Rydym yn cynhyrchu’r fideos hyn er mwyn helpu preswylwyr presennol a newydd i ddeall y cynhyrchion a’r dechnoleg yn eu cartref. Gallai ymddangosiad modelau amrywio i’r rhai a ddangosir yma, ond fel arfer, byddwch yn gweld bod eu gweithrediad yr un fath. Am gyfarwyddiadau mwy manwl, trowch at lawlyfr defnyddiwr y cynhyrchion neu defnyddiwch yr adnoddau y nodir cyswllt iddynt isod.

Sut i ddefnyddio: Boeler

Bydd y boeler wedi cael ei osod cyn i chi symud i mewn, felly peidiwch â’i droi i ffwrdd na newid unrhyw rai o’r gosodiadau.

Caiff dŵr poeth ei gyflenwi yn ôl y galw, a gallwch newid tymheredd eich gwres trwy ddefnyddio’r rheolydd thermostatig sydd yn eich cyntedd.

Os byddwch chi heb ddŵr poeth neu wres, yr achos mwyaf cyffredin yw diffyg pwysedd yn y system.

Gallwch gadarnhau hyn trwy edrych ar y dangosydd electronig ar y boeler ei hun.

Mae cod F22 yn dweud wrthym bod diffyg pwysedd yn golygu nad oes gennych chi unrhyw ddŵr poeth na gwres.

Bydd y bar pwysedd ar y dangosydd dan y linell hefyd.

Gallwch weld y ddau dap bach ar y pibellau dan eich boeler, agorwch un o’r rhain yn llawn, yna agorwch yr ail dap yn araf.

Byddwch yn clywed sŵn ysgafn dŵr yn llenwi yn ôl a bydd y bariau ar y dangosydd electronig yn codi.

Ar ôl iddo gyrraedd y canol, dylech gau’r ddau dap fel y dangosir.

Dylai eich gwres a’ch dŵr poeth fod yn gweithio unwaith eto nawr.

Gosodir rheolyddion thermostatig unigol ar reiddiaduron ym mhob ystafell, ac mae’r rhain yn cynnwys gosodiadau o rif un, yr oeraf, i rif pump, y twymaf.

Gallwch newid y rhain yn unigol er mwyn sicrhau’r tymheredd angenrheidiol ym mhob ystafell.

Cysylltiadau BT

Ffaniau EnviroVent

Blwch ffiwsiau

Blwch Mesurydd