Newyddion

12/10/2018

Llys Jasmine yn dathlu ei ben-blwydd yn 5 oed

Cynhaliwyd diwrnod o ddathliadau gan breswylwyr er mwyn dathlu pum mlynedd ers agoriad cynllun gofal ychwanegol Tai Wales & West yn Yr Wyddgrug.

O ystyried ei leoliad yng nghanol y dref, estynnwyd gwahoddiad i arweinwyr cymunedol a chafwyd perfformiad gan gôr Ysgol Bryn Coch er mwyn agor y digwyddiad.

Cyfeiriodd Anne Hinchey, Prif Weithredwr Tai Wales & West at yr effaith gadarnhaol y mae’r cyfleuster gofal ychwanegol wedi’i gael ar y gymuned ehangach.

Dywedodd Anne:  “Mae’n anodd credu bod Llys Jasmine yn bump oed.  Lle bynnag y byddwn yn adeiladu cartrefi newydd, rydym yn mynd ati i geisio gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl a’r gymuned leol, ac mae hyn i’w weld yn amlwg yma.

“Nid cartref i’n preswylwyr ydyw yn unig, ond mae’n fan lle y croesawir teulu, ffrindiau, ymwelwyr a grwpiau cymunedol yn yr un modd.”

“Mae Llys Jasmine yn lle y gallwn deimlo’n falch ohono fel sefydliad ac y gall pobl Yr Wyddgrug deimlo’n falch ohono.”
Anne Hinchey, Prif Weithredwr, Tai Wales & West

Croesawodd Llys Jasmine ei breswylwyr cyntaf ym mis Hydref 2013 ac erbyn hyn, mae’n lle cyfarfod ar gyfer grwpiau cymunedol megis Fforwm Anabledd Sir y Fflint a Flintshire Sounds.

Yn fwy diweddar, manteisiodd y preswylwyr ar y cyfle i wylio drama gan Theatr Clwyd, a ffrydiwyd yn fyw i setiau teledu yn y cynllun gofal ychwanegol.

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Wasanaethau Cymdeithasol, Cynghorydd Christine Jones:  “Roedd hi’n bleser bod yn rhan o ddathliadau Llys Jasmine yn bump oed.

“Mae’n anodd credu bod pum mlynedd wedi mynd heibio ers i’r cyfleuster hyfryd hwn agor ei ddrysau.  Mae’n amgylchedd mor groesawgar ac mae’n lle hyfryd i fod.”

“Da iawn i bawb a wnaeth y diwrnod yn un mor arbennig, ac edrychwn ymlaen at y bum mlynedd nesaf.”
Cyng Christine Jones, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol, Cyngor Sir y Fflint

Llys Jasmine oedd y cynllun cyntaf o’i fath yng Nghymru i gynnwys fflatiau arbennig i bobl sydd â dementia, ac mae’n cynnwys 61 o fflatiau at ei gilydd.

Costiodd y cynllun £8.3 miliwn i’w adeiladu, ac fe’i ddarparwyd gan Dai Wales & West mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint a Llywodraeth Cymru.

Andrew Price

andrew.price@wwha.co.uk07881 379 098 Andrew yw ein Swyddog CC a Marchnata ar gyfer Gogledd Cymru