylion pellach am gynllun gofal ychwanegol newydd Treffynnon gael eu datgelu, a fydd yn costio £8.5m.

Roedd aelodau’r cyhoedd wedi galw heibio yn Neuadd Ymarfer Treffynnon i gael gwybod mwy am y cyfleusterau, cynllun y fflatiau, y gwasanaeth arlwyo, y costau byw, y swyddi a’r gofal a’r cymorth a fydd ar gael ym Mhlas yr Ywen, a fydd yn agor yn ystod y Gwanwyn 2020.

Yn ogystal, roedd yr ymwelwyr wedi cael cyfle i ddysgu mwy am lwybr coetir a leolir ar safle y cynllun gofal ychwanegol yn Ffordd Halkyn.

Roedd safle hen Ysgol Perth y Terfyn, a ddymchwelwyd er mwyn cynnig lle ar gyfer y cyfleuster newydd, yn cynnwys coetir hynafol, ac mae hwn yn cael ei ddatblygu yn lle awyr agored i bobl ei fwynhau.

“Bydd Plas yr Ywen yn darparu cyfleusterau rhagorol er mwyn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl.”

Christine Jones, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Wasanaethau Cymdeithasol

Darparir Plas yr Ywen gan Dai Wales & West mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint ac roedd cynrychiolwyr o’r ddau sefydliad yn bresennol ar y diwrnod i gynnig cyngor ac arweiniad.

Darparwyd lluniaeth gan Fentrau Castell, a fydd yn cynnal y gwasanaeth bwyty ar y safle yn y cynllun.

Dywedodd Shayne Hembrow, Dirprwy Brif Weithredwr Tai Wales & West:  “Rydym yn hynod o falch o fod yn darparu cynllun gofal ychwanegol arall i bobl yn Sir y Fflint a chawsom lawer o adborth cadarnhaol gan y rhai a fynychodd ar y diwrnod.”

Dywedodd Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Wasanaethau Cymdeithasol:  “Rydw i’n falch bod cymaint o bobl wedi mynychu ein digwyddiad gwybodaeth er mwyn cael gwybod am y cyfleuster newydd cyffrous hwn yn Nhreffynnon.

“Bydd Plas yr Ywen yn darparu cyfleusterau rhagorol er mwyn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl.”

Bydd Plas yr Ywen yn cynnwys 43 o fflatiau un ystafell wely a 12 o fflatiau dwy ystafell wely, a bydd gofal a chymorth ar gael ar y safle.

Bellach, derbynnir datganiadau o ddiddordeb gan y rhai sy’n dymuno byw yn y cynllun.  Rhaid i ymgeiswyr fod yn 50 oed neu’n hŷn ac mae’n rhaid bod ganddynt angen gofal a chymorth er mwyn cael eu hystyried am fflat ym Mhlas yr Ywen.

I gael gwybod mwy neu i wneud cais, ffoniwch 0800 052 2526 neu anfonwch e-bost at contactus@wwha.co.uk.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar-lein hefyd trwy droi at https://www.wwha.co.uk/cy/property-extra-care/plas-yr-ywen-treffynnon-yn-agor-yn-ystod-y-gwanwyn-2020/

Andrew Price

andrew.price@wwha.co.uk07881 379 098 Andrew yw ein Swyddog CC a Marchnata ar gyfer Gogledd Cymru