Adrodd am ymddygiad gwrthgymdeithasol

Rydym yn dymuno i chi fyw eich bywyd heb orfod gofidio am droseddu, niwsans neu ymddygiad gwrthgymdeithasol arall.  Rydym yn gwybod ei fod yn gallu effeithio ar ansawdd eich bywyd a’ch lles, felly mae’n bwysig mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol mor gyflym ag y bo modd. 

Os byddwch yn dyst i drosedd neu os byddwch chi, neu rywun yr ydych yn eu hadnabod, mewn perygl, ffoniwch 999 i adrodd wrth yr heddlu am y mater. 

Os oes rhywun yn cyflawni ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n effeithio arnoch chi, mae wastad yn well ceisio trafod y mater gyda nhw mewn ffordd gwrtais a digyffro cyn cysylltu â ni, eich cyngor lleol neu’r heddlu.  Wedi’r cyfan, efallai nad ydynt yn sylweddoli eu bod yn peri problem.  Os na fydd y sefyllfa yn gwella neu os na chaiff y broblem ei datrys, cysylltwch â’ch Swyddog Tai. 

Rydym yn cydweithio’n agos gyda’r heddlu a Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd y cyngor er mwyn sicrhau bod problemau yn cael eu datrys yn y ffordd orau ag y bo modd.  Os byddwch yn gweld rhywun yn cyflawni trosedd, ac nid yw hyn yn rhoi rhywun mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch yr heddlu ar 101 i adrodd amdano.  Cysylltwch â’ch Swyddog Tai i ddweud wrthynt eich bod wedi adrodd am drosedd yn yr ardal. 

Cysylltwch â’ch Swyddog Tai i drafod unrhyw bryderon am ymddygiad gwrthgymdeithasol yn eich ardal. 

Cysylltu â’m Swyddog Tai  >

Enghreifftiau o ymddygiad gwrthgymdeithasol: 

Q

Difrod troseddol neu fandaliaeth 

Q

Trosedd casineb 

Q

Niwsans sŵn yn ystod oriau anghymdeithasol 

Q

Defnyddio cyffuriau/gwerthu cyffuriau 

Q

Masnachu pobl/caethwasiaeth fodern 

Q

Puteindra, gweithredoedd rhywiol neu hel puteiniaid o gerbyd 

Q

Tipio anghyfreithlon/taflu ysbwriel mewn ffordd ormodol 

Q

Ymddygiad bygythiol 

Q

Amheuon am faterion amddiffyn plant 

Os byddwch yn dyst i drosedd neu os byddwch chi, neu rywun yr ydych yn eu hadnabod, mewn perygl, ffoniwch 999 i adrodd wrth yr heddlu am y mater.  Ffoniwch 101 i siarad â’r heddlu am unrhyw faterion nad ydynt yn faterion brys. 

WWH Staff member Matt smiling to camera

Swyddog Anghydfod Cymdogaeth  >

Mae Matt yn Swyddog Anghydfod Cymdogaeth ac mae’n sôn wrthym am ei rôl a’r camau y mae ef a’i dîm yn eu cymryd i waredu ymddygiad gwrthgymdeithasol o gymunedau Tai Wales & West. 

Graphic showing the words 'Modern slavery' under a spotlight

Ffocws ar: Caethwasiaeth Fodern  >

Yn aml, cyfeirir at gaethwasiaeth fodern neu fasnachu pobl fel ‘trosedd gudd’, ac nid yw’n rhywbeth sy’n digwydd mewn dinasoedd mawr neu ardaloedd diwydiannol yn unig.  Gallai ddigwydd i ddynion, menywod a phlant ac mewn unrhyw stryd. 

 

'ASB Help' logo

ASB Help   >

Mae ASB Help yn elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr a sefydlwyd i gynnig cyngor a chymorth i ddioddefwyr ymddygiad gwrthgymdeithasol. [Gwasanaeth ar gael yn Saesneg yn unig]

Darganfod mwy

Darganfod mwy

Darganfod mwy