Beth yw'r mater?

Os bydd ci cymydog yn cyfarth drwy’r amser, caiff hyn ei ystyried fel niwsans sŵn a bydd Adran Iechyd yr Amgylchedd eich cyngor lleol yn delio ag ef. Trowch at wefan eich awdurdod lleol am ragor o wybodaeth.

Os bydd anifail yn crwydro’r strydoedd, heb fod dan oruchwyliaeth, neu os byddant yn peri niwsans gerllaw eich cartref, ffoniwch 101 neu adroddwch am y mater i warden cŵn eich cyngor lleol.