*Dim lleiniau ar gael – bydd lleiniau newydd ar gael yn gynnar yn 2027*
Mae Tai Wales & West yn cynnig amrediad o gartrefi dwy a thair ystafell wely o safon da yn natblygiad poblogaidd Gerddi De Clare Redrow yn Hendrenny, Caerffili.
Dan gynllun Rhannu Ecwiti, cynigir yr eiddo hyn am 70% o’u gwerth ar y farchnad agored (yn unol â meini prawf penodol). Sylwer mai’r pris a hysbysebir yw’r gwerth 70%. Byddech chi’n berchen ar 100% o’r eiddo a byddai pridiant cyfreithiol yn cael ei ddal ar 30% ohono, ac ni fyddai unrhyw rent na llog yn daladwy ar y gyfran ecwiti.
- Cartrefi newydd mewn lleoliad poblogaidd
- Cartrefi dwy a thair ystafell wely
- Ystafell gotiau ar y llawr gwaelod
- Lle parcio oddi ar y ffordd
- Cynllun agored
Mae’r holl ddelweddau yn cynrychioli’r math o eiddo a gynigir, ond efallai na fyddant yn cyd-fynd yn hollol.
Cofrestrwch eich diddordeb trwy gysylltu â Bethan Christofides yn Nhai Wales & West ar 07790 396 683.
Gweithredir y cynllun hwn gan Dai Wales & West mewn partneriaeth â’r awdurdod lleol er mwyn cynorthwyo’r rhai sy’n prynu am y tro cyntaf* ac sy’n dymuno bod yn berchen ar eu cartref eu hunain, ond nad ydynt yn gallu talu’r gost lawn o brynu eu cartref cyntaf.
Cynigir cartrefi dan y cynlluniau i brynwyr am 70% o’u gwerth ar y farchnad agored. Byddech chi’n berchen ar yr eiddo yn llwyr, ond byddai Tai Wales & West yn dal pridiant cyfreithiol mewn perthynas â’r gyfran ecwiti o 30% sy’n weddill. Dim ond morgais am y 70% y byddai angen i chi ei sicrhau, ac ni fyddai unrhyw log neu rhent yn daladwy ar y gyfran ecwiti o 30%.
Bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus ddangos trwy forgais mewn egwyddor eu bod yn gallu ariannu 70% o werth yr eiddo. Byddai blaendal o rhwng 5% ac 15% yn ofynnol o hyd gan gwmnïau morgais fel arfer.
Bydd prynu eiddo trwy’r cynllun yn golygu y bydd angen talu’r costau arferol sy’n gysylltiedig â phrynu eiddo ar y farchnad agored o hyd, gan gynnwys prisiad, ffioedd morgais ac arolygon, ffioedd cyfreithiol a threth stamp.
Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y cynllun, rhaid bod ymgeiswyr:
- dros 18 oed
- yn ddeiliad pasbort y DU neu UE / AEE neu bod stamp ‘Caniatâd Amhenodol i Aros’ ar eu pasbort
- yn prynu cartref am y tro cyntaf*
- yn gallu bodloni’r ymrwymiad ariannol hirdymor o fod yn berchen ar gartref
*Ar gyfer y cynllun hwn, ystyrir bod rhywun sy’n prynu am y tro cyntaf yn unigolyn/unigolion nad ydynt fyth wedi berchen ar eiddo (trwy forgais neu heb fod trwy forgais) o’r blaen, nad ydynt fyth wedi berchen ar eiddo yn rhannol neu ar y cyd, neu fyth wedi cael eu henw ar forgais neu weithredoedd eiddo. Fodd bynnag, fesul achos unigol, ystyrir ymgeiswyr sy’n prynu am y tro cyntaf eu hunain, lle y gallent fod wedi bod yn berchen ar eiddo ar y cyd yn flaenorol, ond y mae hwn wedi cael ei werthu erbyn hyn, er enghraifft o ganlyniad i ysgariad.
Bydd angen ad-dalu’r gyfran ecwiti o 30% i Dai Wales & West yn unol â chyfradd y farchnad ar yr adeg pan werthir yr eiddo. Gall hyn olygu y bydd angen i chi ad-dalu mwy na’r 30% gwreiddiol efallai os bydd gwerth yr eiddo wedi codi, neu lai os bydd gwerth yr eiddo wedi disgyn.
Fel rhan o’r cynllun, cynigir yr eiddo i brynwyr cymwys am 70% o’u gwerth ar y farchnad. Er enghraifft, os yw’r eiddo yn werth £100,000, bydd angen i’r prynwyr sicrhau morgais o £70,000 a bydd Tai Wales & West yn cadw’r gwerth 30%, sef £30,000.
