Newyddion

03/11/2021

Dathlu 6 mis ers dechrau ein Rhaglen ‘Datblygu ein gweithlu ein hunain’

‘Datblygu ein staff ein hunain’ yw ein menter hyfforddiant a fydd yn ein helpu i ddatblygu ein gweithlu ar gyfer y dyfodol trwy gynnig profiad hyfforddiant holistig, gan gynnig sylfaen yn y rôl, y sefydliad a’r sector, yn ein ffordd unigryw ni.  Mae ein cyfleoedd Datblygu ein staff ein hunain yn cynnig cyfle unigryw i hyfforddeion gyflawni rôl trwy wneud gwahaniaeth a sicrhau profiad gwaith gwerthfawr ar yr un pryd.  Ar ddiwedd y Rhaglen i hyfforddeion, bydd ymgeiswyr yn hollol barod ar gyfer y cam nesaf yn eu gyrfa, boed hynny gyda ni yng Ngrŵp Tai Wales & West, neu rywle arall.

6 mis ar ôl recriwtio pobl i’n swyddi gwag Datblygu ein staff ein hunain cyntaf, cawsom sgwrs gydag Isaac Parr ac Elliott Danby, Dadansoddwyr Data dan Hyfforddiant, er mwyn clywed sut y mae pethau’n mynd:

A yw’r rôl wedi cyd-fynd â’r disgwyliadau a oedd gennych chi 6 mis yn ôl?

Isaac:  Chwe mis yn ôl, nid oeddwn yn disgwyl y byddwn yn gweld rhyw lawer o’r hyn y mae’r tîm yn ei wneud, ac y byddwn yn cael fy monitro yn gyson ac y byddai rhywun yn cadw golwg arnaf yn gyson.  Fodd bynnag, rydw i wedi bod yn falch iawn gyda swm y cyfrifoldeb a roddwyd i mi, ac mae hyn wedi bod yn syndod i mi.  Mae’n wych teimlo bod rhywun yn ymddiried ynof a’m bod yn aelod defnyddiol o’r tîm.

Elliot:  Mae’r rôl ei hun yn debyg iawn i’r hyn yr oeddwn yn disgwyl iddo fod;  roeddwn yn gwybod fy mod yn dymuno cael rôl a oedd yn ymwneud yn fawr ag Excel gan fy mod i’n teimlo’n hyderus ac yn fedrus iawn gyda’r feddalwedd honno.

Byddwn yn dweud nad oeddwn yn disgwyl cael cymaint o gyfrifoldeb ac annibyniaeth cyn pen 3 mis yn unig efallai, ond mae hynny’n rhywbeth yr wyf yn ei groesawu’n fawr.  Rydw i’n clywed straeon gan ffrindiau sy’n cael eu maldodi trwy gydol eu cynllun graddedig, yna pan fyddant yn wynebu realiti y swydd, mae popeth ychydig yn ormod iddynt.  A hefyd, mae’n wych gwybod bod eich tîm yn ymddiried digon ynoch i ganiatáu i chi fwrw ymlaen gyda’r hyn sy’n wirioneddol bwysig.

Sut fyddech chi yn disgrifio eich proses ymsefydlu gyffredinol gyda’r sefydliad?

Elliot:  Trylwyr iawn.  Ymunais ar adeg da iawn oherwydd yn syth ar ôl fy nghyrsiau ymsefydlu safonol, cawsom yr ŵyl staff gyntaf.  Hon fu’r cyflwyniad gorau i’r cwmni y gallwn i fod wedi gofyn amdano.  Nifer fawr o anerchiadau a chyfarfodydd gyda gwahanol adrannau a’r cyfle i ddewis pa ddigwyddiadau oedd yn apelio i mi.

Ymunais â WWH pan oedd pobl yn dechrau dychwelyd i’r swyddfa ar ôl i bawb fod yn gweithio o bell oherwydd Covid, felly cefais y cyfle i gyfarfod cydweithwyr yn raddol, yn hytrach na phawb ar yr un pryd.  Rhaid i mi ddweud, er bod nifer fawr o bobl nad wyf wedi eu cyfarfod eto, rydw i’n teimlo fy mod wedi cael croeso mawr yma, ac mae gennyf gysylltiadau mewn nifer o wahanol adrannau yn barod.

Isaac:  Trylwyr iawn.  Fel graddedig heb unrhyw gefndir yn y diwydiant tai, roeddwn yn gofidio y byddwn dan anfantais efallai.  Fodd bynnag, roedd y ddarpariaeth ymsefydlu wedi rhoi’r holl wybodaeth angenrheidiol i mi (a mwy) ac rydw i’n gwybod yr hyn a ddisgwylir ohonof a’r gwerthoedd a werthfawrogir yn WWHG.

Beth yw eich hoff beth am weithio i Grŵp Tai Wales & West (WWHG)?

Isaac:  Rydw i’n gwybod bod hyn yn mynd i swnio’n ystrydebol iawn, ond heb os, y bobl sydd yma.  Mae pawb mor gyfeillgar a diffuant, rydw i wedi cael cymaint o groeso dros y 6 mis diwethaf.  Mae gwybod y gallaf droi at unrhyw un yn fy nhîm am help, yn aelodau mewnol ac allanol, yn cynnig sicrwydd i mi ac mae wedi rhoi hwb aruthrol i’m hyder!

Elliot:  Gweithio i gwmni sy’n gwneud gwahaniaeth!  Mae cymaint o’m ffrindiau yn gweithio i gwmnïau sy’n brolio am eu holl gyfraniadau cadarnhaol, ond ni fyddant fyth yn dangos hynny.  Rydw i wrth fy modd bod popeth yn dryloyw, ac fel cwmni di-elw, mae ein refeniw yn mynd tuag at wella’r gwasanaeth ar gyfer y bobl y mae angen iddynt ei gael mewn gwirionedd.  Mae ein holl wariant yn hollol agored ac ar gael i’r holl gyflogeion ei weld.

Rhaid i mi ddweud y bobl sy’n gweithio i Wales & West hefyd.  Mae pawb yma yn hyfryd a gallwch weld gwerthoedd craidd y cwmni ym mhawb sy’n gweithio yma.

A fyddech chi’n argymell rôl fel hyfforddai gyda WWHG i eraill?

Elliot:  100%.  Yn fy marn i, mae’n gwmni gwych i weithio iddo, ac fel cwmni lle y gallwch ddechrau eich gyrfa, mae’n berffaith.  Mae’n helpu ei fod yn gwmni cymharol fach;  gallwch ddod i adnabod pobl lawer yn gyflymach, a gallwch sicrhau cyswllt ym mhob adran yn gymharol gyflym.  Yn ogystal, mae cyfle i gael llawer o hyfforddiant pellach – anogir datblygiad yn fawr yma.

Isaac:  Yn bendant!  Mae wedi cynnig popeth y byddwn wedi gobeithio ei gael fel cam cyntaf fy ngyrfa!

Dan Ryan

Cyswllt: Dan.Ryan@wwha.co.uk