Sut ydym yn perfformio?
Croeso i’n hadroddiad diweddaraf, sy’n dangos sut yr ydym yn perfformio fel landlord. Mae’r ffigurau yn yr adroddiad hwn yn ymwneud â’r tri mis rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2025.

Cynnal a chadw
Mae ein cwmni grŵp Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria yn cwblhau tri o bob pedwar o’r atgyweiriadau o ddydd-i-ddydd ar gartrefi preswylwyr. Fodd bynnag, mae peth o’r gwaith mwy arbenigol yn cael ei wneud gan gontractwyr allanol. Mae’r gwaith hwn yn aml yn fwy cymhleth a gall gymryd mwy o amser.
Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria
11,587
nifer y tasgau trwsio a gwblhawyd
15.7
nifer gyfartalog y diwrnodau a gymrwyd i gwblhau gwaith trwsio
98.8%
cadwyd at apwyntiadau
72%
y ganran a drwsiwyd gennym y tro cyntaf
Contractwyr allanol
970
nifer y tasgau trwsio a gwblhawyd
17
nifer gyfartalog y diwrnodau a gymrwyd i gwblhau gwaith trwsio
Cymerodd gwaith trwsio trydanol 11 diwrnod (ar gyfartaledd)
Cymerodd gwaith trwsio ar system wresogi 11 diwrnod (ar gyfartaledd)
Gwneud ein cartrefi yn fwy ynni-effeithlon
Cwblhaom waith i wella’r effeithlonrwydd ynni mewn187 o gartrefi.
Mae’r ystod o waith wedi cynnwys:
- uwchraddio systemau gwresogi, awyru a dŵr poeth
- gosod paneli ffotofoltäig solar a batris i storio’r ynni a gynhyrchir
- gosod deunydd inswleiddio ar waliau mewnol ac allanol rhai o’r cartrefi
Mae’r 11 prosiect hyn wedi’u hariannu gan Brosiect Ôl-osod Optimeiddiedig (ORP) Llywodraeth Cymru.
Rydym wedi dechrau cynllunio ar gyfer y cam nesaf o gyllid ORP wrth i ni edrych ar fwy o gartrefi a allai elwa o’r math hwn o waith gwella.

Gwaith a gynlluniwyd
129
ceginau
44
ystafelloedd ymolchi
77
uwchraddio’r system gwresogi
31
drysau ffrynt
33
drysau cefn
106
ffenestri
Rhenti
Mae ôl-ddyledion rhent (ar gyfartaledd) wedi parhau i ostwng i 1.23% erbyn diwedd y Cwarter. Mae hwn yn is na chyfartaledd 2023, sef 1.47%. Diolch am barhau i dalu eich rhent mewn pryd.
Mae bron pob un o’n preswylwyr yn cynnal cynllun talu cytunedig. Yn ystod y cyfnod hwn, talodd 94% o breswylwyr eu rhent fel y trefnwyd gyda’u Swyddog Tai.
95%
o breswylwyr yn talu eu rhent fel y trefnwyd gyda Swyddogion Tai
1.16%
o denantiaethau mewn ôl-ddyledion rhent ar hyn o bryd
5,789
o breswylwyr yn defnyddio Debyd Uniongyrchol i dalu eu rhent
69
o breswylwyr mewn lefel uchel o ôl-ddyledion rhent
Gosodiadau
213
gosodwyd 246 o gartrefi
47
nifer gyfartalog o ddiwrnodau i ailosod cartref
55%
gosodwyd 45% o eiddo i aelwydydd digartref
Eich cadw yn ddiogel yn eich cartref
Er mwyn cadw preswylwyr yn ddiogel, rydym yn cynnal gwiriadau a gwasanaethau rheolaidd a thrylwyr o’r prif systemau yn ein cartrefi a’n cynlluniau yn unol â’n cyfrifoldebau cyfreithiol.
Mae
9,785
o gartrefi wedi cael archwiliad diogelwch nwy blynyddol. Mae hyn yn golygu ein bod yn cydymffurfio 99.94%.
Mae gan
11,748
o gartrefi dystysgrif diogelwch trydanol dilys. Rydym yn cydymffurfio 99.77%.
Mae
716
o gartrefi a chynlluniau yn cael asesiad risg tân o leiaf unwaith y flwyddyn. Rydym yn cydymffurfio 100%.
Mae
79
o gynlluniau’n cael eu gwirio am ddiogelwch dŵr bob mis. Rydym yn cydymffurfio 98.73%.
Mae
177
o ardaloedd mewn cynlluniau sy’n cynnwys deunyddiau asbestos yn cael eu gwirio bob blwyddyn. Rydym yn cydymffurfio 100%.
Mae
72
lifft yn cael eu gwirio am ddiogelwch bob chwe mis. Rydym yn cydymffurfio 100%.
Bodlonrwydd
Y sgôr a roddir ar raddfa o 0-10 lle mae 0 yn wael a 10 yn ardderchog.
8.6
bodlonrwydd preswylwyr newydd gyda gosodiadau
9.4
atgyweiriadau Cambria
9.4
atgyweiriadau contractwyr allanol
8.9
cartrefi newydd
Gwnaethpwyd 43 o gwynion yn ystod y cyfnod hwn
Cartrefi newydd
44
Cwblhawyd 51 o gartrefi newydd
684
o gartrefi newydd yn cael eu hadeiladu ar hyn o bryd
O’r rhain gartrefi newydd yn cael eu hadeiladu :
237
yn cael eu hadeiladu yng Ngogledd Cymru
211
yn cael eu hadeiladu yn Ne Cymru
236
yn cael eu hadeiladu yng Ngorllewin Cymru
648
ar gyfer rhent cymdeithasol
16
yn Berchentyaeth Cost Isel
20
yn cael eu gwerthu trwy Own Home Cymru

Sut yr ydym yn rhedeg ein busnes
Cawsom 422 o alwadau y dydd ar gyfartaledd am waith trwsio a gwresogi, a 130 o alwadau y dydd i’n Tîm Cymorth Tai
Yr amser aros cyfartalog i breswylwyr a oedd yn ffonio i’r Tîm Gwaith Trwsio 37 eiliad a 55 eiliad i’n Tîm Cymorth Tai
9am-10am
oedd yr amser prysuraf i ffonio ein Tîm Trwsio
10am-11am
oedd yr amser prysuraf i ffonio ein Tîm Cymorth Tai