Pan fyddwch yn dymuno gwerthu eich eiddo, rhaid i chi gysylltu â Wales & West yn y lle cyntaf, gan ei fod yn cadw’r hawl i brynu’r eiddo yn ôl.
Os bydd Wales & West yn dewis peidio â defnyddio’r hawl hon, bydd gofyn i chi gynnig yr eiddo ar werth drwy’r cynllun yn y lle cyntaf, er mwyn galluogi prynwr tro cyntaf arall i elwa ar y cynllun.
Bydd yr amserlenni ar gyfer y broses hon wedi’u nodi yn eich dogfennaeth gyfreithiol. Os na fydd prynwyr addas yn cael ei ganfod ar gyfer yr eiddo o fewn yr amserlenni hyn, byddwch yn rhydd i werthu eich eiddo ar y farchnad agored heb unrhyw gyfyngiadau.
Bydd angen i ni gytuno ar werth marchnad yr eiddo cyn i unrhyw werthiant fynd rhagddo, a rhaid i’r gwerth hwn gael ei bennu gan syrfëwr sydd wedi’i achredu gan RICS.
Bydd angen ad-dalu’r gyfran ecwiti a gedwir, sef 30% o werth yr eiddo, i Wales & West ar yr adeg y gwerthir yr eiddo.
Pwy sy’n gymwys am y cynllun perchentyaeth cost isel hwn? I fod yn gymwys ar gyfer y cynllun, rhaid bod ymgeiswyr:
dros 18 oed
yn ddeiliad pasbort y DU neu UE / AEE neu fod ‘Caniatâd Amhenodol i Aros’ wedi’i stampio yn eu pasbort er mwyn iddynt fod yn brynwr tro cyntaf*
yn gallu bodloni ymrwymiadau ariannol hir dymor byr o fod yn berchen ar gartref
heb fod yn ennill dros yr uchafswm a bennwyd o ran incwm yr aelwyd; £35,000 i ymgeisydd unigol neu £45,000 i ymgeiswyr ar y cyd
*Caiff prynwr tro cyntaf ar gyfer y cynllun hwn ei ystyried yn unigolyn/unigolion nad ydynt fyth wedi bod yn berchen ar eiddo gyda morgais neu heb forgais) o’r blaen, nad ydynt fyth wedi bod yn berchen ar eiddo ar y cyd â rhywun arall neu ran o eiddo, neu nad ydynt fyth wedi cael eu henw ar forgais neu weithred eiddo. Ystyrir y sefyllfa fesul achos, fodd bynnag, ar gyfer ymgeiswyr sy’n brynwyr tro cyntaf eu hunain, lle y gallent wedi bod yn berchen ar eiddo ar y cyd yn flaenorol, ond y mae bellach wedi cael ei werthu, er enghraifft o ganlyniad i ysgariad.
Sylwer y gwerthir yr eiddo hyn i ymgeiswyr a fydd yn gymwys yn y lle cyntaf ac yn ail, y rhai sy’n cael cynnig morgais ac y maent mewn sefyllfa i gwblhau’r broses brynu.”
Sylwer y gwerthir yr eiddo hyn i ymgeiswyr a fydd yn gymwys yn gyntaf, ac yn ail, i’r rhai a fydd yn llwyddo i gael cynnig morgais neu y maent mewn sefyllfa i gwblhau’r broses brynu yn gyntaf.
Bydd prynu eiddo dan y cynllun yn golygu y bydd yn rhaid talu’r holl gostau arferol sy’n gysylltiedig â phrynu eiddo ar y farchnad agored, gan gynnwys:
- ffioedd arolygu / prisiad
- ffioedd cyfreithiwr
- costau y gofrestrfa tir
- ffioedd chwilio
- blaendal morgais
- treth stamp
Byddai’n ddoeth bod gennych chi gynilion i dalu’r costau hyn. Yn ychwanegol i’r costau unigol uchod sy’n gysylltiedig â phrynu eiddo, byddwch yn gyfrifol am gostau parhaus hefyd megis:
- taliadau morgais misol
- taliadau treth gyngor
- biliau cyfleustodau: nwy, trydan, dŵr ac ati
- costau cynnal a chadw a thrwsio yr eiddo
- yswiriant cynnwys
- yswiriant bywyd neu yswiriant bywyd morgais
Mae’r prynwr yn gyfrifol am egluro ac ystyried yr holl gostau posibl sy’n gysylltiedig â phrynu a rhedeg eiddo.
Codir rhai taliadau ar gyfer rhai o’n Cynlluniau Perchentyaeth Cost Isel. Bydd y wybodaeth hon yn cael ei darparu fesul cynllun.