
Ynglŷn â Plas yr Ywen, Treffynnon
Yn 2018, cychwynnwyd ar y gwaith o adeiladu ein cynllun gofal ychwanegol newydd yn Nhreffynnon, sy’n costio £8.5m.
Lleolir y cynllun ar safle hen Ysgol Perth Y Terfyn, a hwn fydd ein hail gynllun gofal ychwanegol yn Sir y Fflint.
Disgwylir i’r preswylwyr cyntaf symud i mewn erbyn dechrau 2020 a bydd modd iddynt fanteisio ar amrediad o gyfleusterau a gofal a chymorth 24 awr ar y safle.
Darparir ein cynllun gofal ychwanegol yn Nhreffynnon mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint a’r contractwr arweiniol, Anwyl Construction.
Cymhwysedd
Er mwyn cael eich ystyried am fflat ym Mhlas yr Ywen:
- Rhaid eich bod yn 50+ oed
- Rhaid bod gennych chi angen gofal a chymorth
Rhoddir blaenoriaeth i bobl sydd eisoes yn byw yn Sir y Fflint.
Llyfryn: Plas yr Ywen – Cymuned Gefnogol
Ymholiadau cyffredinol & sut i wneud cais
I gael gwybod mwy neu i wneud cais, ffoniwch 0800 052 2526 neu anfonwch e-bost at contactus@wwha.co.uk.
Nodweddion
Bydd y cyfleusterau yng nghynllun gofal ychwanegol Treffynnon yn debyg i’r rhai yn ein cynlluniau presennol yn Mhrestatyn, Yr Wyddgrug a’r Drenewydd. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Ystafelloedd cawod cerdded i mewn iddynt yn gysylltiedig
- Ceginau gosod cyfoes (heb gynnwys nwyddau gwynion)
- Ystafelloedd ymolchi gyda chymorth
- Bwyty ar y safle, sy’n gweini prydau wedi’u coginio’n ffres bob dydd
- Safleoedd lolfa
- Ystafell i westeion
- Cyfleusterau golchdy
- Gerddi wedi’u tirlunio
- Terasau
- Storfa bygis
Lleoliad
Gall pobl sydd â chlefyd Alzheimer fyw mewn tai gofal ychwanegol. Fel rhan o’r asesiad a gynhelir o bob unigolyn, ystyrir pob cyflwr iechyd er mwyn sicrhau y gellir bodloni eu hanghenion gofal a chymorth cyn iddynt gael eu derbyn ar y rhestr aros am lety.
Ydym. Ceir fflatiau sy’n cynnwys 2 ystafell wely, sy’n eang ac yn ddelfrydol i gyplau. Wrth asesu addasrwydd cyplau sy’n dymuno cael eu hystyried am dai gofal ychwanegol, byddem yn ystyried anghenion y ddau unigolyn a’r ddau ohonynt fel pâr.
Y prif wahaniaeth yw bod tîm gofal a chymorth ar y safle yn ein cynlluniau gofal ychwanegol. Mae’r tîm hwn yn darparu gwasanaethau i bobl yn unol â’r hyn a gytunwyd yn eu cynlluniau gofal a chymorth unigol.
Pan fydd lle gwag yn codi, ystyrir pawb sydd ar y rhestr aros. Cynigir yr eiddo i’r sawl y bernir eu bod yn yr angen mwyaf ar yr adeg honno.
Ystyrir unrhyw bosibilrwydd y bydd y risg i’r unigolyn yn colli eu hannibyniaeth yn cynyddu a/neu y bydd lefel y cymorth mae ei angen arnynt yn cynyddu os byddant yn aros yn eu llety presennol.
Disgwylir y gallai’ch anghenion newid gydag amser ac y gallai lefel y gofal a’r cymorth y bydd ei angen arnoch amrywio. Bydd y timau yn eich cynorthwyo i barhau i fyw yn eich cartref am gyfnod mor hir ag y bo modd ac am ba mor hir y bydd hyn yn bodloni eich anghenion.
Fflatiau i’w rhentu yn unig yw’r rhain.
Bydd – mae’r gwasanaeth prydau bwyd yn un o amodau’r denantiaeth. Mae hyn oherwydd y bydd gorbenion yn codi hyd yn oed os bydd unigolyn yn dewis peidio cael pryd.
Ni chaiff nwyddau gwynion eu cynnwys.
Ceir deunydd llawr gwrthlithro yn y gegin ac yn yr ystafell gawod cerdded i mewn iddi, gan adael i chi ddewis a darparu eich deunydd llawr eich hun yn yr ystafelloedd eraill.
Gofynnwn i chi geisio cyngor staff y cyfleuster cyn dewis y deunydd llawr er mwyn sicrhau bod modd ystyried y ffordd y mae’r drysau yn agor a chau yn eich fflat.
Ni fydd nwy ar gael i’r fflatiau. Ceir darpariaeth yn y gegin i chi osod cwcer trydan.
Byddwch yn gallu addurno eich fflat. Pan fydd yr eiddo yn newydd, gofynnwn i chi adael 12 mis cyn gwneud unrhyw waith addurno er mwyn caniatáu i’r adeilad setlo.
Byddwch yn gallu gosod lluniau. Gofynnwn i chi geisio cyngor staff y cyfleuster cyn gwneud hynny er mwyn sicrhau y defnyddir y gosodiadau cywir ac yr ystyrir ceblau trydan a phibellau dŵr.
Byddwch yn y rhan fwyaf o achosion. Byddwn yn holi sut y bydd pobl yn gofalu am eu hanifail anwes, gan gadarnhau eu bod yn deall bod rhannau mewnol ac allanol yn cael eu rhannu.
Eich cartref chi yw eich fflat – gallwch fynd a dod a chael ymwelwyr pryd bynnag y byddwch yn dymuno.