Beth sy'n newydd
Rydym yn croesawu preswylwyr i’w cartrefi newydd gan nodi pennod newydd yn hanes tafarn yn Abergwaun
Mae preswylwyr wedi dechrau symud i mewn i’w fflatiau newydd yn Angorfa, datblygiad newydd Tai Wales & West o 12 fflat i bobl dros 55 oed yng nghanol Abergwaun.
Mae gwrando ar breswylwyr yn helpu i ddod â’r gymuned ynghyd yn Nhongwynlais
Residents told us they'd like more activities for children when we held a Community Conversation at Catherine Drive, Tongwynlais.
As part of the action plan, we organised a summer fun day.
Bydd rhoddion i elusennau newydd y Bwrdd yn helpu i wella bywydau pobl ag anableddau dysgu yng Nghymru
Bydd Mencap Cymru ac Anabledd Dysgu Cymru yn derbyn £30,000 yr un, wedi’i rannu’n dair rhodd o £10,000 dros y tair blynedd nesaf, ar ôl cael eu dewis yn elusennau Bwrdd Tai Wales & West ar gyfer 2026.
Gwella cartrefi i rai o’n preswylwyr yn y Rhyl
Mae gwelliannau ar y gweill mewn bloc o fflatiau ar lan y môr yn y Rhyl er mwyn helpu preswylwyr i ymdopi â heriau tywydd unigryw.
Sefydliad Prydeinig y Galon (British Heart Foundation) a Calon Hearts yw elusennau staff Grŵp Tai Wales & West ar gyfer 2026-27.
Bydd yr holl elw o weithgareddau codi arian staff dros y ddwy flynedd nesaf yn cael ei rannu'n gyfartal rhwng y ddwy elusen.
Cwmni adeiladu lleol yn dechrau gwaith ar ailddatblygu hen Ysbyty Aberteifi
Mae Jamson Estates o Dresaith yn arwain y prosiect a fydd yn cadw Tŷ Nash hanesyddol ac yn darparu 20 o gartrefi, caffi cymunedol a swyddfeydd ar y safle.
Cadw eich cartref yn oer
Mae ein hafau yn poethi – mae hynny’n ffaith! Gall y cyngor hwn helpu i’ch cadw chi a’ch cartref yn oer pan fo’r tymheredd yn codi.
Amser i arddwyr Penarth ofyn cwestiynau
Roedd y gerddi cymunedol ymhlith y nifer o bynciau a drafodwyd pan ymwelodd ein tîm â phreswylwyr cynllun ymddeol Oak Court ym Mhenarth fel rhan o’n Sgyrsiau Cymunedol.
£64,000 wedi’i godi gan staff Grŵp Tai Wales & West ar gyfer pedair elusen
Derbyniodd Cymdeithas Clefyd Motor Neurone (MND), Cymru Arthritis UK, Cerebral Palsy Cymru a Parkinson's UK Cymru £16,000 yr un i gefnogi'r gwaith hanfodol y maent yn ei wneud mewn cymunedau ar draws Cymru.









