Cwrt Dwy Erw
Brecon, Powys
Mae Cwrt Dwy Erw yn ddatblygiad o 66 o fflatiau hunangynhwysol yng nghanol Aberhonddu, sef y porth i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Mae’r cynllun yn cael ei adeiladu ar safle hen ystafell arddangos gwerthu ceir ar Heol Free, ger gorsaf fysiau’r dref.
Mae Cwrt Dwy Erw yn cael ei adeiladu gan y prif gontractwr Hale Group a bydd yn cynnwys llawer o’r un cyfleusterau â’n cynlluniau presennol yn y Drenewydd, Aberystwyth, Treffynnon, Prestatyn, Yr Wyddgrug a Phenarth.
Mae’r datblygiad yn bartneriaeth rhwng Tai Wales & West, Cyngor Sir Powys a Llywodraeth Cymru.
Mwy am Gwrt Dwy Erw
Yng Nghwrt Dwy Erw yn Aberhonddu, bydd preswylwyr yn gallu mwynhau byw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain o fewn cymuned ofalgar a chefnogol.
Mae’r fflatiau’n cael eu cynllunio i fod yn ynni-effeithlon, gan helpu i gadw biliau cyfleustodau yn fforddiadwy i breswylwyr.
Bydd y cynllun yn cynnig amrywiaeth o gyfleusterau. Disgwylir i’r gwaith gael ei gwblhau yn 2028.
Lleoliad
Mae Cwrt Dwy Erw wedi’i leoli ym Maes Parcio Watton, Heol Gouesnou, oddi ar Free Street, Aberhonddu, LD3 7EE.
Mae’r cyfleusterau yng nghynllun gofal ychwanegol Penarth yn cynnwys:
- Ystafelloedd cawod en-suite di-rwystr
- Ceginau cyfoes wedi’u gosod yn llawn (heb gynnwys nwyddau gwyn)
- bwyty ar y safle
- lolfeydd
- ystafell gwesteion
- cyfleusterau golchi dillad
- storfa sgwteri symudedd
- gerddi
Rhaid i ymgeiswyr fod yn 55 oed neu’n hŷn. Bydd pobl sy’n byw ym Mhowys neu sydd â chysylltiad â’r sir yn cael blaenoriaeth.
Byddwn yn derbyn ceisiadau gan oedolion sydd ag angen tai neu ofal a chymorth.
Bydd asesiad o amgylchiadau pob unigolyn yn cael ei wneud i bennu eu cymhwystra am dai gofal ychwanegol.
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais neu os oes gennych unrhyw ymholiadau, ffoniwch 0800 052 2526.
