Hafan y Dderwen, Bro Morgannwg

Mae’r gwaith wedi dechrau ar ein cynllun gofal ychwanegol diweddaraf, datblygiad o 70 o fflatiau, hunangynhwysol ym Mhenarth, Bro Morgannwg.

Dyma ein cynllun gofal ychwanegol cyntaf yn Ne Cymru a bydd ganddo lawer o’r cyfleusterau tebyg i’n cynlluniau presennol yn Aberystwyth, Treffynnon, Prestatyn, yr Wyddgrug a’r Drenewydd.

Mae’r cynllun gwerth £20 miliwn yn cael ei adeiladu mewn partneriaeth â Chyngor Bro Morgannwg ar safle 3.6 erw ger Myrtle Close, drws nesaf i Oak Court, ein cynllun tai presennol sydd ar gyfer pobl hŷn, a Thŷ Dewi Sant, cartref gofal dementia-gyfeillgar a weithredir gan yr awdurdod lleol.⁠ ⁠

Am y ddarpariaeth gofal ychwanegol ym Mhenarth

Yng ngofal ychwanegol Penarth bydd preswylwyr yn gallu byw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain o fewn cymuned gefnogol ac ofalgar.

Mae’r fflatiau yn cael eu dylunio i fod yn ynni-effeithlon i gadw biliau cyfleustodau yn fforddiadwy i breswylwyr.

Bydd y cynllun yn darparu amrediad o gyfleusterau a gofal a chymorth 24 awr y dydd ar y safle. Disgwylir i’r gwaith gael ei gwblhau yn 2026.

Cymhwysedd

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwneud cais, neu os bydd gennych chi unrhyw ymholiad, ffoniwch 0800 052 2526.⁠ ⁠ ⁠⁠

Pobl sy’n byw ym Mro Morgannwg, neu sydd â chysylltiad â’r sir, fydd yn cael blaenoriaeth.

Oedran

50+ oed

Angen Gofal Ychwanegol

Byddwn yn derbyn ceisiadau gan oedolion sydd ag angen tai neu ofal a chymorth. Bydd asesiad o amgylchiadau pob unigolyn yn cael ei wneud i bennu eu cymhwystra am dai gofal ychwanegol.

Diweddariad datblygu

Dechreuodd ein partner adeiladu hirdymor, JG Hale Group, ar y gwaith yn ystod yr haf 2024.⁠ ⁠ Mae’r gwaith tir wedi’i gwblhau a bydd y cam nesaf yn gweld fframwaith yr adeilad yn ymffurfio.

Ymholiadau

Am ymholiadau ynghylch adeiladu’r cynllun hwn, cysylltwch â Mark Davies at mark.davies@wwha.co.uk.

Os bydd gennych chi unrhyw gwestiynau neu os hoffech wybod mwy am ofal ychwanegol Penarth ffoniwch 0800 052 2526.

Nodweddion

Mae’r cyfleusterau yng nghynllun gofal ychwanegol Penarth yn cynnwys:

 

    • ystafell gawod cerdded i mewn gysylltiedig
    • ceginau gosod cyfoes (heb gynnwys nwyddau gwynion)
    • ⁠bwyty ar y safle
    • lolfeydd
    • ystafell gwesteion
    • cyfleusterau golchi dillad
    • storfa sgwteri symudedd
    • gerddi