Newyddion

13/10/2021

Diwrnodau hwyl i blant Aberteifi

Roedd creu sleim, swigod enfawr a chasglu sbwriel ymhlith y gweithgareddau y bu plant ar ystad yn Aberteifi yn eu mwynhau ar ôl i dri sefydliad ddod ynghyd i gynnal cyfres o ddigwyddiadau yn ystod yr haf.

Cynhaliodd Tai Wales & West, mewn partneriaeth â Thîm Plismona Bro Aberteifi a Chanolfan Blant Jig-so, raglen o weithgareddau Haf o Hwyl a lwyddodd i ddwyn cymdogion newydd ynghyd yng Ngolwg y Castell.

Dywedodd Rhiannon Ling, Swyddog Datblygu Cymunedol ar gyfer Tai Wales & West “Roedd hi’n braf bod allan unwaith eto yn cyflawni’r hyn yr ydym oll yn dwli arno, siarad gyda phreswylwyr a gwneud gwahaniaeth mewn cymunedau.

“Bu’n gyfle i gyfarfod preswylwyr newydd a oedd wedi symud i’r ystad a hefyd, bu’n gyfle iddyn nhw gyfarfod ei gilydd.  Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn gyfnod anodd i bawb, felly roedd hi’n braf gweld pobl yn cymysgu eto mewn ffordd ddiogel ac yn mwynhau’r sesiynau hwyliog.”

“Bu’r staff yn Jig-So wrth eu bodd wrth ddarparu nifer o sesiynau hwyliog i’r plant a’u teuluoedd ar ystad Golwg y Castell yn ystod gwyliau’r haf,” dywedodd Linda Grace, Ymddiriedolwr Canolfan Blant Jig-So.

“Hoffem ddiolch i’r teuluoedd am eu hadborth gwerthfawrogol.  Bu’n gyfle i ni barhau ein gwaith gwerthfawr mewn partneriaeth wrth weithio gyda Thai Wales & West a’r Tîm  Plismona bro.”

Yn ystod un digwyddiad, daeth tîm Plismona Bro Aberteifi â’u gorsaf symudol yno, a bu’r plant yn mwynhau’r cyfle i gael eu holion bysedd wedi’u cymryd a thrafod diogelwch cymunedol gyda’r heddlu.

Dywedodd llefarydd ar ran y tîm:  “Rydym wedi ymrwymo i roi sylw i unrhyw bryderon plismona sy’n effeithio ar fywydau ein cymunedau, a bu hwn yn gyfle gwych i ni gyfarfod rhai o’n preswylwyr lleol.

“Mwynhaom ddod i adnabod y preswylwyr a bu’n braf iddyn nhw roi wyneb i ambell i enw yn y tîm heddweision bro lleol.

“Roedd y plant wedi mwynhau’r gweithgareddau yn fawr, ac mae rhai ohonynt wedi penderfynu eu bod yn dymuno bod yn heddweision pan fyddant yn hŷn nawr, sy’n rhywbeth hynod o werth chweil.

“Bu’n llwyddiant enfawr a chafwyd adborth cadarnhaol gan bawb a fynychodd ac a oedd wedi gwerthfawrogi presenoldeb yr heddlu.”

Alison Stokes

alison.stokes@wwha.co.uk 07484 911100 Alison yw ein Swyddog CC a Marchnata ar gyfer De a Gorllewin Cymru.