Polisi Amgylcheddol Grŵp Tai Wales & West

Mae Grŵp Tai Wales & West (GTWW) yn cynnwys Cymdeithas Tai Wales & West, Cambria Maintenance Services Limited, Castell Homes Limited ac Enfys Developments Limited.

Mae Tai Wales & West (WWH) yn un o’r cymdeithasau tai mwyaf yng Nghymru, gan reoli dros 12,500 eiddo ar draws Cymru a darparu cartrefi a gwasanaethau i dros 22,000 o bobl.

Rheolir mwyafrif yr eiddo dan drefniant rhentu, ac er bod cyfran fwyaf yr eiddo yn cynnig llety ‘anghenion cyffredinol’, datblygwyd tua un o bob tri ar gyfer pobl hŷn a phobl sydd ag anghenion gofal a chymorth yn benodol.

Mae Cambria Maintenance Limited (Cambria) yn gwneud gwaith trwsio, cynnal a chadw a gwelliannau yn holl gartrefi TWW.

Mae Enfys Developments Limited yn datblygu cartrefi fforddiadwy newydd ar gyfer y Gymdeithas.

Mae Cartrefi Castell Cyfyngedig yn datblygu datblygiadau deiliadaeth gymysg, y mae rhan o hyn yn ymwneud â darparu cartrefi fforddiadwy ychwanegol i’r Gymdeithas heb yr angen am gymhorthdal grant.

Mae TWW yn sefydliad dielw gyda statws elusennol, sy’n gweithredu ar draws Cymru.

Lleolir y staff gerllaw cynlluniau a chwsmeriaid er mwyn sicrhau gwasanaeth mwy effeithiol.

Mae GTWW yn cyflogi dros 600 o bobl mewn lleoliadau ar draws Cymru.

Mae tua hanner y staff yn darparu gwasanaethau gan gweithio mewn cynlluniau tai ac mae’r gweddill yn gweithio’n hyblyg o’i cartrefi ac o swyddfeydd yng Nghaerdydd (Tŷ’r Bwa a Gwynllŵg), Gogledd Cymru (Tŷ Draig) a Gorllewin Cymru (Cwrt y Llan). Mae’r polisi hwn yn berthnasol i’r bedair swyddfa.

Mae prif effeithiau amgylcheddol y Grŵp yn cynnwys defnyddio ynni a deunyddiau crai, gwaredu gwastraff, cludo cyflogeion, rhedeg fflyd o gerbydau, defnyddio adeiladau storio a defnyddio contractwyr adeiladu a chynnal a chadw.⁠⁠

Mae GTWW yn ymrwymo i welliant parhaus o’r amgylchedd ac i ddiogelu’r amgylchedd drwy gydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth a rhwymedigaethau amgylcheddol perthnasol a gwirfoddol.

Bydd y Grŵp yn: –

• Atal llygredd lle bynnag y bo modd
• Defnyddio cyn lleied o ynni a dŵr ag y bo modd
• Lleihau gweithgarwch cynhyrchu gwastraff gymaint ag y bo modd ac ailgylchu deunyddiau gwastraff yn unol â rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle
• Addysgu a chymell pob cyflogai a gwirfoddolwr i weithio mewn ffordd gyfrifol o ran yr amgylchedd
• Ymrwymo i gyrraedd safonau datblygu newydd Llywodraeth Cymru yn unol â’u nod ‘garbon sero-net erbyn 2050′
• Cael cyswllt gyda chontractwyr er mwyn ceisio lleihau eu heffeithiau amgylcheddol
• Gosod a chynnal Systemau Rheoli Amgylcheddol priodol

Bydd y polisi amgylcheddol hwn yn destun adolygiad blynyddol, a chaiff ei gyfleu i’r holl staff a bydd ar gael i’r holl bartïon eraill sydd â diddordeb.

Cymeradwywyd gan:

Anne Hinchey handwritten signature

 

Anne Hinchey
Prif Weithredwr y Grŵp

5 Ionawr 2024