Rydym yn croesawu preswylwyr i’w cartrefi newydd gan nodi pennod newydd yn hanes tafarn yn Abergwaun
Mae preswylwyr wedi dechrau symud i mewn i’w fflatiau newydd yn Angorfa, datblygiad newydd Tai Wales & West o 12 fflat i bobl dros 55 oed yng nghanol Abergwaun.
Cwblhawyd y datblygiad tai fforddiadwy ar safle hen dafarn y Ship and Anchor yr haf hwn gan bartneriaid adeiladu Tai Wales & West, Jones Brothers (Henllan).
Mae enw’r safle, Angorfa, yn cyfeirio at hanes y dafarn, a gafodd ei dymchwel yn 2024.
Wedi’u hadeiladu ar draws tri llawr, mae’r cartrefi yn Angorfa wedi’u cynllunio yn unol ag egwyddorion HAPPI (Housing our Ageing Population Panel for Innovation), er mwyn cynnig cartrefi modern deniadol i bobl hŷn y gellir eu haddasu’n hawdd i ddiwallu anghenion gofal yn y dyfodol. Mae’r cynllun yn cynnwys llwybrau cerdded agored, ac mae pob fflat yn edrych dros ardd gymunol lle gall preswylwyr gyfarfod a dod i adnabod eu cymdogion.
Mae gan bob fflat ddrysau a choridorau llydan, yn ogystal ag ystafelloedd ymolchi hygyrch gyda chawodydd. Mae rhai o’r fflatiau hefyd yn mwynhau golygfeydd dros Fae Abergwaun.
Mae’r fflatiau wedi’u hadeiladu i’r safonau effeithlonrwydd ynni uchaf, gyda sgôr EPC A. Maent wedi’u gosod gyda:
- paneli solar i gynhyrchu trydan
- systemau MVHR (Awyru Mecanyddol gydag Adfer Gwres). Mae’r systemau hyn wedi’u cynllunio i wella ansawdd aer ac effeithlonrwydd ynni’r cartrefi drwy ddod ag aer ffres i mewn a chael gwared ar aer hen o’r cartrefi
- silindrau dŵr poeth Mixergy IHP sy’n gweithio ochr yn ochr â phaneli solar ac sydd tua thair gwaith yn fwy effeithlon na silindrau dŵr poeth trydan uniongyrchol safonol.
Mae Tai Wales & West wedi gweithio gyda Choice Homes@ Pembrokeshire i ddyrannu’r cartrefi yn Angorfa i bobl leol dros 55 oed a oedd ar y gofrestr tai yn aros am gartrefi addas a fforddiadwy.
Dywedodd Glenda Bowen, Rheolwr Tai Rhanbarthol Tai Wales & West: “Mae galw mawr am gartrefi un ystafell wely hygyrch, o ansawdd uchel, ac wedi’u cynllunio’n dda yng nghanol ein trefi ar gyfer pobl sy’n byw’n annibynnol ac sydd am symud i gartref llai o faint, wrth aros yn agos at eu teulu, eu ffrindiau a’r holl gyfleusterau lleol, megis siopau a gwasanaethau iechyd.
“Gwnaethom weithio gyda thîm Choice Homes Cyngor Sir Penfro i ddyrannu’r cartrefi gan ddefnyddio’r polisi cysylltiad trefol, sy’n golygu bod mwyafrif y preswylwyr sy’n symud i mewn â chysylltiad ag Abergwaun, sy’n hollbwysig wrth gynnal a chryfhau’r gymuned.
“Mae’n gyffrous gweld safle hen adeilad masnachol gwag yng nghanol y dref yn cael ei drawsnewid a’i adfywio er mwyn helpu i ddiwallu’r angen am dai yn y dref.”
Glenda Bowen, Rheolwr Tai Rhanbarthol
Cafodd y Cynghorydd Sir, Pat Davies, sy’n cynrychioli Abergwaun, daith o amgylch y fflatiau newydd wrth i breswylwyr ddechrau symud i mewn.

Dywedodd: “Rwyf wedi plesio’n fawr gydag ansawdd a chynllun y cartrefi hyn. Maent yn fodern ac yn eang, gyda digon o olau naturiol a gerddi hardd.
“Mae gwir angen cartrefi fel hyn yn Abergwaun ar gyfer pobl leol sy’n bodloni meini prawf cysylltiad lleol y cyngor ar gyfer tai cymdeithasol.
Rwy’n gobeithio y bydd y preswylwyr sy’n symud i mewn yn hapus iawn ac yn ymgartrefu yn eu cartrefi newydd yma am flynyddoedd lawer i ddod.”
Cynghorydd Sir, Pat Davies
Adeiladwyd Angorfa gyda chyllid rhannol gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Sir Penfro.
