Newyddion

21/05/2026

Cadw eich cartref yn oer

Y llynedd oedd yr haf poethaf yn y DU ers i’r cofnodion gychwyn, lle y gwelwyd y tymheredd yn codi i dros 33C.
Mae arbenigwyr yn y Swyddfa Dywydd wedi adrodd bod y siawns y bydd y tymheredd yn cyrraedd dros 40C 20 gwaith yn fwy tebygol nag yr oedd 60 mlynedd yn ôl, wrth i’n hinsawdd barhau i gynhesu.
Er bod nifer o bobl yn mwynhau’r tywydd poeth, gall achosi risgiau i iechyd hefyd, yn enwedig i bobl hŷn ac agored i niwed.

Gall y cyngor hwn helpu i’ch cadw chi a’ch cartref yn oer pan fo’r tymheredd yn codi. 

  • dylech gau bleinds a llenni ar ffenestri y mae’r haul yn tywynnau arnynt yn ystod y dydd
  • dylech ddefnyddio llenni tywyllu i rwystro gwres mewn ffordd fwy effeithiol
  • yn ystod cyfnodau poeth iawn, ceisiwch ddefnyddio bleinds thermol adlewyrchol neu ddalenni inswleiddio ffoil ar ffenestri
  • symudwch i ran oerach o’r tŷ, yn enwedig i gysgu
  • gwiriwch bod unrhyw wres wedi cael ei ddiffodd
  • dylech ddiffodd goleuadau ac offer trydanol nad ydych yn ei ddefnyddio
  • dylech fynd y tu allan os yw hi’n oerach yn y cysgod
  • ceisiwch goginio yn gynharach yn y bore neu ddefnyddio dyfeisiau fel ffyrnau araf, microdonnau, neu ffyrnau ffrio yn lle ffyrnau

Creu awel

  • agorwch ffenestri (os yw hi’n ddiogel i chi wneud hynny) pan fo’r aer yn teimlo’n oerach y tu allan nag y mae y tu mewn, er enghraifft yn ystod y nos, a cheisiwch gael yr aer i lifo trwy eich cartref.  Dylech eu cau unwaith eto yn y bore i ddal aer oer y tu mewn
  • agorwch ffenestri sydd gyferbyn â’i gilydd er mwyn creu awel groes 

Cadw eich hun yn oer hefyd

  • cadwch allan o’r haul yn ystod oriau poethaf y dydd, rhwng 11am a 3pm
  • os ydych chi’n bwriadu gwneud gweithgarwch corfforol (er enghraifft ymarfer corff neu gerdded y ci), trefnwch wneud hynny yn y bore neu gyda’r hwyr pan fydd hi’n oerach
  • os byddwch yn mynd y tu allan, gwisgwch ddillad addas i orchuddio eich corff, fel het briodol a sbectolau haul, chwiliwch am gysgod a gwisgwch eli haulyfwch ddigon o hylif a chyfyngwch ar swm yr alcohol y byddwch yn ei yfed
  • cadwch olwg ar deulu, ffrindiau neu gymdogion y gallent fod mewn mwy o berygl
  • dylech wybod symptomau gorflinder gwres a thrawiad gwres a’r hyn i’w wneud os byddwch chi neu rywun arall yn dioddef o hyn

Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru fwy o gyngor.