Newyddion

23/05/2022

Cynlluniau ar gyfer cartrefi newydd yn Arberth

Mae Tai Wales & West, darparwr tai, wedi cyhoeddi cynlluniau i adeiladu cartrefi newydd yng nghanol Arberth, y gallent helpu pobl leol i ddringo ar yr ysgol eiddo.

Lansiwyd ymgynghoriad cyhoeddus er mwyn cynnig y cyfle i breswylwyr lleol fynegi eu safbwyntiau am y cynlluniau i adeiladu 89 o gartrefi newydd ar safle rhwng Rhodfa Adams a Gerddi Bloomfield.

Nod y cynlluniau a gyflwynwyd i Gyngor Sir Penfro yw adeiladu cynllun a fydd yn cynnwys tai, fflatiau a byngalos 1, 2, 3 a 4 ystafell wely ar y safle, sy’n dri chae agored ar hyn o bryd.

Neilltuwyd yr ardal yn safle allweddol ar gyfer datblygiad preswyl yng Nghynllun Datblygu Lleol Cyngor Sir Penfro er 2006.  Mae’r awdurdod lleol yn disgwyl y bydd 25 y cant o’r cartrefi yn rhai fforddiadwy.

Fodd bynnag, mae Tai Wales & West yn cynnig y bydd tua hanner y cartrefi ar gael i’w rhentu am rhent fforddiadwy neu’n cael eu cynnig fel rhai i’w gwerthu fel rhan o gynllun perchentyaeth gyda gostyngiad.  Dan gynlluniau o’r fath, gwerthir cartrefi am 70 y cant o’u gwerth ar y farchnad er mwyn helpu pobl sydd â chysylltiad lleol ac sy’n dymuno prynu eu cartref eu hunain, ond na allant fforddio’r prisiau eiddo sy’n codi yn Arberth.  Gwerthir y gweddill ar y farchnad agored.

Comisiynodd WWH y cwmni o ymgynghorwyr datblygu o Abertawe, Asbri Planning a phenseiri Hammonds i baratoi cynlluniau ar gyfer y safle, ac i gynnal Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio (PAC) Statudol 28-diwrnod.

Bydd modd gweld y cynlluniau mewn arddangosfa gyhoeddus, a gynhelir yng Nghanolfan Gymunedol Tŷ Bloomfield ar ddydd Mercher, 8 Mehefin rhwng 2pm a 7pm.  Estynnir gwahoddiad i bobl leol alw heibio a chyfarfod staff o dîm datblygu WWH ac Asbri planning er mwyn gweld y cynigion a’u trafod.

Dywedodd Jon Hurley, Cyfarwyddwr Asbri Planning:  “Credwn bod hwn yn gyfle gwych i greu cartrefi newydd a fydd yn cynnig budd i bobl Arberth.  Yn gyffredinol, bydd y cynllun arfaethedig yn cynnig amrywiaeth o gartrefi newydd a fydd yn apelio at rannau mawr o’r gymuned leol, gan gynnwys prynwyr tro cyntaf, y rhai sy’n dymuno symud i gartref llai o faint, a phobl leol nad ydynt yn gallu fforddio rhentu cartref yn breifat.

“Rydym yn dymuno sicrhau bod y cartrefi yr ydym yn eu cynllunio yn cyd-fynd â dyluniad a theimlad yr ardal.  Mae’r dyluniadau yn dwyn ynghyd swyn Arberth fel pentref tawel a’r gwyrddni presennol ar y safle mewn ffordd sy’n barchus ac sy’n cyd-fynd â chartrefi eraill yn yr ardal.”

Dywedodd Matthew Owens, Rheolwr Datblygu Masnachol ar gyfer Tai Wales & West Housing:  “Mae hwn yn brosiect cyffrous i WWH ac i’r gymuned.  Ceir gwir angen am gartrefi y gall pobl leol fforddio eu rhentu a’u prynu.  Mae hwn yn safle pwysig gerllaw canol y dref ac yn agos i nifer o gyfleusterau, a theimlwn y bydd yn helpu i fodloni anghenion tai lleol.”

“Byddwn yn gweithio gyda thîm tai Cyngor Sir Penfro fel bod y cartrefi y byddwn yn eu hadeiladu i’w rhentu am rhent fforddiadwy yn cael eu neilltuo i’r bobl leol hynny yn yr angen mwyaf ac y maent wedi cofrestru gyda Chartrefi Dewisedig Sir Benfro.”

“Fel sefydliad nid-er-elw, bwriadwn werthu rhai o’r cartrefi newydd ar y farchnad agored, a fydd yn caniatáu i ni ddarparu mwy o gartrefi fforddiadwy na’r gofyn ar gyfer prosiect o’r maint hwn.”

“Mae WWH yn gweithio gyda chontractwyr lleol ar ein datblygiadau, gan ddarparu swyddi ar gyfer y gymuned.  Yn ogystal, rydym yn annog ein cyflenwyr a’n contractwyr i gefnogi ac i gyfrannu at brosiectau lleol mewn cymunedau lle’r ydym yn adeiladu cartrefi newydd.”

Bydd modd gweld y cynlluniau ar gyfer Rhodfa Adams fel rhan o ymgynghoriad cyhoeddus o ddydd Llun 23 Mai tan ddydd Llun 20 Mehefin, er mwyn cynnig y cyfle i bobl leol eu gweld a rhoi adborth amdanynt.  Fel rhan o’r ymgynghoriad cyhoeddus, mae WWH wedi creu fideo sy’n cynnig trosolwg o’r datblygiad arfaethedig.

I weld y fideo, trowch at https://vimeo.com/manage/videos/671066617/360efb0cd4

I weld dogfennau’r Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio, trowch at https://www.asbriplanning.co.uk/statutory-pre-application-consultation/land-to-the-north-of-adams-drive-narberth-tir-ir-gogledd-o-adams-drive-arberth/

Digwyddiad Cyhoeddus

Dydd Mercher, 8 Mehefin
2pm tan 7pm
Canolfan Gymunedol Tŷ Bloomfield, Arberth
Cysylltwch â mail@asbriplanning.co.uk neu ffoniwch 02920 732652 os bydd gennych chi unrhyw ymholiadau.

 

Alison Stokes

alison.stokes@wwha.co.uk 07484 911100 Alison yw ein Swyddog CC a Marchnata ar gyfer De a Gorllewin Cymru.