Bay View Road
Bae Colwyn, Conwy
54
o gartrefi

Ynglŷn â’r datblygiad hwn

Mae Glan y Môr yn ddatblygiad o 54 o gartrefi ar gyfer rhent fforddiadwy yn nhref arfordirol Bae Colwyn yng Ngogledd Cymru.

Mae’r datblygiad yn cael ei arwain gan Castlemead Group Ltd a disgwylir iddo gael ei gwblhau ym mis Mawrth 2027.

Bydd Glan y Môr yn cynnwys 46 o fflatiau un ystafell wely ac 8 fflat dwy ystafell wely.

Mae’r cartrefi’n cael eu hadeiladu i’r safonau effeithlonrwydd ynni uchaf, gan gynnwys:

  • Paneli solar ffotofoltäig (PV)
  • Systemau awyru a fydd yn adfer gwres (MVHR)
  • Pympiau gwres ffynhonnell aer

Oes gennych chi ddiddordeb mewn byw yng Nglan y Môr?

Bydd pob un o’r fflatiau yn cael eu neilltuo drwy gofrestr tai Conwy. I ymuno â’r gofrestr, ffoniwch Ddatrysiadau Tai Conwy ar 0300 124 0050.

Lleoliad