Beth yw'r mater?

Os ydych chi neu rywun yr ydych yn eu hadnabod mewn perygl, ffoniwch 999 er mwyn adrodd am y mater i’r heddlu.

Ffoniwch 101 i adrodd am ddigwyddiad blaenorol.

Os yw’r unigolyn sydd wedi cael eu cam-drin neu a fu’n destun trais yn teimlo’n rhy ofnus i aros yn eu cartref ac maent yn ceisio lloches, ceir asiantaethau eraill sy’n gallu helpu.

Rhadffôn Llinell Gymorth Genedlaethol Trais Domestig 0808 2000 247 – mae llinell gymorth Rhadffôn 24 awr (a gaiff ei rhedeg mewn partneriaeth rhwng Cymorth i Fenywod a Refuge) ar gael 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos. Caiff ei rhedeg gan wirfoddolwyr a
gweithwyr cymorth benywaidd sydd wedi cael hyfforddiant llawn, a bydd pob galwad yn gyfrinachol.

Llinell Gymorth Byw Heb Ofn Cymru Gyfan ar gyfer Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol 0808 8010800

Llinell gymorth gan Lywodraeth Cymru sy’n darparu gwybodaeth a chyngor i unrhyw un sy’n dioddef cam-drin domestig, trais rhywiol a mathau eraill o drais yn erbyn menywod. Mae’r llinell yn wasanaeth sydd ar gael yn rhad ac am ddim ac mae staff ar gael 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos. Maent yn darparu gwybodaeth, cymorth a gwasanaeth cyfeirio i unrhyw un sy’n dioddef.

Llinell Gymorth Dyn 0808 801 0321

Mae Llinell Gymorth Dyn Cymru Ddiogelach yn darparu cymorth cyfrinachol am ddim i ddynion sy’n wynebu cam-drin domestig yng Nghymru. Mae ar gael bob dydd Llun a dydd Mawrth rhwng 10am a 4pm a bob dydd Mercher rhwng 10am ac 1pm.

Llinell Cyngor i Ddynion, Ffoniwch 0808 801 0327

Llinell gymorth gyfrinachol i ddioddefwyr trais domestig gwrywaidd heterorywiol, hoyw a deurywiol a gweithwyr rheng flaen. Ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am-5pm neu trowch at y wefan