Newyddion

11/06/2026

Cwmni adeiladu lleol yn dechrau gwaith ar ailddatblygu hen Ysbyty Aberteifi

Mae ailddatblygu hen safle Ysbyty Aberteifi wedi cymryd cam mawr ymlaen wrth i’r gwaith adeiladu ddechrau ar y safle.

 

Trosglwyddodd Tai Wales & West y safle i’r Prif Gontractwr Jamson Estates o Dresaith ddydd Llun 8 Mehefin.

 

Bydd y gwaith cychwynnol yn canolbwyntio ar sefydlu’r safle, clirio’r safle a gwaith daear. Disgwylir i hyn gymryd nifer o fisoedd cyn i’r gwaith symud ymlaen at adfer ac uwchraddio Tŷ’r Priordy hanesyddol.

 

Cyn y diwrnod pwysig hwn ar gyfer y datblygiad, a fydd yn gweld 20 o gartrefi’n cael eu hadeiladu ar y safle ochr yn ochr â swyddfeydd a chaffi cymunedol, ymwelodd Bwrdd Tai Wales & West â’r safle i gwrdd â Sam Morris, Cyfarwyddwr Jamson Estates Ltd.

 

Dywedodd Peter Harding, Cadeirydd y Bwrdd yn Nhai Wales & West: “Rydym wrth ein bodd bod y gwaith ar fin dechrau ar hen safle Ysbyty Aberteifi. Bu nifer o heriau annisgwyl ar hyd y ffordd, ond rydym wedi eu goresgyn i gyrraedd y pwynt hwn, felly mae’n gyffrous iawn gweld ein cynlluniau’n dod yn realiti, i ni ac i’r gymuned leol.

 

“O’r wythnos hon ymlaen, bydd preswylwyr lleol ac ymwelwyr ag Aberteifi yn dechrau gweld gweithgarwch adeiladu yn ac o gwmpas y safle wrth i ni gyflawni’r datblygiad pwysig hwn ar gyfer y dref.

 

“Yn ogystal ag effaith weledol gadarnhaol y datblygiad ar y dref pan fydd wedi’i gwblhau, gyda golygfeydd o Eglwys y Santes Fair a Thŷ’r Priordy, rydym yn gobeithio y bydd effaith economaidd gadarnhaol hefyd. Mae’n bwysig i ni ein bod wedi gallu sicrhau Jamson Estates i weithio gyda ni ar y prosiect, gan gefnogi swyddi lleol a’r economi yn ardal Aberteifi.”

 

Dywedodd Sam Morris, Cyfarwyddwr Jamson Estates Ltd, “Rydym wrth ein bodd yn parhau â’n perthynas hir sefydlog gyda Thai Wales & West ar y prosiect hwn. Fel contractwr sydd wedi’i leoli dim ond ychydig filltiroedd o’r safle, rydym yn edrych ymlaen yn arw at y prosiect a’r gwaith y bydd yn ei greu i’n staff lleol a gyflogir yn uniongyrchol ac i’n cadwyn gyflenwi leol.”

 

Bydd y datblygiad yn cael ei adeiladu yn unol â’r cynlluniau a gymeradwywyd ym mis Medi 2024, sy’n cynnwys cadw ac uwchraddio adeilad gwreiddiol y Priordy.

 

Disgwylir i’r gwaith gymryd tair blynedd i’w gwblhau. Bydd y datblygiad yn cynnwys 20 o fflatiau, caffi cymunedol, swyddfeydd ar gyfer Tai Wales & West a llwybrau cyhoeddus pan fydd wedi’i gwblhau.