Newyddion

23/05/2022

Cwmnïau Gorau 2022 (C1): Cymdeithas tai orau yng Nghymru a statws ‘cwmni o safon byd i weithio iddo’

Mae Grŵp Tai Wales & West ymhlith y pum cwmni gorau i weithio iddynt yng Nghymru ac mae’n gwmni o safon byd o ran gweithgarwch ymgysylltu gyda chyflogeion.

Mae Cwmnïau Gorau wedi dyfarnu ei statws uchaf i’r Grŵp, sef tair seren, yn dilyn arolwg a oedd yn gofyn i’r staff roi adborth am agweddau ar eu gweithle, gan gynnwys lles, gwaith tîm, tâl a buddion, arweinyddiaeth a thwf personol.

Yn ogystal â sicrhau’r safle uchaf yng Nghymru – ar draws pob cwmni a chategori – barnwyd mai’r Grŵp yw’r trydydd cymdeithas tai orau i weithio iddi yn y DU ac mae ymhlith y 25 sefydliad mawr gorau i weithio iddynt yn y DU (200-1999 o gyflogeion).

Bellach, gall tri chwmni y Grŵp ddangos logo achrediad Cwmnïau Gorau i ddynodi’r cyflawniad a’r lefelau ymgysylltu yn y cwmni. Mae hyn yn cynnwys Tai Wales & West, Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria a Mentrau Castell.

Dywedodd Anne Hinchey, Prif Weithredwr Grŵp Wales & West: “Mae hwn yn gyflawniad gwych, yn enwedig o ystyried y sialensiau nas gwelwyd eu tebyg o’r blaen y bu’n rhaid eu hwynebu dros y blynyddoedd diwethaf. Mae’n glod i’n cydweithwyr sy’n gwneud yr ymdrech arbennig honno bob dydd i wneud gwahaniaeth i’n preswylwyr a’n cwsmeriaid.

“Ni fyddai’r achrediad hwn wedi bod yn bosibl heb waith caled ac ymroddiad pawb. Mae’r Grŵp yn cynnwys tri sefydliad gwahanol ond rydym yn cydweithio fel un.”

Roedd canlyniadau’r arolwg wedi datgelu:

•Bod dros bedwar o bob pump cyflogai (88%) yn cytuno bod y sefydliad yn annog gweithgareddau elusennol
•Dywedodd bron i ¾ o gyflogeion bod y profiad a gawsant o’u swydd yn werthfawr ar gyfer eu dyfodol
•Dywedodd 81% bod eu rheolwr yn siarad mewn ffordd agored a gonest gyda nhw

Caiff Cwmnïau Gorau ei gydnabod fel safon blaenllaw ym maes ymgysylltu yn y gweithle. Am ragor o wybodaeth, trowch at https://www.b.co.uk/

 

Andrew Price

andrew.price@wwha.co.uk07881 379 098 Andrew yw ein Swyddog CC a Marchnata ar gyfer Gogledd Cymru