Newyddion

14/04/2026

Siarad â phreswylwyr yn Nhongwynlais

Mae ein timau wedi bod allan yn siarad â phreswylwyr yn Ne Cymru fel rhan o’n Sgyrsiau Cymunedol parhaus.

Ym mis Ebrill, ymwelsom â phreswylwyr yn ystâd Catherine Drive, Tongwnylais. Wedi’i leoli yng nghysgod Castell Coch hanesyddol, mae’r cynllun yn gartref i fwy na 100 o deuluoedd ac unigolion.  

Gwrando ar breswylwyr 

Credwn mai’r ffordd orau i ni wneud gwelliannau a theilwra gwasanaethau, yw drwy wrando ar yr hyn y mae preswylwyr yn ei ddweud wrthym, a gweithredu ar sail yr adborth hwnnw. 

Treuliodd y staff ddiwrnod ar y safle, yn sgwrsio â phreswylwyr am eu profiadau, ac yn gwrando ar eu barn a’u syniadau am eu cartrefi a’u cymuned.  

Roedd Chris Walton, Rheolwr Tai Rhanbarthol ar gyfer yr ardal, yn un o’r tîm a oedd yn rhan o’r Sgwrs Gymunedol. 

Dywedodd: “Mae ein sgyrsiau â phreswylwyr ardal Catherine Drive wedi bod yn werth chweil.Gwnaethom gyfarfod â llawer o breswylwyr, rhai ohonynt wedi byw yno ers i’r cartrefi gael eu hadeiladu yn y 1970au. Dywedon nhw wrthym ba mor hapus oeddent gyda’u cartrefi.”  

“Dywedodd rhai preswylwyr y gall biniau ac ailgylchu fod yn broblem mewn rhai rhannau o’r ystâd, a gwnaethant awgrymiadau i wella’r sefyllfa.” 

“Rydym yn gwerthfawrogi’r amser a roddodd pobl i siarad â ni. Byddwn yn adolygu’r holl sylwadau a roddwyd gan breswylwyr er mwyn chwilio am themâu cyffredin.   Yna byddwn yn cysylltu â’r preswylwyr eto i’w hysbysu beth y byddwn yn ei wneud.”  
Chris Walton, Rheolwr Tai Rhanbarthol

Mae Sgyrsiau Cymunedol yn gyfle i chi ddweud eich dweud a chymryd rhan yn llunio’r pethau sy’n bwysig i chi yn lleol.  

Dyma rai o’r ardaloedd rydym wedi ymweld â nhw’n ddiweddar: 

  • Maes Hyfryd, Wrecsam 
  •  Golwg Y Llan, Eglwyswrw, Sir Benfro 
  • Maes Y Mynydd, Trefdraeth, Sir Benfro 
  • Cae Mawr, Llandudno, Conwy 
  • Hill Court, Maes y Barics, Wrecsam